PENWYTHNOS 'PIMS': BANNAU BRYCHEINIOG 18-20 IONAWR 2019

Mae’n hen arfer gennym i drefnu taith i PIMS. Eleni, y bwriad oedd bwrw lan i Fannau Brycheiniog nos Wener, a thrannoeth dringo mynydd uchaf de Cymru - Pen y Fan. Gan i ni benderfynu mynd ym mis Ionawr, ‘roedd yna bosibilrwydd real iawn y buasai’r tywydd yn ein gwahardd rhag mentro! Felly y bu. Ta waeth, cawsom, wedi noson o rialtwch, gyfle ben bore Sadwrn i deithio draw i’r canolfan ddringo yn Llan-gors. Yno, am y diwrnod, buom yn dringo lan y muriau serth a disgyn - gyda gofal - lawr i’r llawr dim ond i ddechrau dringo eto! Roedd yno ogof dywyll du. Sialens go iawn oedd ffeindio’n ffordd allan! Roedd rhaff uchel â chloch i’w chanu wedi cyrraedd y top. Dim ond 40 troedfedd o ddringo; llwyddodd amryw ohonom. Penderfynodd Owain Llyr y gallasai yntau hefyd lwyddo yn hyn o gamp. Bydd ei ymdrechion maes o law yn destun chwedl a chân. Mynnai’r Gweinidog iddo lwyddo i ddringo dros dri chwarter y ffordd i fyny cyn gorfod llacio’i afael a disgyn yn benisel i’r llawr. (Dylid er cywirdeb nodi mae dim ond traean o’r ffordd lan - os hynny - y llwyddodd i gyrraedd!)

Ond nid chwarae mo’r cyfan, bu cyfle am drafodaethau eang a da, yn answyddogol a’r cwmni wedi ymgynnull ar derfyn dydd. Testun y trafod swyddogol oedd Doethineb Duw. Bu Beca, Dyfrig ac Owain yn ein harwain i ystyried goblygiadau derbyn neu wrthod ei ddoethineb mawr ef. Bu bwthyn Coed Owen yn gartref delfrydol am y penwythnos, a Maggie, a fu’n paratoi bwyd ar ein cyfer, yn wych iawn. Diolch i Wales Activity Breaks am drefnu’r cyfan. Mawr ein diolch i Beca a Dyfrig am bob cymwynas a charedigrwydd. Buasai’r cyfan yn amhosibl hebddynt.

'BETHANIA': ESTHER

Os oes gennych Feibl wrth eich penelin, trowch os gwelwch yn dda i Lyfr Esther, i bennod 2 a 3.

Esther 2:1-20

Canlyniad cystadleuaeth oedd dewis Esther (2:2,3). Dyma fersiwn cynnar o’r ‘Pwy yw’r bertaf?’ cyfoes! Dengys y cystadlaethau ‘brenhines y lle-a’r-lle’ nad yw dyn wedi datblygu lawer ers y dyddiau cynnar hyn.

Ar orchymyn y brenin ni allasai Iddewes wrthod. Newidiwyd enw Hadassab i Esther, sef ffurf ar Ishtar, Fenws Berso-Fabilonaidd, duwies cariad. Yng nghanol llwyddiant ei dewis, ni chawsai ddatguddio ei hachau: Ond ni fynegasai Esther ei phobl na’i chenedl canys Mordecai a orchmynasai iddi nad ynganai, ‘Roedd ofn yn teyrnasu ym malan y brenin ac ym mherthynas brenin a brenhines.

Awgrymir gan rai y seiliwyd darlun Esther ar stori Phaedymion, merch o Bersia, a achubodd ei phobl o deyrnasiad creulon y Magi. Edrydd Herodotus stori Phaedymion.

Esther 2:21-23

Mae cynllwynio yn erbyn brenhinoedd ac awdurdodau gwladwriaethol yn rhan o hanes y byd erioed ... ildiodd Bigthan a Theres, dau o ystafellyddion y brenin, sef o’r rhai oedd yn cadw y trothwy, a cheisiasant estyn llaw yn erbyn y brenin Ahasferus.

