ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (9)

Llun: Yoram Raanan

Heddiw, Joseff.

Yr oedd Jacob yn caru Joseff yn fwy na’i holl blant, gan mai mab ei henaint ydoedd; a gwnaeth wisg laes iddo. Pan welodd ei frodyr fod eu tad yn ei garu yn fwy na’r un ohonynt, rhoesant eu cas arno fel na fedrent ddweud gair caredig wrtho. (Genesis 37:3 a 4)

Trwy ffydd y bendithiodd Jacob, wrth fawr, bob un o feibion Joseff, ac addoli â’i bwys ar ei ffon. Trwy ffydd y soniodd Joseff, wrth farw, am exodus meibion Israel, a rhoi gorchymyn ynghylch ei esgyrn. (Hebreaid 11:21-22a)

Gwyddom fod Duw, ym mhob peth, yn gweithio er daioni gyda’r rhai sy’n ei garu ...(Rhufeiniaid 8:28a)

Joseff oedd ffefryn ei dad, Jacob; ac enynnodd hynny genfigen ei frodyr tuag ato. Aeth Joseff yn wrthrych arbennig serch ei dad ac yn wrthrych dicter neilltuol ei frodyr yr un pryd. Bu’n rhaid iddo ddioddef oherwydd y naill a’r llall. Y pwynt pwysig yn, ac o stori Joseff yw bod gallu a doethineb arall ac uwch na holl allu a doethineb pobl, ar waith, yn a thrwy, ar er gwaethaf holl ffolineb pobl, yn cyflawni ei ewyllys daionus ar ein cyfer.

Yn dy law di, Annwyl Dduw, y mae tynged byd a phobl. Gwneler dy ewyllys a deled dy Deyrnas er gwaetha’n camweddau a’n ffolinebau ni. Amen.

ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (8)

​Heddiw, y Proffwydi.

O na byddai holl bobl yr ARGLWYDD yn broffwydi ... (Numeri 11:29)

A digwyddodd hyn oll fel y cyflawnid y gair a lefarwyd gan yr Arglwydd trwy’r proffwyd: "Wele, bydd y wyryf yn beichiogi, ac yn esgor ar fab, a gelwir ef Immanuel", hynny yw, o’i gyfieithu, "Y mae Duw gyda ni" (Mathew 1:22-23)

​Mewn llawer dull a llawer modd y llefarodd Duw gynt wrth yr hynafiaid trwy’r proffwydi, ond yn y dyddiau olaf hyn llefarodd wrthym ni mewn Mab. (Hebreaid 1:1)

Nid wrth ei oes yn unig y sieryd y Proffwyd, ond am ei oes hefyd, a throsti. Beth yw neges y Proffwydi? Cwbl ddiwerth, ac felly niweidiol, yw teimlad crefyddol di-fynegiad. Myn y Proffwydi bod angen mynegi ein teimlad, ei gyfieithu’n ewyllys, ei droi’n weithred ac ymarweddiad.

Annwyl Dduw, dysg ni pa fodd i ddweud a gwneud wrth dy fodd. Amen

ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (7)

Llun: Anad

Heddiw Jacob a’i freuddwyd.

Ymadawodd Jacob â Beerseba a theithio tua Haran, A daeth i ryw fan ac aros noson yno, gan fod yr haul wedi machlud. Cymerodd un o gerrig y lle a’i gosod dan ei ben, a gorweddodd i gysgu yn y fan honno. Breuddwydiodd ei fod yn gweld ysgol wedi ei gosod ar y ddaear, a’i phen yn cyrraedd i’r nefoedd, ac angylion Duw yn dringo a disgyn ar hyd-ddi. A safodd yr ARGLWYDD gerllaw iddo a dweud, "Myfi yw’r ARGLWYDD, Duw Abraham dy dad, a Duw Isaac; rhoddaf y tir yr wyt yn gorwedd arno i ti ac i’th ddisgynyddion ... Wele, yr wyf fi gyda thi, a chadwaf di ple bynnag yr ei, a dof â thi’n ôl i’r wlad hon; oherwydd ni’th adawaf nes imi wneud yr hyn a ddywedais." (Genesis 28:10-15)

Mae Jacob yn wynebu ar ei noson gyntaf oddi cartref, heb gysgod aelwyd a rhieni. Gwely anghysurus iawn a gafodd, ond fe lwyddodd i gysgu, ac yn ei gwsg cafodd freuddwyd: ysgol yn cydio’r ddaear wrth y nef, a Duw ei hun yn sefyll ar frig yr ysgol yn llefaru wrtho. Buasem yn disgwyl i Dduw ei geryddu’n llym am ei holl driciau budr, ond nid cerydd ond cysur a roddwyd i Jacob, Wele, yr wyf fi gyda thi. Rhyfedd amynedd yr Arglwydd Dduw!

