• Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu
Menu

Eglwys Minny St.

Street Address
City, State, Zip
Phone Number

Your Custom Text Here

Eglwys Minny St.

  • Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

December 14, 2018 Owain Evans

Yn yr Oedfa Foreol (10:30) bydd Owain yn parhau â’r gyfres o bregethau: Awn i Fethlem, bawb dan ganu. Echel y bregeth hon fydd Luc 2:15 a dyma’r tri pheth i gofio: Hiraeth; Newyn a Chadernid.

Bydd ein cyfnod o weddi a gweddïo yn troi ar echel y Colect am y Sul cyntaf hwn yn Adfent:

O! Arglwydd Iesu Grist a anfonaist dy genhadwr ar dy ddyfodiad cyntaf i baratoi dy ffordd o’th flaen; caniatâ i weinidogion a goruchwylwyr dy ddirgleddau yn yr un modd baratoi ac arloesi dy ffordd, trwy droi calonnau’r anufudd i ddoethineb y cyfiawn; fel ar dy ail ddyfodiad i farnu’r byd, y ceir ni’n bobl gymeradwy yn dy olwg di, sy’n byw ac yn teyrnasu gyda’r Tad, a’r Ysbryd Glân, byth yn un Duw, yn oes oesoedd. Amen.

SYLWER am 17:00 cynhelir ein Dathliad Nadolig. Gwahoddir y plant i ddod â’i gwaith crefft i bawb cael gweld a mwynhau. Parti Nadolig i bawb yn dilyn.

Bydd y gymdeithas yn parhau yn Koinônia: swper blasus a sgwrs ddifyr mewn bwyty Eidalaidd cyfagos.

Methu dod i’r Oedfaon? Ymunwch â ni trwy gyfrwng negeseuon trydar @MinnyStreet #AddolwnEf Dechrau toc wedi 10:30.

Bydd naws yr Adfent ar #BoreolWeddi a #HwyrolWeddi @MinnyStreet a bydd Coeden Jesse yn tyfu a datblygu bob dydd ar y wefan hon. Ymunwch â ni. Boed bendith yn wir.

Nos Lun (17/12; 19:30): ‘Cywyddaid’. Awr fach hamddenol yn y festri: defosiwn syml yn arwain at gyfle i ymdawelu ac ymlonyddu.

Babimini bore Gwener (21/12; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin ... ac ymweliad gan Siôn Corn! Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.

← ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (15)ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (14) →

Eglwys Annibynnol Minny St.
Y Waun Ddyfal, Caerdydd
CF24 4ER

Lawrlwytho
Dogfennau

©minny St 2021