• Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu
Menu

Eglwys Minny St.

Street Address
City, State, Zip
Phone Number

Your Custom Text Here

Eglwys Minny St.

  • Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

November 16, 2018 Owain Evans

Cynhelir ein Hoedfa Foreol am 10:30. Dewch â chroeso. Byddwn yn ystyried rhywfaint o arwyddocâd goddefgarwch (Salm 34:13,14). Cais heddwch a’i ddilyn yw anogaeth y Salmydd, a hynny, awgryma Owain, yn gyntaf trwy gydnabod argyhoeddiadau. Ond nid digon hynny, rhaid hefyd cydnabod gwahanol argyhoeddiadau. Amhosibl hyn oll heb gydnabod agwedd Crist at bobl.

Bydd cyfle i gyfrannu nwyddau tuag at Oasis yn ystod y dydd a bydd cyfle hefyd i gyfrannu tuag at waith y Genhadaeth yn ystod oedfaon y dydd.

Byddwn fel eglwys yn gyfrifol am baratoi a gweini te i’r digartref yn y Tabernacl prynhawn Sul am 14:30.

Liw nos (18:00) yn yr Oedfa Hwyrol, testun ein sylw fel cynulleidfa fydd testun y drafodaeth yn Llynyddwch bore Gwener: Dameg y Samariad Trugarog (Luc 10:25-37). Awn i’r afael â’r ddameg bob yn dipyn, adnod wrth adnod bron iawn.

Methu dod i’r Oedfaon? Ymunwch â ni trwy gyfrwng negeseuon trydar @MinnyStreet #AddolwnEf Dechrau toc wedi 10:30/18:00.Am wybod mwy? Dewch â chroeso. Boed bendith.

Bydd y gymdeithas yn parhau yn Koinônia: swper blasus a sgwrs ddifyr mewn bwyty Eidalaidd cyfagos.

PIMS nos Lun (19/11; 19:00-20:30 yn y Festri): Ych! Y Nadolig!

Nos Fawrth (20/11; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Ruth ac Esther’. Trown at y bennod olaf o Lyfr Ruth. Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun.

Bore Gwener (23/11; 10:00): ‘Llynyddwch’. Paned a thrafodaeth wrth ymyl llyn llonydd y Rhath. Cawn gyfle i drafod, fesul pennod, llyfr Elfed ap Nefydd Roberts: Dehongli’r Damhegion (Cyhoeddiadau’r Gair, 2008). Echel ein trafodaeth fore Gwener fydd Y Samariad Trugarog (t.57-61).

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

November 9, 2018 Owain Evans

Edrychwn ymlaen at yr Oedfa Foreol Gynnar (11/11 am 9:30 yn y Festri). Diolch i Marged ac Elinor am drefnu a chynnal y cyfan er ein budd a bendith.

Gweinir brecwast bach a nwyddau Masnach Deg yn y Festri rhwng y ddwy Oedfa Foreol.

‘Cofio’ fydd echel yr Oedfa Foreol (10:30). A oes diben i Sul y Cofio? A oes cyfiawnhad dros y fath Sul? Awgrym ein Gweinidog yw bod diben i’r Cofio, dim ond os ydym yn cofio cofio’r cyfan oll. Yr unig ffordd iachusol o gofio’r marw yw dagrau hallt o edifeirwch ar ruddiau’r byw a gweddi am drugaredd ac arweiniad Duw. Os ceir ar Sul y Cofio ymbil yn lle ymffrost, a gweddi yn lle llw, efallai y gall ein Duw ein hachub, ac achub ein gwleidyddiaeth a’n crefydda ar yr unfed awr ar ddeg.

Ni fydd Ysgol Sul.

Bydd cyfle i gyfrannu tuag at waith Coleg yr Annibynwyr yn ystod oedfaon y dydd.

Liw nos, (18:00) byddwn yn parhau i ystyried pwysigrwydd a phŵer Prydferthwch. Bydd Owain yn ceisio cyfuno Sul y Cofio a phrydferthwch, ac yn gymorth iddo yn hynny o gamp fydd John, Heinrich a Hedd Wyn. Am wybod rhagor? Dewch â chroeso. Byddwn yn falch iawn o’ch cwmni.

Gweddïwn am wenau Duw ar Oedfaon y Sul.

Methu dod i’r Oedfaon? Ymunwch â ni trwy gyfrwng negeseuon trydar @MinnyStreet #AddolwnEf Dechrau toc wedi 10:30/18:00.

Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth iddynt edrych a threfnu i’r dyfodol.

Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street, (13/10; 19:30 yn y Festri): “Fy milltir sgwâr” yng nghwmni Helen Huws a Mary Hodges (yn y Festri)

Nos Fercher (14/10; 19:00-22:00) Noson Gymdeithasol yn Yr Hapus Dyrfa er budd Apêl Madagascar (manylion llawn yng nghyhoeddiadau’r Sul)

Babimini bore Gwener (16/11; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.

'BETHANIA': RUTH AC ESTHER (5)

November 5, 2018 Owain Evans

Os oes gennych Feibl wrth eich penelin, trowch os gwelwch yn dda i Lyfr Ruth, i'r ail bennod i ddechrau. Awn drwyddi ac ymalen i bennod tri a phedwar gan ganolbwyntio ar ambell adnod yn benodol.

Ruth 2:20

A dywedodd Naomi wrth ei gwaudd, Bendigedig fyddo efe gan yr Arglwydd, yr hwn ni pheidiodd â’i garedigrwydd tua’r rhai byw a’r rhai meirw. Dywedodd Naomi hefyd wrthi hi, Agos i ni yw y gŵr hwnnw, o’n cyfathrach ni y mae efe. (WM)

"Bendith yr ARGLWYDD arno!" meddai Naomi, "Mae e wedi bod yn garedig aton ni sy'n fyw a'r rhai sydd wedi marw. Mae'r dyn yma yn perthyn i ni. Mae e'n un o'r rhai sy'n gyfrifol amdanon ni." (beibl.net)

Dug Naomi'r marw, yn ogystal â’r byw, i gylch caredigrwydd Duw, ond ni raid i ni gredu mai syniadau Cristnogol am y nefoedd oedd ganddi. Ni chredai Naomi fod gŵr marw Ruth mewn stad o wynfyd. Nid lle felly oedd y Nefoedd i’r Iddew.

Yr hyn a feddyliai Naomi oedd bod Duw yn dda gan fod gobaith yn awr i ‘enw’ y marw gael ei barhau os priodai Boas Ruth ac y ganesid bachgen iddynt. Yn ddiweddarach yn hanes Israel y daeth meddylwyr crefyddol dwfn i’r casgliad na allasai Duw garu Ei anwyliaid yn y byd hwn drwy eu bywyd ac yn eu gadael mewn anghofrwydd, cysgod-o-fywyd yn Sheol (gweler Salm 16:10 - Canys ni adewi fy enaid yn uffern; ac ni oddefi i’th Sanct weled llygredigaeth.)

Newidiodd Naomi ei chred er dyddiau 1:20 (yr Hollalluog a wnaeth yn chwerw iawn â mi). Troes ei chondemnio yn fendithio; troes ei chwyn yn gân: yr hwn ni pheidiodd â’i garedigrwydd.

Yn rhyfedd iawn, ni cheir yr ansoddair ‘caredig’ ond yn anfynych yn y Beibl. Ei gyfateb yn yr Hebraeg yw ‘chesed’ - trugaredd. Dyma sail holl ymwneud Duw â’i bobl.

Ruth 3:1-6

Dyma Naomi yn dweud wrth Ruth, "Fy merch, dylwn i fod wedi chwilio am gartref i ti, er dy les di. Nawr, mae Boas, y dyn buost ti'n gweithio gyda'i ferched e, yn berthynas agos i ni. Gwranda, heno mae'n mynd i nithio haidd ar y llawr dyrnu. Dos i ymolchi, rhoi colur, a gwisgo dy ddillad gorau, ac wedyn mynd i lawr i'r llawr dyrnu. Ond paid gadael iddo wybod dy fod ti yno nes bydd e wedi gorffen bwyta ac yfed. Yna, pan fydd e'n setlo i lawr i gysgu, sylwa ble mae e'n gorwedd. Dos ato a choda'r dillad wrth ei goesau, a gorwedd i lawr. Bydd e'n dweud wrthot ti beth i'w wneud." Cytunodd Ruth, ac aeth i lawr i'r llawr dyrnu a gwneud yn union fel roedd ei mam-yng-nghyfraith wedi dweud wrthi.

‘Roedd lle pwysig iawn i’r kinsman ym mywyd yr Hebrëwr; ef oedd y perthynas agosaf i deulu (next of kin). Gallasai’r tlawd bwyso ar un felly mewn adfyd a thrafferth.

Pwysigrwydd stori Boas yw iddo adfer Ruth, o Foab, nad oedd yn perthyn i deulu’r ffydd Iddewig. ‘Roedd Ruth, yn ddiwylliannol, yn grefyddol ac yn gyfreithiol y tu allan i’r gymuned ac eto cais Naomi i Boas ei derbyn fel ‘un ohonom ni’.