Yr Un wyt ti’n parhau,

Er beiau’r byd. Amen

(Meigant)

ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (5)

​Heddiw, Abraham.

Llun: Sieger Köder

Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Abram, “Dos o’th wlad, ac oddi wrth dy dylwyth a’th deulu, i’r wlad a ddangosaf i ti. Gwnaf di yn genedl fawr a bendithiaf fi; mawrygaf dy enw a byddi’n fendith ... ac ynot ti bendithir holl dylwythau’r ddaear. (Genesis 12: 1-3).

Mentrodd Abram y cyfan oll ar alwad Duw. Teimlai Abram yn sicr mai Duw oedd yn galw, ac y byddai Ef yn arwain, yn cynnal a chadw. Gan hynny, mae’n ddiogel i ufuddhau, mae’n ddiogel i fentro. Mae Abraham ymhlith arwyr y ffydd: ufuddhaodd, mentrodd. Boed i bawb ohonom fentro ein ffydd, mewn ufudd-dod i Dduw.

Gad im ddeall dy ddysgeidiaeth,
Arglwydd, wrth ei gwneuthur hi ...

Byw fydd cynnydd

Mewn gwybodaeth ac mewn gras. Amen.

(Gwili)

ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (4)

Testun ein sylw heddiw yw Noa.

Llun: Kazuya Akimoto

A gwelodd Duw fod y ddaear yn llygredig, am fod bywyd pob peth byw ar y ddaear wedi ei lygru. (Genesis 6:9)

... dywedodd yr ARGLWYDD wrth Noa, "Dos i mewn i’r arch ..." (Genesis 7:1a)

Ymhen saith diwrnod daeth dyfroedd y dilyw ar y ddaear. (Genesis 7:10)

Yn y flwyddyn chwe chant ac un o oed Noa, yn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o’r mis, sychodd y dyfroedd oddi ar y ddaear ... (Genesis 8:13a)

Gair dieithr i’r Hen Destament yw’r gair crefydd, ond fe ddigwydd y gair cyfamod ynddo dros 300 o weithiau. Diben gosod y bwa yn y cwmwl oedd selio’r cyfamod a wnaethai Duw â Noa. Dyma warant i Noa, ac i ninnau na anfonai’r ARGLWYDD Dduw ddilyw arall i ddifetha pob peth byw. 

Er gwaethaf pob ffolineb o’n heiddo, diolch iti, ein Duw, am gynnal ynom hen hen hiraeth amdanat ti. Amen.

ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (3)

Llun:  Michael Cook

Adda ac Efa.

Cymerodd yr ARGLWYDD Dduw y dyn a’i osod yng ngardd Eden, i’w thrin a’i chadw. (Genesis 2:15)

... dywedodd y dyn, "Dyma hi! Asgwrn o’m hesgyrn, a chnawd o’m cnawd. (Genesis 2: 23)

Yr oedd y sarff yn fwy cyfrwys na’r holl fwystfilod gwyllt a wnaed gan yr ARGLWYDD Dduw. (Genesis 3:1)

... cymerodd o’i ffrwyth a’i fwyta, a’i roi hefyd i’w gŵr oedd gyda hi, a bwytaodd yntau. (Genesis 3: 6b)

... galwodd yr ARGLWYDD Dduw ar y dyn, a dweud wrtho, "Ble’r wyt ti?" (Genesis 3: 9)

Rhyfedd fel mae’r peth a waherddir yn magu rhyw apêl ddofn, ddwys! Mae’n siŵr fod rhyw Eden yn ein profiad ni i gyd. Gwyddom am hudoliaeth y peth a waherddir, a methasom â gwrthsefyll y demtasiwn. Daw ymdeimlad llym o euogrwydd. Amharwyd ar y berthynas rhyngom â Duw, rhyngom â’n gilydd. Ond, drwy drugaredd, nid yw’r stori’n gorffen yn y fan yna. Mae Duw yn chwilio amdanom ...

Yn Eden, cofiaf hynny byth ...

Ond buddugoliaeth Calfarî

Enillodd hon yn ôl i mi

Mi ganaf tra bwyf byw. AMEN

(Pantycelyn)