Os oes gennych Feibl wrth eich penelin, trowch os gwelwch yn dda i Lyfr Esther, i’r bennod gyntaf.
Llun: Diane Voyentzie
Mae llyfr Esther yn gampwaith - mae gennym y cnaf Haman; Esther yr arwres brydferth a dyfeisgar; a’r brenin Ahasferus, druan ohono, mae rhywbeth comig amdano, pawb yn ei dwyllo. Mae’n wir nad yw enw Duw yn y llyfr hwn yn unman, ond, yng nghysgod un o ddigwyddiadau mwyaf erchyll hanes, yr Holocost - ymgais y Natsïaid i ddifa’r Iddewon o diroedd Ewrop - mae hanes Esther yn eithriadol bwysig i’r Iddew a’r Cristion fel ei gilydd.
Fel prif weinidog y brenin Ahasferus, ‘roedd Haman yn ddigon bodlon ar ei fyd. Nesaf at y brenin, ef oedd y pwysicaf yn y deyrnas, ac ‘roedd pawb yn deall hynny. Buasai pawb yn moesymgrymu iddo...pawb ond un. Iddew o’r enw Mordecai. Wrth i bawb arall gynffonna iddo, safai hwn yn dalsyth. ‘Roedd Haman wedi blino ar ystyfnigrwydd yr Iddew yma! Penderfynodd ddial arno a phob Iddew ym Mersia. Gyda chyfrwys berswâd, argyhoeddodd y brenin fod yr Iddewon yn fygythiad i ddyfodol ei deyrnas; rhaid eu difa yn llwyr ac yn gyfan.
Wedi deall bwriad Haman, aeth Mordecai at ei gyfnither, Esther, brenhines Persia, ac erfyn arni i eiriol ar ei gŵr ar ran ei phobl. ‘Roedd Esther yn gwybod, fod y sawl a âi mewn at y brenin heb ganiatâd yn sicr o’i roi i farwolaeth. Ond er gwaethaf y perygl cydsyniodd Esther, gan ddweud os trengaf, mi drengaf. Ildiodd y brenin i swyn Esther - cyfuniad cyfrwystra a phrydferthwch yn troi cynllun dieflig Haman a’i ben i waered. Syrthiodd Haman i’w fagl ei hun. Crogwyd Haman ar y grocbren y cododd i grogi Mordecai arno.
Hyd y dydd heddiw darllenir hanes Esther mewn synagogau led led y byd yn ystod gŵyl Pwrim. Rhoddwyd ei dewrder ar gof a chadw am byth.
Ni sonnir am Esther o gwbl yn y Testament Newydd.
Ystyr Esther yw ‘seren’.
Esther 1:1-9
Gwnaeth Ahasferus wledd i’w holl dywysogion a’i weision, cadernid Persia a Media, rhaglawiaid a thywysogion y taleithiau. ‘Roedd iddi bwrpas arbennig: fel y dangosai efe gyfoeth a gogoniant ei deyrnas, ac anrhydedd a phrydferthwch ei fawredd. ‘Roedd y cymhellion yn amheus. ‘Roedd i barhau am gyfnod hir: sef cant a phedwar ugain o ddyddiau ac felly ‘roedd y wledd allan o’r cyffredin. Cafwyd ail wledd i’r bobl a saith diwrnod. Gwnaeth y frenhines Fasti wledd i’r gwragedd yn y llys.
Ond yng nghanol y rhialtwch, yr oedd un yn gall: Mordecai, disgynnydd o dylwyth Saul. Cafodd weledigaeth yng nghanol daeargryn a chlywodd lais yn proffwydo creulonderau i bobl Dduw gan ei gelynion. Yn hyr, wrth gwrs, y mae arbenigrwydd y stori. Prin y buasai sôn am wleddoedd Persia oni bai am ddisgwyliad Mordecai. Islaw sylw yw rhialtwch pobl yn aml; nid yw ond ffolineb. Yr hyn a’i gwna yn werth sylw yw bod rhywrai yn ei ganol sy’n disgwyl wrth Dduw. Gwna hynny ddigwyddiadau digon dinod yn rhai i’w cofio.
Esther 1:10-22
Yn ei feddwdod, gorchmynnodd y brenin i’w wraig ymddangos gerbron ei wahoddedigion i ddangos i’r bobloedd a’r tywysogion ei glendid hi, canys glân yr olwg ydoedd hi.
Ystyr Fasti oedd ‘gorau’. Ni ellir, meddir, ei huniaethu ag unrhyw frenhines adnabyddus mewn hanes. Yn ôl yr haneswyr Plutarch a Herodotus, arferai’r Persiaid gael eu gwragedd cyfreithiol i eistedd gyda hwynt mewn gwleddoedd, a phan aed i eithafion y gwledda gyrrwyd y gwragedd allan a gwahodd gordderch-wragedd a merched-dawnsio i mewn. Gwrthwynebodd Fasti fod yn un o’r rhai olaf hyn.
Nid stori lân a thwt yw stori Fasti, a da hynny! Nid yw Fasti yn ennill y dydd. Mewn gwirionedd, ac i bob amcan a chyfrif mae’n colli; colli safle, urddas ac enw da. Mae’n cael ei alltudio, ac yn sgil ei "Na" daw rheolau newydd caeth a chreulon i gadw gwragedd yn ei lle. Ond trwy lygaid ffydd, gwelwn rywbeth arall. Gwelwn fod dewrder Fasti yn ysbrydoli pobl eraill. Daw "Na" Fasti yn "Na" Esther ac mae esiampl Fasti yn magu hyder ym mhobl eraill i ddweud "Na".
Tybed, faint o frenhinoedd y byd hwn sydd yn arswydo rhag i ryw Fasti neu’i gilydd fynnu dweud "Na" wrthynt?