Edrychwn ymlaen at yr Oedfa Foreol Gynnar (13/1 am 9:30 yn y Festri). Graffiti, sialc a CMB fydd yn destun sylw! Boed bendith.
Gweinir brecwast bach a nwyddau Masnach Deg yn y Festri rhwng y ddwy Oedfa Foreol.
Yn yr Oedfa Foreol (10:30) byddwn yn parhau â’r gyfres ‘Anghymharol Brydferthwch Crist’. Calon a chanol, gwraidd a changhennau, burum a bara, afon a llif, ŷd a grawn, cannwyll a fflam, siwgr a halen, gadael a chyrraedd, mynd a dod, bara a chaws, efail a morthwyl ein ffydd yw prydferthwch Duw gyda ni: Iesu. Hanfod ein ffydd yw prydferthwch Iesu. Mae capel, traddodiad, enwad, ein diwinyddiaeth, y Beibl, Cristnogaeth yn bwysig. Ydynt, ond mae’r pethau hyn i gyd yn debyg i luniau du a gwyn o ‘Sunflowers’ Van Gogh. Neis ddigon, ond yn methu’n llwyr i gyfleu'r gwir ogoniant. Gwir ogoniant ein ffydd yw prydferthwch Iesu.
Liw nos (18:00), bydd Owain yn ail-gydio yn gyfres: Llythyr Cyntaf Timotheus at Paul. Bydd y bregeth ar ffurf deialog (o fath). Darllenir y drydedd bennod o lythyr cyntaf Paul at Timotheus fesul darn a bydd Owain yn ymateb i’r adnodau rheini fel Timotheus. Gellid darllen 1 Timotheus 3 rhag blaen
Methu dod i’r Oedfaon? Ymunwch â ni trwy gyfrwng negeseuon trydar @MinnyStreet #AddolwnEf Dechrau toc wedi 10:30/18:00.
Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth edrych a threfnu i’r dyfodol.
Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street, (Nos Fawrth 15/1; 19:30 yn y Festri): "Cyfrinach byw bywyd yn ei holl gyflawnder" yng nghwmni Wynford Ellis Owen.
Koinônia amser cinio dydd Mercher (16/1): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.
Babimini bore Gwener (18/1; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.
Penwythnos PIMS 18-20/1.