Llun: Marc Chagall
Heddiw, bendith Aaron sydd gennym yn destun sylw.
Dygais di o dŷ’r caethiwed, a rhoddais Moses, Aaron a Miriam i’th arwain. (Micha 6:4)
Arweiniaist dy bobl fel praidd, trwy law Moses ac Aaron. (Salm 77:20)
O blith dynion y bydd pob archoffeiriad yn cael ei ddewis ... Nid oes neb yn cymryd yr anrhydedd iddo’i hun; Duw sydd yn ei alw, fel y galwodd Aaron. (Hebreaid 5:4)
Aaron, brawd Moses a Miriam. Offeiriad gwreiddiol pobl Dduw. Er gwaethaf sawl methiant (Exodus 32) bu’n gyfrwng bendith fawr. Heddiw, mynnwch gyfle i feddwl am rywun sydd i chi’n gysur, yn gynhaliaeth, yn gymorth i fyw, a chyhoeddwch fendith Aaron:
Bydded i’r ARGLWYDD dy fendithio a’th gadw; bydded i’r ARGLWYDD lewyrchu ei wyneb arnat, a bod yn drugarog wrthyt; bydded i’r ARGLWYDD edrych arnat, a rhoi iti heddwch. Amen.
(Numeri 6:24-26).