Yr oeddent ill dau yn gyfiawn gerbron Duw, yn ymddwyn yn ddi-fai yn ôl holl orchmynion ac ordeiniadau’r Arglwydd. (Luc 1:6)
Sut y caf sicrwydd o hyn? (Luc 1:18a)
Disgynyddion Aaron oedd Elisabeth a Sachareias (Luc 1:5-25). Ganed y ddau i deulu offeiriadol. Ganed y ddau i weinidogaeth y Deml. ‘Roedd Sachareias yn offeiriad yn y Deml. Gweinidogaeth Elisabeth oedd geni a magu plant - cynnal a chadw'r llinach offeiriadol. Mae'n debyg na fu dim byd arall yn fwy o destun gweddi i Sachareias ag Elisabeth na magu plant, ond ni atebwyd y weddi honno. Doedd neb ar eu hol i gadw fflam y llinach yng nghyn. ‘Roedd y ffaith honno, bellach, yn rhan o’r hyn oeddent; yn rhan o wead eu perthynas â’i gilydd, yn rhan o batrwm eu perthynas â Duw. Mae anobaith yn rhywbeth sy’n mynd yn arferiad. Nid gwrthod credu’r angel mae Sachareias, ond bellach, methu credu. Cawsant ei siomi cymaint, fel iddynt ddechrau disgwyl cael ei siomi. Mae yma ddarlun o grefydda ein cyfnod. Aeth anobaith yn hobi gennym. I ganol bob anobaith, daw Duw a’i newyddion da o lawenydd mawr.
Mab Sachareias ag Elisabeth oedd Ioan Fedyddiwr.
Wrth ystyried ein tueddiad i ddweud ‘na’ i Dduw gyda ni, ac ‘ie’ i Nyni-heb-Dduw, boed i ni gofio addewid yr Efengyl ym mhregethu Ioan Fedyddiwr: daeth Iesu atom, i’n bedyddio nid a dŵr, ond a’r Ysbryd Glân ac a thân (Mathew 3:11) fe ddaeth i losgi i ffwrdd popeth y gallwn gynllunio i’n hunain heb Dduw.
Yn ôl mesur ein hufudd-dod a’n hymgysegriad Arglwydd, pâr inni wybod dy ewyllys yn llwyrach, ac o’i gwybod ei gwneuthur. Amen.