Doethineb Solomon yw testun ein sylw heddiw.
A rhoes yr ARGLWYDD ddoethineb i Solomon, yn ôl ei addewid iddo ... (1 Brenhinoedd 5:2)
Y mae genau’r cyfiawn yn llefaru doethineb ... (Salm 37:30).
Trwy ddoethineb y sylfaenodd yr ARGLWYDD y ddaear ... (Diarhebion 3:19)
Trwy ei waith ef yr ydych chwi yng Nghrist Iesu, yr hwn a wnaed yn ddoethineb i ni oddi wrth Dduw. (1 Corinthiaid 1:30)
Llun: Salvadore Dali
I fod yn ddoeth, nid yw’n ofynnol, o angenrheidrwydd, ddatguddio pethau newydd. Y mae person yn ddoeth os ydyw'n egluro i gylch ehangach, wirionedd na wybyddid mohono o’r blaen ond gan gylch bychan; neu, os adfer i ymwybyddiaeth pobl, wirionedd coll, neu os dwg i amlygrwydd wirionedd a anghofiwyd, neu, os amlygir cymhwysiad newydd i wirionedd cyfarwydd.
Na foed gennym Arglwydd, ond dy ogoniant di yn uchaf nod ein bywyd. Amen