‘Roedd yn arferiad yn Israel, os byddai gŵr farw heb blant i’w kinsman briodi ei weddw. Ar gyngor Naomi, cais Ruth wybod dymuniad Boas. Rhydd Naomi gyfarwyddiadau i Ruth sut i ymddwyn tuag at Boas, i gael gwybod ei ewyllys. Y canlyniad fu i Boas briodi Ruth a gwaredwyd teulu Elimelech.

Ruth 4:10

Dw i hefyd yn derbyn y cyfrifoldeb i ofalu am Ruth y Foabes, gweddw Machlon. Dw i'n ei chymryd hi'n wraig i mi, er mwyn codi etifedd fydd yn cadw enw'r un fu farw ar ei etifeddiaeth, fel bod ei enw ddim yn diflannu o'r dref. Dych chi'n dystion i hyn i gyd, heddiw!

Er, yn gyfreithlon, nad oedd angen i Boas waredu Ruth, gwyddai na allasai wneud yn wahanol. Mae’n wir iddo deimlo’n ddwfn dros y ferch a adawyd un unig mewn gwlad estron, ond daw hi nawr i’r gymuned - daw yn aelod o’r teulu.

Ceir cyffelybiaeth o weithred Boas at Ruth yng ngweithred Iesu tuag at Sacheus. Trwy ddweud y geiriau: oherwydd ei fod yntau yn fab i Abraham (Luc 19:9), caiff Sacheus ei atgoffa gan Iesu fod ganddo hawl i ddod at Dduw fel pob Iddew arall - un o’r teulu ydyw.

Daw gweithred waredigol Boas â ni wyneb yn wyneb â rhai gwirioneddau am Dduw. Gall Duw deimlo mor dyner, o leiaf, tuag at bob Ruth o Foab a phob gwlad arall. Duw gwaredigol yw Duw, gyda’r dyhead a’r gallu i achub pob un colledig nad oes gymdeithas neu deulu ganddo.

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

November 2, 2018 Owain Evans

Yn yr Oedfa Foreol (10:30) Glan Môr ein perthynas â Duw fydd testun homili Owain Llyr. Daw’r darlleniad o’r Efengyl yn ôl Ioan - 21:1-14. Oedfa Gymundeb fydd hon. Cawn gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint. Cynhelir Ysgol Sul. Gwen fydd yn arwain defosiwn yr ifanc. Boed bendith.

Bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi’r Oedfa Foreol.

Liw nos (18:00), bydd Owain yn parhau â’r gyfres o bregethau: Llythyr Cyntaf Timotheus at Paul. Bydd y bregeth hon hefyd ar ffurf deialog (o fath). Darllenir pennod agoriadol llythyr cyntaf Paul at Timotheus fesul darn a bydd Owain yn ymateb i’r adnodau rheini fel Timotheus. Gellid darllen 1 Timotheus 2 rhag blaen.

Methu dod i’r Oedfaon? Ymunwch â ni trwy gyfrwng negeseuon trydar @MinnyStreet #AddolwnEf Dechrau toc wedi 10:30/18:00.

PIMS nos Lun (5/11; 19:00-20:30 yn y Festri): Ych! Y Deg Pla!

Bydd ein Hymddiriedolwyr yn cwrdd nos Lun. Boed bendith Duw ar eu gwaith.

Nos Fawrth (6/11; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Ruth ac Esther’. Trown at y drydedd bennod o Lyfr Ruth. Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun.

Koinônia amser cinio dydd Mercher (7/11): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.

8/11 19:30-20:30 Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd (yng Nghapel y Crwys, Heol Richmond): Sarah Morris yn sôn am gynllun "Agor y Llyfr". Gweddïwn am wenau Duw ar waith a chenhadaeth Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd.

'YMLAEN' - Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

October 26, 2018 Owain Evans

Dros y Sul, (10:30 a 18:00) ein braint fel eglwys fydd cael gwrando cenadwri a derbyn arweiniad gan y Parchedig Beti-Wyn James (Caerfyrddin). Gwyddom y cawn ganddi bregethu meddylgar a phregethau buddiol a bendithlawn. Ni chynhelir yr Ysgol Sul. Gweddïwn am wenau Duw ar Oedfaon y Sul.

Byddwn fel eglwys yn gyfrifol am baratoi a gweini te i’r digartref yn y Tabernacl prynhawn Sul am 14:30.

