Llun: Gustave Dore
Heddiw, Angylion ... a bugeiliaid yw testun ein sylw.
... dywedodd yr angel wrthynt, "Peidiwch ag ofni, oherwydd wele, yr wyf yn cyhoeddi i chwi y newydd da am lawenydd mawr a ddaw i’r holl bobl: ganwyd i chwi heddiw yn nhref Dafydd, Waredwr, yr hwn yw’r Meseia, yr Arglwydd. (Luc 2:10)
Yn gwbl nodweddiadol o Luc, fe gyhoeddir geni Iesu yn gyntaf i fugeiliaid o bawb - dosbarth cyffredin a syml. Cawn yma un o ddarluniau prydferthaf yr Efengylau. Aeth y bugeiliaid yn eu braw i Fethlehem, er mwyn gweld y wyrth drostynt eu hunain. Gwelsant a dychwelsant - dyma’r daith genhadol gyntaf erioed!
Dos, gyfaill, dywed ar y mynydd am eni Iesu Grist. Amen.