Heddiw, Moses a’r Deg Gorchymyn (Exodus 20:1-17).
Paid â symud yr hen derfynau a osodwyd gan dy hynafiaid. (Diarhebion 22:28)
Gwyn eu byd … y rhai sy’n rhodio yng nghyfraith yr ARGLWYDD. (Salm 119:1)
Peidiwch â thybio i mi ddod i ddileu’r Gyfraith na’r proffwydi; ni ddeuthum i ddileu ond i gyflawni. (Mathew 5:17)
Y mae’r Deg Gorchymyn yn cael eu rhannu’n ddwy ran, ac y mae’r toriad yn amlwg. Yn gyntaf cawn bedwar gorchymyn sy’n canolbwyntio ar ddyletswydd pobl tuag at Dduw. Mae’r chwe gorchymyn olaf yn cyfeirio ar ddyletswydd pobl at ei gilydd. Derbyniwyd y Deg Gorchymyn yn eu crynswth gan y Cristnogion cynnar. Er bod Paul yn feirniadol iawn o’r dehongliad diwinyddol ohonynt a nodweddai Iddewiaeth ei gyfnod, nid oedd ganddo'r tamaid lleiaf o amheuaeth ynglŷn â phwysigrwydd y cyfreithiau sylfaenol. Cofiwn hefyd fod Iesu wedi dod, nid i ddileu, ond i gyflawni’r gyfraith. Y mae dylanwad gorchmynion Sinai i’w ganfod hyd heddiw yn y rhan fwyaf o wledydd y Gorllewin.
Llun: Ju-Chul Kim
Mae ei eiriau ef yn llawn
O fywyd ac o hedd;
Ac o’u myfyrio cawn
I’n henaid hyfryd wledd:
Mae derbyn dysg yr Athro Mawr
Yn rhan o’r nef i ni yn awr. Amen
(Penllyn)