Dilyn cynllwyn gyda lladd ... am hynny crogwyd hwynt ill dau ar bren. Ni all cynllwyn aros yn ei unfan.

Awgrymir i’r stori gael ei threfnu’n wael yn y fan hon oherwydd ni feiddiai Mordecai anfon ei adroddiad o’r cynllwyn trwy Esther o bawb, ac felly gwanhau ei gyngor ei hun iddo beidio â datguddio ei pherthynas ag ef. Mae’n debyg mai Haman a gafodd y neges, ac felly enynnodd eiddigedd hwnnw.

Sonia Paul yn Effesiaid 6:11 am gynllwynion diafol. Ystyr ‘cynllwyn’ mewn Groeg yw ‘amgylchffordd’, a chan fod cynllwynwyr yn cymryd ‘ffordd o amgylch’ yr hyn sydd iddynt yn drafferth, daeth y gair i ddynodi ‘cynllwyn’, da neu ddrwg.

I gyfarfod â chynllwynion diafol, meddai Paul, rhaid gwisgo holl arfogaeth Duw.

Esther 3

Gwrthyd Mordecai ymgrymu i Haman, a dyma ddechrau’r ymosodiad ar yr Iddewon. Mewn hanes nid yw’r ymdrech i ddifa’r Iddewon yn beth anghyffredin. Ceir cofnod hanesyddol o ymdrechion Antiochius rhwng 175-164 CC i ladd yr Iddewon na phlygasant i Seus yn y Deml.

Mordecai oedd y ‘gwrthwynebwr cydwybodol’ yn yr argyfwng a daw ei ddewrder yn hysbys i awdurdodau'r llys. Cynddeirioga Haman a daw at y brenin i ddeddfu ar ladd yr Iddewon i gyd. Nid oes dim yn rhy ddrwg a all ei ddweud i’w henllibio: ... nid ydynt yn gwneud cyfreithiau y brenin; am hynny nid buddiol i’r brenin eu dioddef hwynt. Cynigir gwobr i’r sawl a wna’r anfadwaith.

Gŵr ofergoelus oedd Haman yn bwrw coelbren i ddewis diwrnod ffafriol i daro’r gelyn. Dinistrir yr holl Iddewon yn ieuanc ac yn hen, yn blant ac yn wragedd, mewn un dydd.

Gorffen y bennod yn arwyddocaol: ... y brenin hefyd a Haman a eisteddasant i yfed a dinasyddion Susan oedd yn athrist.

'BETHANIA': ESTHER

Os oes gennych Feibl wrth eich penelin, trowch os gwelwch yn dda i Lyfr Esther, i’r bennod gyntaf.

Llun: Diane Voyentzie

Mae llyfr Esther yn gampwaith - mae gennym y cnaf Haman; Esther yr arwres brydferth a dyfeisgar; a’r brenin Ahasferus, druan ohono, mae rhywbeth comig amdano, pawb yn ei dwyllo. Mae’n wir nad yw enw Duw yn y llyfr hwn yn unman, ond, yng nghysgod un o ddigwyddiadau mwyaf erchyll hanes, yr Holocost - ymgais y Natsïaid i ddifa’r Iddewon o diroedd Ewrop - mae hanes Esther yn eithriadol bwysig i’r Iddew a’r Cristion fel ei gilydd.

Fel prif weinidog y brenin Ahasferus, ‘roedd Haman yn ddigon bodlon ar ei fyd. Nesaf at y brenin, ef oedd y pwysicaf yn y deyrnas, ac ‘roedd pawb yn deall hynny. Buasai pawb yn moesymgrymu iddo...pawb ond un. Iddew o’r enw Mordecai. Wrth i bawb arall gynffonna iddo, safai hwn yn dalsyth. ‘Roedd Haman wedi blino ar ystyfnigrwydd yr Iddew yma! Penderfynodd ddial arno a phob Iddew ym Mersia. Gyda chyfrwys berswâd, argyhoeddodd y brenin fod yr Iddewon yn fygythiad i ddyfodol ei deyrnas; rhaid eu difa yn llwyr ac yn gyfan.

