Y ddelwedd o’r Bugail yw gwrthrych ein sylw heddiw.
Yr ARGLWYDD yw fy mugail ... (Salm 23:1a)
Myfi yw’r bugail da. (Ioan 10:11a)
Delwedd i’n cynorthwyo i feddwl am waith Duw a gawn yn y darlun o fugail a’i berthynas â’r defaid. Defnyddiai’r bugail ei wialen i rifo’r defaid a’u cadw rhag crwydro, ond ‘roedd ganddo ffon hefyd i warchod y praidd a’i gadw’n ddiogel rhag perygl. Oni soniodd Amos (3:12) am y bugail yn gwaredu dwy goes neu ddarn o glust o safn y llew a hynny’n dystiolaeth i ddewrder a ffyddlondeb y bugail. Nid un i ffoi rhag perygl oedd, ond un a fentrai i’r eithaf dros ei braidd. Wrth syllu ar y llun hwn heddiw, dylem gofio mai yn y praidd ac yn agos i’r bugail y mae diogelwch y defaid.
Tueddwn grwydro, Annwyl Dduw, a chael ein denu gan lecyn glas yma a thraw. Dy wialen sydd yn ein tynnu ‘n ôl; dy ffon sydd yn ein gwarchod. Diolch Arglwydd. Amen.