ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (25)

​Nadolig Llawen i chi gyd!

... cyflawnwyd yr amser iddi esgor, ac esgorodd ar ei mab cyntaf-anedig; a rhwymodd ef mewn dillad baban a’i osod mewn preseb, am nad oedd lle iddynt yn y gwesty. (Luc 2:7)

Tyrd i weled a chredu - yn y gwellt

Gwêl y Gair yn cysgu,

Ac yna cyhoedda’n hy

wrth y byd wyrth y beudy.

(John Gwilym Jones)

Ganwyd i chwi heddiw yn nhref Dafydd, Waredwr, yr hwn yw’r Meseia, yr Arglwydd. (Luc 2:11)

Y ddelwedd olaf yw’r pysgodyn: ICHTHUS.

Ichthus yw’r gair Groeg am bysgodyn: Iota, Chi, Theta, Upsilon a Sigma.

Iota (i): Iesous - Iesu

Chi (kh): Khristos - Crist

Theta (th): Theou - Duw

Upsilon (u): Huios - Mab

Sigma (s): Soter - Gwaredwr.

Iesu Grist, Mab Duw, Gwaredwr.

​Dyma’r dydd i gyd-foliannu

Iesu, Prynwr mawr y byd:

Dyma’r dydd i gyd-ddynesu

Mewn rhyfeddod at ei grud;

Wele’r Ceidwad

Yma heddiw’n faban bach. Amen.

Gwilym R. Tilsley (1911-1997)

ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (23)

Yr oeddent ill dau yn gyfiawn gerbron Duw, yn ymddwyn yn ddi-fai yn ôl holl orchmynion ac ordeiniadau’r Arglwydd. (Luc 1:6)

Sut y caf sicrwydd o hyn? (Luc 1:18a)

Disgynyddion Aaron oedd Elisabeth a Sachareias  (Luc 1:5-25)Ganed y ddau i deulu offeiriadol. Ganed y ddau i weinidogaeth y Deml. ‘Roedd Sachareias yn offeiriad yn y Deml. Gweinidogaeth Elisabeth oedd geni a magu plant - cynnal a chadw'r llinach offeiriadol. Mae'n debyg na fu dim byd arall yn fwy o destun gweddi i Sachareias ag Elisabeth na magu plant, ond ni atebwyd y weddi honno. Doedd neb ar eu hol i gadw fflam y llinach yng nghyn. ‘Roedd y ffaith honno, bellach, yn rhan o’r hyn oeddent; yn rhan o wead eu perthynas â’i gilydd, yn rhan o batrwm eu perthynas â Duw. Mae anobaith yn rhywbeth sy’n mynd yn arferiad. Nid gwrthod credu’r angel mae Sachareias, ond bellach, methu credu. Cawsant ei siomi cymaint, fel iddynt ddechrau disgwyl cael ei siomi. Mae yma ddarlun o grefydda ein cyfnod. Aeth anobaith yn hobi gennym. I ganol bob anobaith, daw Duw a’i newyddion da o lawenydd mawr.

Mab Sachareias ag Elisabeth oedd Ioan Fedyddiwr.

Wrth ystyried ein tueddiad i ddweud ‘na’ i Dduw gyda ni, ac ‘ie’ i Nyni-heb-Dduw, boed i ni gofio addewid yr Efengyl ym mhregethu Ioan Fedyddiwr: daeth Iesu atom, i’n bedyddio nid a dŵr, ond a’r Ysbryd Glân ac a thân (Mathew 3:11) fe ddaeth i losgi i ffwrdd popeth y gallwn gynllunio i’n hunain heb Dduw.

Yn ôl mesur ein hufudd-dod a’n hymgysegriad Arglwydd, pâr inni wybod dy ewyllys yn llwyrach, ac o’i gwybod ei gwneuthur. Amen.

ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (22)

Llun: Gustave Dore

Heddiw, Angylion ... a bugeiliaid yw testun ein sylw.

... dywedodd yr angel wrthynt, "Peidiwch ag ofni, oherwydd wele, yr wyf yn cyhoeddi i chwi y newydd da am lawenydd mawr a ddaw i’r holl bobl: ganwyd i chwi heddiw yn nhref Dafydd, Waredwr, yr hwn yw’r Meseia, yr Arglwydd. (Luc 2:10)

Yn gwbl nodweddiadol o Luc, fe gyhoeddir geni Iesu yn gyntaf i fugeiliaid o bawb - dosbarth cyffredin a syml. Cawn yma un o ddarluniau prydferthaf yr Efengylau. Aeth y bugeiliaid yn eu braw i Fethlehem, er mwyn gweld y wyrth drostynt eu hunain. Gwelsant a dychwelsant - dyma’r daith genhadol gyntaf erioed!

Dos, gyfaill, dywed ar y mynydd am eni Iesu Grist. Amen.

ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (21)

Heddiw, Angylion yw testun ein sylw.

Oherwydd rhydd orchymyn i’w angylion i’th gadw yn dy holl ffyrdd ... (Salm 91:11)

Peidiwch ag anghofio lletygarwch, oherwydd trwyddo y mae rhai, heb wybod hynny, wedi rhoi llety i angylion. (Hebreaid 13:2)

Llun: Kvams Flisespikkeri

Heddiw, tri dyfyniad; y cyntaf gan William Williams, Pantycelyn (1717-1791), yr ail gan Ann Griffiths (1776-1805), a’r olaf, yn Saesneg gan yr awdur Americanaidd Kurt Vonnegut (1922-2007). Ni fu Vonnegut yn fath gwmni aruchel erioed am wn i!

Pe meddwn ddawn angylion,

a harddwch seintiau fry,

y cariad, sêl, doethineb gan y cerubiaid sy’,

Pe meddwn holl berffeithrwydd y dynion gorau gaed,

Casawn fy hun yn ffiaidd, mi syrthiwn wrth dy draed.

(Golwg ar Deyrnas Crist)

Rhyfedd, rhyfedd gan angylion

rhyfeddod fawr yng ngolwg ffydd

gweld rhoddwr bod, cynhaliwr helaeth,

a rheolwr pob peth sydd,

yn y preseb mewn cadach,

a heb le i roi’i ben i lawr,

ac eto disglair lu’r gogoniant

‘N ei addoli’r Arglwydd mawr.

There is no reason why good cannot triumph as often as evil. The triumph of anything is a matter or organisation. If there ar such things as angels I hope they are organised along the lines of the Mafia.

(Sirens of Titan)

Diolch i ti, Annwyl Dad, am bob angel a anfonaist i’m hebrwng ar y daith. Amen.