Wedi deall bwriad Haman, aeth Mordecai at ei gyfnither, Esther, brenhines Persia, ac erfyn arni i eiriol ar ei gŵr ar ran ei phobl. ‘Roedd Esther yn gwybod, fod y sawl a âi mewn at y brenin heb ganiatâd yn sicr o’i roi i farwolaeth. Ond er gwaethaf y perygl cydsyniodd Esther, gan ddweud os trengaf, mi drengaf. Ildiodd y brenin i swyn Esther - cyfuniad cyfrwystra a phrydferthwch yn troi cynllun dieflig Haman a’i ben i waered. Syrthiodd Haman i’w fagl ei hun. Crogwyd Haman ar y grocbren y cododd i grogi Mordecai arno.

Hyd y dydd heddiw darllenir hanes Esther mewn synagogau led led y byd yn ystod gŵyl Pwrim. Rhoddwyd ei dewrder ar gof a chadw am byth.

Ni sonnir am Esther o gwbl yn y Testament Newydd.

Ystyr Esther yw ‘seren’.

Esther 1:1-9

Gwnaeth Ahasferus wledd i’w holl dywysogion a’i weision, cadernid Persia a Media, rhaglawiaid a thywysogion y taleithiau. ‘Roedd iddi bwrpas arbennig: fel y dangosai efe gyfoeth a gogoniant ei deyrnas, ac anrhydedd a phrydferthwch ei fawredd. ‘Roedd y cymhellion yn amheus. ‘Roedd i barhau am gyfnod hir: sef cant a phedwar ugain o ddyddiau ac felly ‘roedd y wledd allan o’r cyffredin. Cafwyd ail wledd i’r bobl a saith diwrnod. Gwnaeth y frenhines Fasti wledd i’r gwragedd yn y llys.

Ond yng nghanol y rhialtwch, yr oedd un yn gall: Mordecai, disgynnydd o dylwyth Saul. Cafodd weledigaeth yng nghanol daeargryn a chlywodd lais yn proffwydo creulonderau i bobl Dduw gan ei gelynion. Yn hyr, wrth gwrs, y mae arbenigrwydd y stori. Prin y buasai sôn am wleddoedd Persia oni bai am ddisgwyliad Mordecai. Islaw sylw yw rhialtwch pobl yn aml; nid yw ond ffolineb. Yr hyn a’i gwna yn werth sylw yw bod rhywrai yn ei ganol sy’n disgwyl wrth Dduw. Gwna hynny ddigwyddiadau digon dinod yn rhai i’w cofio.

Esther 1:10-22

Yn ei feddwdod, gorchmynnodd y brenin i’w wraig ymddangos gerbron ei wahoddedigion i ddangos i’r bobloedd a’r tywysogion ei glendid hi, canys glân yr olwg ydoedd hi.

Ystyr Fasti oedd ‘gorau’. Ni ellir, meddir, ei huniaethu ag unrhyw frenhines adnabyddus mewn hanes. Yn ôl yr haneswyr Plutarch a Herodotus, arferai’r Persiaid gael eu gwragedd cyfreithiol i eistedd gyda hwynt mewn gwleddoedd, a phan aed i eithafion y gwledda gyrrwyd y gwragedd allan a gwahodd gordderch-wragedd a merched-dawnsio i mewn. Gwrthwynebodd Fasti fod yn un o’r rhai olaf hyn.

Nid stori lân a thwt yw stori Fasti, a da hynny! Nid yw Fasti yn ennill y dydd. Mewn gwirionedd, ac i bob amcan a chyfrif mae’n colli; colli safle, urddas ac enw da. Mae’n cael ei alltudio, ac yn sgil ei "Na" daw rheolau newydd caeth a chreulon i gadw gwragedd yn ei lle. Ond trwy lygaid ffydd, gwelwn rywbeth arall. Gwelwn fod dewrder Fasti yn ysbrydoli pobl eraill. Daw "Na" Fasti yn "Na" Esther ac mae esiampl Fasti yn magu hyder ym mhobl eraill i ddweud "Na".

Tybed, faint o frenhinoedd y byd hwn sydd yn arswydo rhag i ryw Fasti neu’i gilydd fynnu dweud "Na" wrthynt?