'ENCIL': DIWRNOD GYDAG IESU

Mae Marc yn gweld y gwir a’i gyfleu mewn darluniau, a hynny gyda’r cynildeb hyfryd sydd yn nodweddu gwaith y gwir artist. Mewn ychydig adnodau yn y bennod gyntaf cawn gipolwg ar ddiwrnod ym mywyd Iesu. Yn ei ffordd gelfydd ei hun, cawn gan Marc ddarlun o Iesu mewn Synagog, yng nghartref mam-yng-nghyfraith Pedr, yng nghwmni gyfeillion a chymdogion ac yn olaf cyfnod ar ei ben ei hun.

Diben y gyfres fechan hon o gyfarfodydd - jest dau gyfarfod - yw treulio’r diwrnod gydag Iesu, ac felly gobeithio dysgu ganddo a dysgu gan ein gilydd.

Felly, awn gydag Iesu i’r Synagog (Marc 1:21-22).

Heb amheuaeth, daeth arweinwyr crefyddol y cyfnod o dan feirniadaeth lem Iesu o dro i dro a chaled iawn iddynt fu derbyn y fath feirniadaeth. Nid oedd Iesu yn cydweld â hwynt ar lawer mater a dywedodd bethau chwyrn iawn wrthynt ac amdanynt. Cofiwch, dywedwyd pethau chwyrn iawn ganddynt wrtho ac amdano. Ond, ni chadwodd hyn ef rhag mynychu’r Synagog. Tra oedd yn anghydweld â chynrychiolwyr ei grefydd, parchodd draddodiadau gorau’r grefydd honno trwy fynychu’n gyson y Synagog ar Saboth.

Syml iawn oedd trefn y Gwasanaeth yn y Synagog. Cenid Salmau; darllenid o Lyfr y Gyfraith a’r Proffwydi, a byddai arweinydd y Synagog wedi trefnu ymlaen llaw gyda rhywun hyddysg yn yr Ysgrythurau (dieithryn o bosibl) i ddehongli’r adran a ddarllenasid. Felly mae’n debyg, y daeth cyfle i Iesu.

Y mae’n amlwg nad dim ond yr hyn a ddywedodd Iesu a adawodd yr argraff ddyfnaf ar feddwl y gynulleidfa, ond awdurdod a oedd gyda’i eiriau. ‘Roedd Iesu’n feistr ar ei fater. Dyfynnu eraill a wnâi’r arweinwyr crefyddol mae’n debyg, ond nid felly Iesu: Clywsoch ddywedwyd gan rhai gynt ... eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych. ‘Roedd Iesu’n gli ei weledigaeth ac yn bendant wrth ei chyfleu. Onid hyn a dynnodd y torfeydd ar ei ôl? ‘Roedd ganddo genadwri bendant yn cyfarfod a gofynion pobl y cyfnod.

Yn hyn o beth y mae pob oes yn debyg. Mae pobl yn hiraethu am weledigaeth, yn dyheu am y gwir. Pan yw gweledigaeth pobl Dduw yng Nghrist yn glir a’r gwir yn argyhoeddiad llosg yn eu gweinidogaeth mae pobl yn talu sylw. Nid oes gan bobl y tamaid lleiaf o ddiddordeb yn y trafferthion mewnol a flina meddwl yr Eglwys yn aml; y genadwri bendant sydd yn magu a chynnal diddordeb. Byw ar gyfalaf y gorffennol a wnaeth yr Ysgrifenyddion megis y gwnaeth yr Eglwys Gristnogol mewn llawer cyfnod ar ôl hynny. O ganlyniad collodd gyffyrddiad ag angen pobl. Ychydig o oleuni a rydd gweledigaeth ddoe ar lwybr bywyd heddiw. Ni olyga gorchestion gras Duw'r dyddiau a fu nemor ddim i’r didaro a’r difater heddiw. Amlygu beth mae Duw yn gwneud nawr, heddiw fydd yn ateb gofyn pobl heddiw. Fel y bu dysgeidiaeth a bywyd Iesu yn her i fywyd ei gyfnod, felly y dylai’r Eglwys fod yn her ac yn galondid heddiw.

