Heddiw, y Seryddion a’r Seren.
Wedi i Iesu gael ei eni ym Methlehem Jwdea yn nyddiau’r Brenin Herod, daeth seryddion o’r dwyrain i Jerwsalem a holi, “Ble mae’r hwn a anwyd yn frenin yr Iddewon? Oherwydd gwelsom ei seren ef ar ei chyfodiad, a daethom i’w addoli” (Mathew 2:2).
Seryddion: rhai yn ceisio darllen arwyddion yr amserau oddi wrth symudiadau’r sêr. Ofer yw dyfalu pa seren a welsant, nac o ba wlad y daethant. Yr hyn sydd bwysig am y seryddion hyn, yw eu menter; daethant o bellter byd i geisio Brenin Brenhinoedd yr holl fyd ... Duw y duwiau, Arglwydd arglwyddi yr holl fyd.
O! na welem ni olau – ei seren
A phrysuro’n camau
I Fethlem, i roi’n gemau
O’i flaen Ef i’w lawenhau.
O.M.Lloyd (1910-1980)
I’r Seren a fu’n gennad – iddo Ef,
Rho, Dduw, ailenyniad,
A dyged hon, dirion Dad,
Y cedyrn at y Ceidwad. Amen
Dewi Emrys (1881-1952)