Dros y Sul, ein braint fel eglwys fydd cael gwrando cenadwri a derbyn arweiniad gan y Parchedig Robin Wyn Samuel (Pen-y-bont ar Ogwr). Gwyddom y cawn ganddo bregethu meddylgar a phregethau buddiol a bendithlawn. Yn ôl ein harfer, bydd yr Oedfa Foreol am 10:30. Cynhelir yr Ysgol Sul. Bydd yr Oedfa Hwyrol am 18:00. Gweddïwn am wenau Duw ar Oedfaon y Sul.
Nos Lun (28/1): Encil - Diwrnod Gydag Iesu (y cyntaf o ddau gyfarfod, yn y Festri). Gweld y gwir a’i gyfleu mewn darluniau a wna Marc, a hynny gyda’r cynildeb hyfryd sydd yn nodweddu gwaith y gwir artist. Mewn ychydig adnodau yn y bennod gyntaf (21-37) cawn gip ar ddiwrnod gydag Iesu. Yn y cyfarfod cyntaf hwn awn gydag ef i’r Synagog ac ymlaen i gartref mam-yng-nghyfraith Pedr.
Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street, (Nos Fawrth 29/1 19:30 yn y Festri): "Profiadau Ynys Enlli" yng nghwmni Owain Llyr Evans ac Elenid Jones.
Babimini bore Gwener (1/2; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.