Rhaid bod newydd-deb dehongliad Iesu o’r Ysgrythurau wedi cael argraff ddofn ar feddwl ei oes. Rhyfedd a ryfeddol i grefyddwyr ei gyfnod a oedd wedi hen gynefino â chlywed cyhoeddi gwae a barn, dicter a dialedd Duw, oedd clywed pwyslais newydd ar ras a thrugaredd Duw. O’i gyferbynnu â neges Ioan Fedyddiwr, yr oedd pwyslais Iesu ar gariad maddeuol Duw. 'Roedd ei ddeall o natur a diben bywyd yn fwy positif, gan amlygu’r nerth sydd mewn addfwynder a thynerwch. Rhoes sialens i bobl fentro’r osod y pethau hyn fel sylfaen i fyw a bywyd.

Tra fyn yr Eglwys gerdded yr un rhigolau bydd ei chyfle yn gyfyngedig, ei llwybr yn ddiramant a’i gweinidogaeth yn ddiflas. Nid mimics sydd angen heddiw. Pan fo’r mimic yn amlwg yn ein plith ‘rydym mewn perygl o drengi mewn cynefindra. Yr arloeswr sydd angen: nid mimic ond maverik. Parodrwydd i fentro, ac felly yn naturiol i fethu, fydd yn enyn chwilfrydedd a magu diddordeb.

Awn o’r Synagog i’r Cartref (Marc 1:29-31).

Yn unol ag arferiad y cyfnod awgrymodd Iesu y carai ef a’i ddisgyblion aros am orffwys a phryd ysgafn o fwyd yn nhŷ Simon Pedr, ac er nad oedd pethau’n hwylus iawn yn y cartref hwnnw ar y pryd, â mam-yng-nghyfraith Pedr yn glaf o’r cryd, yr oedd cwrteisi Iddewig yn galw ar Pedr i estyn y croeso gorau a allai i’r ymwelwyr. Felly, y mae’n debyg, yr aeth y cwmni i dŷ Simon heb wybod dim am waeledd meistres y tŷ. Efe a ddaeth ac a’i cododd hi i fyny, gan ymaflyd yn ei llaw hi; ar cryd a’i gadawodd hi yn y man a hi a wasanaethodd arnynt hwy.

Cwyn fynych yw mai bychan yw nifer y rhai y gellir dibynnu arnynt i ysgwyddo beichiau, nid yn unig mewn eglwys leol ond gydag unrhyw fudiad neu achos dyngarol. Awgrymaf fod yma esiampl i’w efelychu. Mae mam-yng-nghyfraith Pedr yn cael adferiad iechyd a nerth gan Iesu, ac o’r herwydd hi a wasanaethodd arnynt hwy.

Dug Iesu gysur i lawer cartref. Nid aeth dros drothwy’r un cartref yn ystod ei weinidogaeth nad oedd y cartref hwnnw yn well o’i fod wedi galw heibio. Nid yw Crist byw yn galw heibio i’r un cartref heddiw nad yw bywyd yr aelwyd honno yn gyfoethocach a dedwyddach wedi bod o dan ei weinidogaeth. Gedy ei fendith ar ei ôl wedi iddo alw.

Y mae i’r cartref le pwysig mewn cyweirio bywyd cymdeithas gyfan. Ar yr aelwyd mae pobl yn ymarfer y gelfyddyd o gyd-fyw yn y gymdeithas fach cyn troi allan i gylch ehangach. Yn y cylch cyfyngedig o dan hyfforddiant rhiant, rieni neu warchodwyr y daw person i wybod am y gwersi elfennol fel ei ddyled i gymdeithas yn ogystal â’r breintiau a ddaw iddo wrth addasu ei hun i fyw yn dangnefeddus a’i gyd-ddyn.

Y dylanwadu cyntaf fel rheol ydyw’r dylanwadau dyfnaf. Er bod dyled person i’w ysgol, a’i eglwys leol yn enfawr, pur anaml y treiddia’r dylanwadau hynny’n ddyfnach i enaid dyn na’r dylanwadau ar riniog ei fywyd yn ei gartref.

Y bennaf gamp heddiw yw agor drws yr aelwyd i Grist. Nid oes obaith i unrhyw wareiddiad heb gynhaliaeth ysbrydol. Canfu’r salmydd ers llawer dydd: os yr Arglwydd nid adeilad y tŷ, ofer y llafuria ei adeiladwyr wrtho, os yr Arglwydd ni cheidw y ddinas, ofer y gwylio y ceidwad.