PIMS

Gan, a gyda, Pobl Ifanc Minny Street mae’r eglwys yn dysgu mai pennaf gymwynas yr eglwys leol â’r ifanc yw cynnig - yn yr Efengyl - cydymdeimlad.

Aeth cydymdeimlad â’r ifanc yn beth prin i’w rhyfeddu. Fe’i ceir ar dro mewn mannau annisgwyl, ac y mae’n absennol mewn personau a sefyllfaoedd lle disgwylid ei gael. Gwaith eglwys yw cydymdeimlo â phobl ifanc gan gynnig iddynt lle diogel i fod yn hwy eu hunain, heb orfod bod yn ddim byd arall.

Golyga hynny sicrhau fod ganddynt gyfle ac awyrgylch diogel i fynegi barn a gofid, ffydd ac amheuaeth. Dengys yr ifanc, fel pawb, ddiddordeb mewn pobl sydd â diddordeb ynddynt. Dyma, yng Nghrist ein bwriad yn a thrwy PIMS.

Yr Ysgol Sul

Sŵn y plant yw’r sŵn amlycaf yn ein plith ar fore Sul. Y sŵn hyfrytaf a fu erioed! Sŵn yn dynodi llafur gwerthfawr ein hathrawon Ysgol Sul.

Ein bwriad yw parchu gorchymyn Iesu, ‘Portha fy ŵyn’ (Ioan 21:15b) , gan ddarparu i’r plant a phlantos bob cyfle i ddysgu am Dduw; i wasanaethu Duw; a bod yn gyfeillion i Iesu ac i’w gilydd.

Cynhelir yr Ysgol Sul yn ystod yr Oedfa Foreol (ac eithrio'r ail Sul). Neilltuir y rhan gyntaf o’r Oedfa i’r ifanc: wedi derbyn adnodau’r plant, cyflwynir yr Efengyl iddynt yn benodol a threiddgar. Wedi hyn oll, mae’r plantos, plant a phobl ifanc yn mynd i’w gwahanol ddosbarthiadau yn y festri.