Boed bendith y flwyddyn newydd hon. Braf fydd dechrau’r flwyddyn newydd gyda Duw, gyda’n gilydd. Echel homili Owain yn ein Hoedfa Foreol (10:30) fydd tri gair o eiddo’r mab ieuengaf enwog hwnnw: Faint o weision cyflog sydd gan fy nhad, a phob un ohonynt yn cael mwy na digon o fara ... (Luc 15:17). Mae’r Bwrdd Cymundeb yn amlygu haelioni Duw; dyma Dduw sydd bob amser â mwy na digon o gariad ganddo i FADDAU, ADFER a CHYNNAL.
Wrth y Bwrdd, cawn gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint.
Ers sawl blwyddyn bellach, ‘rydym yn cynnal Gwasanaeth Plygain ar ddechrau’r flwyddyn newydd. Buom yn ei gynnal yng nghapel syml Bethesda’r Fro ond erbyn hyn eglwys hardd Teilo Sant yn Sain Ffagan yw’n cyrchfan (14:00). Y Parchedig Ddr R. Alun Evans, aelod ‘anrhydeddus’ gyda ni yn Eglwys Minny Street sydd wedi arwain ein Plygain lawer tro, a mawr ein diolch iddo ac i bawb a fu ynglŷn â’r trefnu. Hanfod y Blygain yw eich bod chi’n dod i gymryd rhan; a da fydd gweld eto’r eglwys ynghyd, o’r ieuengaf i’r hynaf, yn cymryd rhan gydag asbri. Boed bendith a mwynhad.
Yn ein Hoedfa Hwyrol (18:00) bydd Owain yn ceisio amlygu’r cysylltiad rhwng Eseia Broffwyd, Asyn a’r Tri Gŵr Doeth. Os ydych am wybod rhagor, dewch â chroeso!
Methu dod i’r Oedfaon? Ymunwch â ni trwy gyfrwng negeseuon trydar @MinnyStreet #AddolwnEf Dechrau toc wedi 10:30/18:00.Am wybod mwy? Dewch â chroeso. Boed bendith.
PIMS nos Lun (7/1; 19:00-20:30 yn y Festri): Ych! Blwyddyn Newydd!
Nos Fawrth (8/1; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Esther’. Trown at y bennod agoriadol nos Fawrth. Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun.