Agnus Dei a hanes y prawf llym ar ddechrau Genesis 22.
Yr oedd Abraham yn gant oed pan anwyd iddo ei fab Isaac. (Genesis 21:5)
Wedi’r pethau hyn, rhoddodd Duw brawf ar Abraham ...“Cymer dy fab, dy unig fab Isaac, sy’n annwyl gennyt ... ac offryma ef yn aberth ar y mynydd a ddangosaf iti.” (Genesis 22:2)
Yna estynnodd Abraham ei law, a chymryd y gyllell ... (Genesis 22:10a)
Ond galwodd angel yr ARGLWYDD arno o’r nef, a dweud ...“Paid â gosod dy law ar y bachgen ...” Cododd Abraham ei olwg ac edrych, a dyna lle’r oedd hwrdd tu ôl iddo wedi ei ddal gerfydd ei gyrn mewn drysni; aeth Abraham a chymryd yr hwrdd a’i offrymu yn aberth yn lle ei fab. (Genesis 22:11-13)
Trannoeth gwelodd Iesu’n dod tuag ato, a dywedodd, “Dyma Oen Duw, sy’n cymryd ymaith bechod y byd!” (Ioan 1:29)
Y fath brawf! Y mab a’r etifedd y buont yn disgwyl cyhyd amdano, mab yr addewid fawr, calon holl obeithion ei fam a’i dad!
Wrth ddringo’r mynydd y mae’r bachgen yn llawn asbri a hwyl ei blentyndod, heb syniad am y gyfrinach erchyll sydd yng nghalon ei dad; a hwythau bron iawn a chyrraedd pen y daith, meddai Isaac: Dyma’r tân a’r coed; ond ble mae oen yr aberth? A dyma eiriau Abraham - yn llawn o’r Efengyl - geiriau sydd hefyd yn esbonio pam y cysylltir ag Isaac y ddelwedd o’r Oen, a baner ei fuddugoliaeth fawr yn cyhwfan: Duw ein hun fydd yn darparu oen yr aberth, fy mab. (Genesis 22: 7 a 8).
Trannoeth gwelodd Iesu’n dod tuag ato, a dywedodd, “Dyma Oen Duw, sy’n cymryd ymaith bechod y byd!” (Ioan 1:29)
Teilwng yw’r Oen!
(Morgan Rhys)
Fy enaid, ymorffwys ar aberth y groes,
‘does arall a’th gyfyd o ddyfnder dy loes ... Amen.
(William Edwards)