• Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu
Menu

Eglwys Minny St.

Street Address
City, State, Zip
Phone Number

Your Custom Text Here

Eglwys Minny St.

  • Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

December 7, 2018 Owain Evans

Edrychwn ymlaen at yr Oedfa Foreol Gynnar (9/12 am 9:30 yn y Festri). Bydd yr ail o gampweithiau Nadolig plant a phlantos yr eglwys yn cael ei chreu a’i chyflwyno!

Yn yr Oedfa Foreol (10:30) bydd Owain yn parhau â’r gyfres o bregethau: Awn i Fethlem, bawb dan ganu. Echel yr ail bregeth hon fydd Luc 2:15 a’r tri pheth i gofio bore Sul fydd: Cân i fyd cythryblus; Cariad i fyd creulon a Cheidwad i fyd colledig.

Bydd ein cyfnod o weddi a gweddïo yn troi ar echel y Colect am yr ail Sul yn Adfent:

Y Gwynfydedig Arglwydd a beraist fod yr Holl Ysgrythur Lân wedi ei hysgrifennu er mwyn ein haddysg ni: caniatâ fod i ni'r fath fodd ei gwrando ei darllen, ei chwilio, a’i dysgu, ac i’n mewn ei mwynhau; fel trwy amynedd, a diddanwch dy Air Sanctaidd y cofleidiem ac y daliom yn wastad obaith Gwynfydedig y bywyd tragwyddol, a roddaist i ni yn ein Hiachawdwr Iesu Grist. Amen.

Liw Nos (18:00) cynhelir ein Gwasanaeth Naw Llith a Charol yng ngofal Glyn Jones a chyfeillion. Diolch i bawb. Boed bendith.

Bydd y casgliad rhydd yn Oedfaon y Sul tuag at waith Cymdeithas y Beibl a bydd cyfle i gyfrannu nwyddau tuag at Fanc Bwyd Caerdydd yn ystod y dydd.

Yn dilyn yr Oedfa Foreol: ‘Dewch a Phrynwch’ Cynnyrch Cartref Nadolig (11:30-12:30) yn y Festri er budd Apêl Madagascar.

Methu dod i’r Oedfa Foreol? Ymunwch â ni trwy gyfrwng negeseuon trydar @MinnyStreet #AddolwnEf Dechrau toc wedi 10:30.

Mae naws yr Adfent ar #BoreolWeddi a #HwyrolWeddi @MinnyStreet ac mae Coeden Jesse yn tyfu a datblygu bob dydd ar y wefan hon. Ymunwch â ni. Boed bendith yn wir.

Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth iddynt edrych a threfnu i’r dyfodol.

Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street, (11/12; 19:30 yn y Festri): Noson Nadoligaidd yng nghwmni Huw Foulkes a’i ffrindiau. (yn y Festri)

Bore Gwener (14/12; 10:00): ‘Llynyddwch’. Paned a thrafodaeth wrth ymyl llyn llonydd y Rhath. Cawn gyfle i drafod, fesul pennod, llyfr Elfed ap Nefydd Roberts: Dehongli’r Damhegion (Cyhoeddiadau’r Gair, 2008). Echel ein trafodaeth fore Gwener fydd Y Ddwy Sylfaen (t.132-136).

← ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (8)ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (7) →

Eglwys Annibynnol Minny St.
Y Waun Ddyfal, Caerdydd
CF24 4ER

Lawrlwytho
Dogfennau

©minny St 2021