Trown ein golygon i Sul olaf y flwyddyn a mawr ein diolch i Dduw am y gofal a fu drosom. Ein cyd-aelod, y Parchedig Menna Brown fydd yn cynnal yr Oedfa Foreol (10:30). Gwyddom y cawn ganddi Oedfa gyfoethog i’n paratoi i flwyddyn newydd o waith a chenhadaeth. Ni fydd Oedfa Hwyrol yn Minny Street.
Wynebwn y flwyddyn newydd gyda’n gilydd a gyda hyder. Gwnaed yr Arglwydd hi yn flwyddyn dda inni yn yr ystyr orau.