ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (14)

​Y ddelwedd o’r Bugail yw gwrthrych ein sylw heddiw. 

Yr ARGLWYDD yw fy mugail ... (Salm 23:1a)

Myfi yw’r bugail da. (Ioan 10:11a)

​Delwedd i’n cynorthwyo i feddwl am waith Duw a gawn yn y darlun o fugail a’i berthynas â’r defaid. Defnyddiai’r bugail ei wialen i rifo’r defaid a’u cadw rhag crwydro, ond ‘roedd ganddo ffon hefyd i warchod y praidd a’i gadw’n ddiogel rhag perygl. Oni soniodd Amos (3:12) am y bugail yn gwaredu dwy goes neu ddarn o glust o safn y llew a hynny’n dystiolaeth i ddewrder a ffyddlondeb y bugail. Nid un i ffoi rhag perygl oedd, ond un a fentrai i’r eithaf dros ei braidd. Wrth syllu ar y llun hwn heddiw, dylem gofio mai yn y praidd ac yn agos i’r bugail y mae diogelwch y defaid.

​Tueddwn grwydro, Annwyl Dduw, a chael ein denu gan lecyn glas yma a thraw. Dy wialen sydd yn ein tynnu ‘n ôl; dy ffon sydd yn ein gwarchod. Diolch Arglwydd. Amen.

ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (13)

Salmau Dafydd yw testun ein sylw heddiw

Llun: Alexander Avraham Levi

Canwch i’r ARGLWYDD gân newydd ... (Salm 98:1)

Fy enaid, bendithia’r ARGLWYDD, a phaid ag anghofio’i holl ddoniau ... (Salm 103:2)

I lawer, y llyfr mwyaf ei gymorth yn y Beibl yw Llyfr y Salmau. Cawsom nerth a lloches o’r Salmau. Mae’r Salmau’n allweddol yn ein haddoliad ac yn ein bywydau oherwydd bod eu themâu yn cwmpasu bywyd i gyd, y llon a’r lleddf: mae bywyd i gyd yn y Salmau, ei hyd a’i led a’i ddyfnder a’i uchder. Bywyd i gyd, ein bywyd ni i gyd.

Trugaredd Duw i’n plith,

A rhoed ei fendith drosom,

Tywynned byth ei ŵyneb-pryd,

A’i nawdd a’i iechyd arnom. Amen

(Edmwnd Prys)

ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (12)

Samuel a llusern Gair Duw sydd gennym heddiw.

Yr oedd Moses ac Aaron ymhlith ei offeiriaid, a Samuel ymhlith y rhai a alwodd ar ei enw; galwasant ar yr ARGLWYDD, ac atebodd hwy. (Salm 99: 6)

A’r holl broffwydi o Samuel a’i olynwyr ... (Actau 3:24)

A beth a ddywedaf ymhellach? Fe ballai amser imi adrodd yn fanwl hanes Gideon, Barac, Samson, Jefftha, Dafydd a Samuel a’r proffwydi, y rhai drwy ffydd a oresgynnodd deyrnasoedd, a weithredoedd gyfiawnder, a afaelodd yn yr addewidion, a gaeodd safnau llewod, a ddiffoddodd angerdd tân, a ddihangodd rhag min y cleddyf, a nerthwyd o wendid, a ddaeth yn gadarn mewn rhyfel a gyrru byddinoedd yr estron ar ffo. (Hebreaid 11: 32-34)

Ystyrir Samuel fel proffwyd gwreiddiol pobl Dduw. Yn, a thrwy Samuel, daeth math newydd o weinidogaeth i fod. Pwyslais y weinidogaeth offeiriadol oedd aberth; aberth cyson fel arwydd o edifeirwch. Pwyslais y weinidogaeth broffwydol oedd Gair Duw; cyhoeddi Gair Duw i’r bobl, Gair Duw yn gyfoes, dynamig, awdurdodol. Y proffwyd yw’r bont rhwng Gair Duw ac argyfwng pobl.

Annwyl Dduw, dyro i bawb ohonom y ffydd a lŷn wrth dy gariad a’th gyfiawnder di. Amen.

ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (11)

Llun: Marc Chagall

Heddiw, bendith Aaron sydd gennym yn destun sylw. 

Dygais di o dŷ’r caethiwed, a rhoddais Moses, Aaron a Miriam i’th arwain. (Micha 6:4)

Arweiniaist dy bobl fel praidd, trwy law Moses ac Aaron. (Salm 77:20)

O blith dynion y bydd pob archoffeiriad yn cael ei ddewis ... Nid oes neb yn cymryd yr anrhydedd iddo’i hun; Duw sydd yn ei alw, fel y galwodd Aaron(Hebreaid 5:4)

Aaron, brawd Moses a Miriam. Offeiriad gwreiddiol pobl Dduw. Er gwaethaf sawl methiant (Exodus 32) bu’n gyfrwng bendith fawr. Heddiw, mynnwch gyfle i feddwl am rywun sydd i chi’n gysur, yn gynhaliaeth, yn gymorth i fyw, a chyhoeddwch fendith Aaron:

Bydded i’r ARGLWYDD dy fendithio a’th gadw; bydded i’r ARGLWYDD lewyrchu ei wyneb arnat, a bod yn drugarog wrthyt; bydded i’r ARGLWYDD edrych arnat, a rhoi iti heddwch. Amen.

