Nadolig Llawen i chi gyd!
... cyflawnwyd yr amser iddi esgor, ac esgorodd ar ei mab cyntaf-anedig; a rhwymodd ef mewn dillad baban a’i osod mewn preseb, am nad oedd lle iddynt yn y gwesty. (Luc 2:7)
Tyrd i weled a chredu - yn y gwellt
Gwêl y Gair yn cysgu,
Ac yna cyhoedda’n hy
wrth y byd wyrth y beudy.
(John Gwilym Jones)
Ganwyd i chwi heddiw yn nhref Dafydd, Waredwr, yr hwn yw’r Meseia, yr Arglwydd. (Luc 2:11)
Y ddelwedd olaf yw’r pysgodyn: ICHTHUS.
Ichthus yw’r gair Groeg am bysgodyn: Iota, Chi, Theta, Upsilon a Sigma.
Iota (i): Iesous - Iesu
Chi (kh): Khristos - Crist
Theta (th): Theou - Duw
Upsilon (u): Huios - Mab
Sigma (s): Soter - Gwaredwr.
Iesu Grist, Mab Duw, Gwaredwr.
Dyma’r dydd i gyd-foliannu
Iesu, Prynwr mawr y byd:
Dyma’r dydd i gyd-ddynesu
Mewn rhyfeddod at ei grud;
Wele’r Ceidwad
Yma heddiw’n faban bach. Amen.
Gwilym R. Tilsley (1911-1997)