hwythau wedi mwynhau penwythnos o ddringo a cherdded Bannau Brycheiniog edrychwn ymlaen at groesawu PIMS ynghyd â Dyfrig, Beca ag Owain yn ôl bore Sul.
Echel homili Owain yn ein Hoedfa Foreol (10:30; cynhelir Ysgol Sul) fydd yr Wythnos Weddi am Undeb Cristnogol: yr ‘Extra Challenge’. Oni ddymunwn gael bod yn rhan o weinidogaeth a chymdeithas eglwys leol - gweinidogaeth a chymdeithas nad oes eu tebyg yn unman arall? ‘Extra Challenge’? Dymunwn gael bod yn rhan o weinidogaeth a chymdeithas eglwys leol gan fynychu’r addoliad dim ond o bryd i’w gilydd, gan gadw’r gymdeithas gynhaliol hyd fraich! Oni ddymunwn gael bod yn Un yng Nghrist. ‘Extra Challenge’? Trafodwn uno’r enwadau’n cydweithio wrth anwybyddu’r ffaith nad uno’r enwadau â'i gilydd sydd wir angen, ond cael enwadau unedig. Holltir yr enwadau i gyd ar hyd yr un llinell: Ceidwadol a Rhyddfrydol. Yr hollt hwn ddylai fod yn brif destun gweddi gennym yr wythnos hon. Cydnabyddwn, yn a thrwy gyfrwng yr Wythnos Weddi am Undeb Cristnogol mor fawr a real yw'r sialens o ddarganfod Duw yng nghwmni pobl Dduw. Mor fawr, mor real y sialens hon, fel nad oes angen yr ‘Extra challenge’!
Byddwn fel eglwys yn gyfrifol am baratoi a gweini te i’r digartref yn y Tabernacl prynhawn Sul am 14:30.
Liw nos (18:00) yn yr Oedfa Hwyrol, testun ein sylw fydd Diwrnod Cofio’r Holocost. Mae’r Wythnos o Weddi am Undeb Cristnogol yn ein hatgoffa mor real yw’r angen am Undeb rhwng Cristnogion a’i gilydd. Yn yr un modd, mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn ein hatgoffa mor real yw’r angen i gadw cof a mynnu cofio cofio. Er pob braw; pob tamaid o dystiolaeth - mewn cannoedd o lyfrau, dogfennau a chyhoeddiadau erys gwers y gwersyll yn Auschwitz-Birkenhau heb ei ddysgu. Mae diwinyddion a phregethwyr yn hau gwenwyn gwrth-semitiaeth o hyd fyth o bulpud ac mewn erthygl a llyfr. Sut ellid ymateb i hyn? Awgryma’r Owain fod ateb ar gael wrth droi at Ddameg y Mab Afradlon, ac ymweld â phentref o’r enw Ntarama yn Rwanda.
Methu dod i’r Oedfaon? Ymunwch â ni trwy gyfrwng negeseuon trydar @MinnyStreet #AddolwnEf Dechrau toc wedi 10:30/18:00.Am wybod mwy? Dewch â chroeso. Boed bendith.
Bydd y gymdeithas yn parhau yn Koinônia: swper blasus a sgwrs ddifyr mewn bwyty Eidalaidd cyfagos.
PIMS nos Lun (21/1; 19:00-20:30 yn y Festri): Ych! Asyn Balam!
Nos Fawrth (22/1; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Esther’. Trown at yr ail bennod nos Fawrth. Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun.
Bore Gwener (25/1; 10:00): ‘Llynyddwch’. Paned a thrafodaeth wrth ymyl llyn llonydd y Rhath. Cawn gyfle i drafod, fesul pennod, llyfr Elfed ap Nefydd Roberts: Dehongli’r Damhegion (Cyhoeddiadau’r Gair, 2008). Echel ein trafodaeth fore Gwener fydd Y Wledd Fawr (t.42-46).