Yn yr Oedfa Foreol (10:30) bydd Owain yn cloi’r gyfres o bregethau: Awn i Fethlem, bawb dan ganu. Echel y bregeth olaf hon fydd Luc 2:15 a dyma’r tri pheth i gofio:
1. Gweld yr Hwn a ddaeth.
2. Gweld yr Hwn a ddaeth atom.
3. Gweld yr Hwn a ddaeth atom i aros.
Bydd ein cyfnod o weddi a gweddïo yn troi ar echel y Colect am y Sul olaf hwn yn Adfent:
Cyfod yn dy nerth, O! Arglwydd, a thyred i’n plith, ac â’th allu mawr cymorth ni, fel, oherwydd i ni gael ein rhwystro gan ein pechodau rhag rhedeg yr yrfa a osodir o’n blaen, y bo i’th ras a’th drugaredd ein cynorthwyo a’n gwared yn ebrwydd; trwy Iesu Grist ein Harglwydd, y bo iddo gyda Thi a’r Ysbryd Glân, bob anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
Liw nos (18:00) yn yr Oedfa Hwyrol, bydd pregeth Owain ar ffurf tair monolog. Cawn gwrdd â gŵr y llety (Luc 2:7) a dysgu ganddo am beryglon y cant a mil o bethau. Un o’r doethion fydd yn rhannu ei brofiad nesaf (Mathew 2:1-2) gan esbonio pam mai dim ond aur, thus a myrr oedd ganddynt yn rhodd i’r brenin bychan hwn. I gloi, gair gan un o’r bugeiliaid (Luc 2:8-18): cawn ein hannog ganddo i ystyried llygad y storm.
Cannwyll yn llosgi bydd canolbwynt ein sylw wrth weddïo gyda’n gilydd.
Diolch i Manon, Mared, Enlli a Lleucu am eu cymorth.
Methu dod i’r Oedfaon? Ymunwch â ni trwy gyfrwng negeseuon trydar @MinnyStreet #AddolwnEf Dechrau toc wedi 10:30/18:00.
Bydd naws yr Adfent yn parhau ar #BoreolWeddi #HwyrolWeddi @MinnyStreet a bydd Coeden Jesse yn tyfu a datblygu bob dydd ar y wefan hon. Ymunwch â ni. Boed bendith yn wir.
Pot Pourri’r Nadolig (24/12; 23:30) - Gwasanaeth Noswyl Nadolig. Oedfa syml, anffurfiol a bendithlawn. Dewch â chroeso mawr.
Oedfa’r Nadolig (25/12: 10yb) yng Nghapel y Crwys (Heol Richmond); ymunwn â chyfeillion Eglwys y Crwys a phregethir gan Owain: 12 Drymiwr fydd testun ein sylw!
Dydd Gwener (28/12; 10:30-13:00): Taith Gerdded (manylion llawn yng nghyhoeddiadau’r Sul).