ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (20)

Y cwpan hwn yw’r cyfamod newydd yn fy ngwaed i ... (Luc 22:20)

Felly, os yw dyn yng Nghrist, y mae’n greadigaeth newydd; aeth yr hen heibio, y mae’r newydd yma. (2 Corinthiaid 5:17)

Llun: Charles Walker

Rhywbeth dynamig, newydd a chreadigol ffres yw’r ffydd Gristnogol. Ein gwaith ni - pawb ohonom, o’r ieuengaf i’r hynaf - yw bod yn arbrofol fentrus, yn chwyldroadol greadigol er mwyn codi pontydd rhwng ein daliadau crefyddol ar y naill law, ac angen byd ar y llall. Peidiwn ag osgoi’r her, gan fod y cyfan wedi ei sylfaenu ar un o golofnau cadarnaf ein ffydd: "Y mae’r dyddiau’n dod, medd yr ARGLWYDD, "y gwnaf gyfamod newydd â thŷ Israel ac â thŷ Jwda. Ni fydd yn debyg i’r cyfamod a wneuthum â’u hynafiaid, y dydd y gafaelais yn eu llaw i’w harwain allan o wlad yr Aifft ... rhof fy nghyfraith o’u mewn, ysgrifennaf hi ar eu calon, a byddaf fi’n Dduw iddynt a hwythau’n bobl i mi."(Jeremeia 31:31-34)

Crea galon lân ynof, annwyl Dduw, ac adnewydda ysbryd uniawn o’m mewn. Amen. 

ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (19)

Heddiw, Nehemeia - yr adeiladydd, yw testun ein sylw.

Awn ati i adeiladu. A bu iddynt ymroi i’r gwaith yn ewyllysgar ... (Nehemeia 2:18)

... trwy gymorth ein Duw y cafodd y gwaith hwn ei wneud ... (Nehemeia 6:16)

 ‘Roedd Jerwsalem mewn cyflwr truenus, y muriau yn adfail. Tynnodd Nehemeia ei bobl ynghyd trwy waith, i waith i godi Jerwsalem, eto, ar ei thraed. Oherwydd Nehemeia, ‘roedd gan ei bobl galon i weithio (4:6). Y rheswm pam mae crefydd cymaint ohonom mor dila, mor analluog roi gwir foddhad inni, yw mai crefydd ddi-waith ydyw - nid oes gennym galon i weithio - a hynny mewn dyddiau sy’n galw’n daerach nag erioed am grefydd yn ei dillad gwaith.

 Pan fyddo achos Iesu yn eiddil a diglod, cadw pawb ohonom yn dy waith. Amen.

Llun: Jacques Joseph Tissot

ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (18)

Llun: Irving Amen

Heddiw, Eseia Broffwyd yw testun ein sylw. 

O’r cyff a adewir i Jesse fe ddaw blaguryn, ac fe dyf cangen o’i wraidd ef ... (Eseia 11:1)

Fe drig y blaidd gyda’r oen, fe orwedd y llewpard gyda’r myn; bydd y llo a’r llew yn cyd-bori, a bachgen bach yn eu harwain. (Eseia 11:6)

Rhoddwyd iddo lyfr y proffwyd Eseia, ac agorodd y sgrôl ... (Luc 4:17)

Haedda Proffwydoliaeth Eseia ei le fel y cyntaf o lyfrau’r Proffwydi! Nid oes dim y gellir ei gymharu â’i weledigaeth anhygoel o Dduw, a’r fendith sydd yn stôr i’w bobl! Ymddangosodd proffwydi eraill o’i flaen yn nhrefn amser, ond ni welodd neb mwy o Dduw nag Eseia! Dyfynnodd Iesu Eseia yn ei bregeth yn Synagog Nasareth (Luc 4:16-23). Mae cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o bobl Dduw wedi derbyn cysur a chymorth i fyw yn drwch o’i weledigaeth fawr o Dduw hynod fawr (pennod 6); o eni gwaredwr (pennod 9), a’r gwaredwr hwnnw’n was dioddefus i’w bobl (pennod 53).

Annwyl Dduw, diolch mai bob-yn-damaid y mynegaist ti dy feddwl a’th ewyllys i bobl erioed. Amen.

ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (17)

Heddiw, Eliseus a’r weinidogaeth iachau (2 Brenhinoedd 5) yw testun ein sylw. 

... daeth cnawd Naaman yn lân eto fel cnawd bachgen bach ... Dywedodd Eliseus wrtho, "Heddwch iti." (2 Brenhinoedd 5:14b a 19)

O ARGLWYDD, oherwydd yr wyf yn llesg; iachâ fi, ARGLWYDD ... (Salm 6:2)

Ein Tad nefol, diolchwn mai ti yw awdur bywyd, a ffynhonnell iechyd a chyfanrwydd. Maddau i ni ein dibristod o werth bywyd ac iechyd. Molwn di am dy ofal tadol drosom a amlygir mewn amrywiol ffyrdd, ac yn arbennig trwy weinidogaeth y rhai sy’n gofalu am gleifion, yn cysuro’r gwangalon, yn cyfannu lle mae rhwygiadau. Ynot ti y mae dirgelwch a thynged ein bywyd; am hynny, rho inni’r gras i ymddiried ynot ac i ddyfalbarhau.

Grist, ein Brawd, a ddaethost yn un â ni trwy dy ddioddefiadau, yn un â ni ym mhob profiad, ac sy’n gadarn i iachau. Caniatâ i bawb sy’n dioddef afiechyd corff, meddwl neu ysbryd, yr iachâd a’r cyfanrwydd sydd o fewn ein cyrraedd yn dy enw di.

Ysbryd Sanctaidd, clyw ein gweddi. Gwna ni’n un teulu, yn un â’n gilydd wrth rannu yn nioddefiadau Crist. Gweddïwn am inni brofi dy dangnefedd, ac am i inni wybod a derbyn dy ewyllys tuag atom ni a thuag at bawb. Gweddïwn dros y rhai sydd wrth y gwaith o weini ar gleifion - meddygon, gweinyddesau, a phawb arall sydd yn gofalu amdanynt. Caniatâ inni dy gwmni a’th gariad, a chadw ni yn wastad yn dy dangnefedd. Clyw ein gweddi yn enw’r Meddyg Da, Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

(O Lyfr Gwasanaethau Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Gwasg Pantycelyn 1991)