Croeso i Eglwys Minny Street, Caerdydd
Ffydd yn gweithio trwy gariad. (Galatiaid 5:6)

 

Mae pawb ohonom, fel hadau dant y llew, hwyr neu hwyrach yn blino ar nofio’r gwynt, ac yn dymuno darganfod tir da a diogel i gael plannu’n gwreiddiau. Nid ydym yn gyflawn hyd nes y gwnawn hyn. Mae mynychu Eglwys Crist yn gymorth yn hyn o beth. Ond beth sydd i ddweud am yr Eglwys? Nid adeilad sanctaidd yw’r eglwys, ond pobl yn credu. Yn union fel mai nid chi yw eich dillad, nid ein hadeilad yw eglwys Minny Street. Nid lle mohonom ond pobl yn cydaddoli. Fel eglwys, estynnwn groeso i chwi. Estynnir croeso i chwi am yr hyn y medrwch chwi ei gynnig i ni: eich cymeriad a’ch profiad, eich doniau a’ch grasusau, a hyd yn oed eich ffaeleddau a’ch gwendidau.

Fe wyddoch yn barod mae’n siwr nad oes yr un eglwys yn berffaith! Ym Minny Street diolchwn i Dduw fod gan ddrain rosynnau, yn hytrach na dannod Duw fod gan rosynnau ddrain. Estynnwn i chwi groeso a derbyniad am bwy a beth ydych, yn union fel y cawsom ni ein derbyn am beth a phwy oeddem, ac ydym, ni. Hyderwn y byddwch yn profi yn ein plith ymdeimlad o berthyn. Plant Duw ydym oll, brodyr a chwiorydd yn cydweithio i weld cariad a gras Duw yn ffynnu yn ein plith.

Hyfryd yw cael estyn croeso twymgalon i chwi i addoli gyda ni ym Minny Street. 

Mae ein haddoliad boreol yn gynnes, deuluol a bywiog - 9:30yb.

Am 9:30yb pob ail Sul yn y mis cawn oedfa fer, hanner awr, yn y festri, oedfa hwyliog a bendithiol. Cawn pwt o frecwast gyda’n gilydd ar ôl yr oedfa hon.  Ar ail Sul y mis hefyd, bydd oedfa ychwanegol am 10:30 yb.

Mae ein haddoliad hwyrol am 6:00yh, yn fwy traddodiadol efallai - y frechdan emynau cyfarwydd - ond hoffwn feddwl fod y bara’n ffres a’r cynnwys yn faethlon.