(Numeri 6:24-26).

ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (10)

Heddiw, Moses a’r Deg Gorchymyn (Exodus 20:1-17). 

Paid â symud yr hen derfynau a osodwyd gan dy hynafiaid. (Diarhebion 22:28)

Gwyn eu byd … y rhai sy’n rhodio yng nghyfraith yr ARGLWYDD. (Salm 119:1)

Peidiwch â thybio i mi ddod i ddileu’r Gyfraith na’r proffwydi; ni ddeuthum i ddileu ond i gyflawni. (Mathew 5:17)

Y mae’r Deg Gorchymyn yn cael eu rhannu’n ddwy ran, ac y mae’r toriad yn amlwg. Yn gyntaf cawn bedwar gorchymyn sy’n canolbwyntio ar ddyletswydd pobl tuag at Dduw. Mae’r chwe gorchymyn olaf yn cyfeirio ar ddyletswydd pobl at ei gilydd. Derbyniwyd y Deg Gorchymyn yn eu crynswth gan y Cristnogion cynnar. Er bod Paul yn feirniadol iawn o’r dehongliad diwinyddol ohonynt a nodweddai Iddewiaeth ei gyfnod, nid oedd ganddo'r tamaid lleiaf o amheuaeth ynglŷn â phwysigrwydd y cyfreithiau sylfaenol. Cofiwn hefyd fod Iesu wedi dod, nid i ddileu, ond i gyflawni’r gyfraith. Y mae dylanwad gorchmynion Sinai i’w ganfod hyd heddiw yn y rhan fwyaf o wledydd y Gorllewin.

Llun: Ju-Chul Kim

Mae ei eiriau ef yn llawn

O fywyd ac o hedd;

Ac o’u myfyrio cawn

I’n henaid hyfryd wledd:

Mae derbyn dysg yr Athro Mawr

Yn rhan o’r nef i ni yn awr. Amen

(Penllyn)

ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (9)

Llun: Yoram Raanan

Heddiw, Joseff.

Yr oedd Jacob yn caru Joseff yn fwy na’i holl blant, gan mai mab ei henaint ydoedd; a gwnaeth wisg laes iddo. Pan welodd ei frodyr fod eu tad yn ei garu yn fwy na’r un ohonynt, rhoesant eu cas arno fel na fedrent ddweud gair caredig wrtho. (Genesis 37:3 a 4)

Trwy ffydd y bendithiodd Jacob, wrth fawr, bob un o feibion Joseff, ac addoli â’i bwys ar ei ffon. Trwy ffydd y soniodd Joseff, wrth farw, am exodus meibion Israel, a rhoi gorchymyn ynghylch ei esgyrn. (Hebreaid 11:21-22a)

Gwyddom fod Duw, ym mhob peth, yn gweithio er daioni gyda’r rhai sy’n ei garu ...(Rhufeiniaid 8:28a)

Joseff oedd ffefryn ei dad, Jacob; ac enynnodd hynny genfigen ei frodyr tuag ato. Aeth Joseff yn wrthrych arbennig serch ei dad ac yn wrthrych dicter neilltuol ei frodyr yr un pryd. Bu’n rhaid iddo ddioddef oherwydd y naill a’r llall. Y pwynt pwysig yn, ac o stori Joseff yw bod gallu a doethineb arall ac uwch na holl allu a doethineb pobl, ar waith, yn a thrwy, ar er gwaethaf holl ffolineb pobl, yn cyflawni ei ewyllys daionus ar ein cyfer.

Yn dy law di, Annwyl Dduw, y mae tynged byd a phobl. Gwneler dy ewyllys a deled dy Deyrnas er gwaetha’n camweddau a’n ffolinebau ni. Amen.

ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (8)

​Heddiw, y Proffwydi.

O na byddai holl bobl yr ARGLWYDD yn broffwydi ... (Numeri 11:29)

A digwyddodd hyn oll fel y cyflawnid y gair a lefarwyd gan yr Arglwydd trwy’r proffwyd: "Wele, bydd y wyryf yn beichiogi, ac yn esgor ar fab, a gelwir ef Immanuel", hynny yw, o’i gyfieithu, "Y mae Duw gyda ni" (Mathew 1:22-23)

​Mewn llawer dull a llawer modd y llefarodd Duw gynt wrth yr hynafiaid trwy’r proffwydi, ond yn y dyddiau olaf hyn llefarodd wrthym ni mewn Mab. (Hebreaid 1:1)

Nid wrth ei oes yn unig y sieryd y Proffwyd, ond am ei oes hefyd, a throsti. Beth yw neges y Proffwydi? Cwbl ddiwerth, ac felly niweidiol, yw teimlad crefyddol di-fynegiad. Myn y Proffwydi bod angen mynegi ein teimlad, ei gyfieithu’n ewyllys, ei droi’n weithred ac ymarweddiad.

Annwyl Dduw, dysg ni pa fodd i ddweud a gwneud wrth dy fodd. Amen