Heddiw, y Proffwydi.
O na byddai holl bobl yr ARGLWYDD yn broffwydi ... (Numeri 11:29)
A digwyddodd hyn oll fel y cyflawnid y gair a lefarwyd gan yr Arglwydd trwy’r proffwyd: "Wele, bydd y wyryf yn beichiogi, ac yn esgor ar fab, a gelwir ef Immanuel", hynny yw, o’i gyfieithu, "Y mae Duw gyda ni" (Mathew 1:22-23)
Mewn llawer dull a llawer modd y llefarodd Duw gynt wrth yr hynafiaid trwy’r proffwydi, ond yn y dyddiau olaf hyn llefarodd wrthym ni mewn Mab. (Hebreaid 1:1)
Nid wrth ei oes yn unig y sieryd y Proffwyd, ond am ei oes hefyd, a throsti. Beth yw neges y Proffwydi? Cwbl ddiwerth, ac felly niweidiol, yw teimlad crefyddol di-fynegiad. Myn y Proffwydi bod angen mynegi ein teimlad, ei gyfieithu’n ewyllys, ei droi’n weithred ac ymarweddiad.
Annwyl Dduw, dysg ni pa fodd i ddweud a gwneud wrth dy fodd. Amen