29/10: Bore (10:30-12:00) a Noson (19:00-21:00) Siopa Masnach Deg yng nghartref Dianne ac Andrew. Bydd bwydydd tymhorol, cardiau Nadolig, crefftau, teganau a llawer mwy ar gael!

Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street (30/10; 19:30): "Anturiaethau ym myd Barddoniaeth" yng nghwmni Elinor Wyn Reynolds (yn y Festri).

Taith Gerdded Sain Ffagan bore Mercher (31/10; 10:00-13:30). Manylion llawn yng nghyhoeddiadau’r Sul.

'BETHANIA': RUTH AC ESTHER (4)

October 22, 2018 Owain Evans

Os oes gennych Feibl wrth eich penelin, trowch os gwelwch yn dda i Lyfr Ruth, i'r ail bennod. Awn drwyddi gan ganolbwyntio ar ambell adnod yn benodol.

Ruth 2:12

Bydded i’r ARGLWYDD dy wobrwyo am dy weithred, a bydded iti gael dy dalu’n llawn gan yr ARGLWYDD, Duw Israel, y daethost i geisio nodded dan ei adain.

‘Roedd gan yr Hebrëwr athrylith i ddarlunio Duw mewn iaith fyw, ddiriaethol. Ychydig iawn o dermau haniaethol sydd mewn Hebraeg Beiblaidd. Gwelwyd eisoes fel y gallai Naomi, wrth sôn am law yr ARGLWYDD yn f’erbyn i (1:13) ein harwain i weld Duw mewn gweithred yn ‘cosbi’. Gwelwn yn awr fel y rhydd Boas ddarlun ohono, mewn gweithred, yn gofalu. Mae hyn yn gyson â darluniadau tebyg y Salmydd, er enghraifft Salm 17:8; 61:4 a 91:4.

Mae diogelwch yng nghysgod Duw yn thema holl bwysig drwy’r Beibl. Mae’n ddiamau fod perygl o feddwl am ein crefydd fel cysur yn unig, ond ni ellir bod heb y cysur sydd ynddi! Dyma brofiad y rhai a gred yn Nuw ar hyd y canrifoedd - y mae diogelwch a chysgod ynddo sy’n galluogi person i oddef os nad herio’r amgylchiadau gwaethaf. Nid mewn noddfa bell y cân y Salmydd ac eraill am y diogelwch ond ar ganol llwybr bywyd a’i beryglon; yn eu canol profa dangnefedd cynhaliol ei ffydd.

Ruth 2:13

Dywedodd hi, "Yr wyt yn garedig iawn, f’arglwydd, oherwydd yr wyt wedi cysuro a chalonogi dy forwyn, er nad wyf yn un o’th forynion di."

Yna hi a ddywedodd, Caffwyf ffafr yn dy olwg di, fy arglwydd; gan i ti fy nghysuro i, a chan i ti lefaru wrth fodd calon dy wasanaeth-ferch, er nad ydwyf fel un o’th lawforynion di. (WM)

Dyma enghraifft eto o’r dull darluniadol effeithiol i fynegi teimlad Ruth. Sieryd Boas yn garedig wrthi er nad wyf yn un o’th forynion di. ‘Roedd Ruth yn ddieithryn mewn gwlad ddieithr, ac yr oedd mewn angen am gysur a chymorth i fyw. Efallai i Keats fynd mymryn yn rhy bell wrth gydymdeimlo â hi: the sad heart of Ruth when sick for hom she stood in tears amid the alien corn. Nid dyna’r union ddarlun a welir yma. ‘Roedd ei chartref lle ‘roedd Naomi, a’i noddfa dan adain Duw Israel. Er hynny, ‘roedd Ruth yn gwerthfawrogi gair i’w chalon.

Defnyddir yr ymadrodd wrth fodd calon gan Eseia: Dywedwch wrth fodd calon Jerwsalem, llefwch wrthi hi, gyflawni ei milwriaeth, ddileu ei hanwiredd: oherwydd derbyniodd o law yr Arglwydd yn ddauddyblyg am ei holl bechodau. (40:2). Ac meddai Adam Smith yn ei esboniad: It is the ordinary Hebrew expression for wooing. Iaith serch a chariad ydyw, iaith y galon.

Ruth 2:14

A dywedodd Boas wrthi hi, Yn amser bwyd tyred yma, a bwyta o’r bara, a gwlych dy damaid yn y finegr. A hi a eisteddodd wrth ystlys y medelwyr: ac efe a estynnodd iddi gras ŷd; a hi a fwytaodd, ac a ddigonwyd, ac a adawodd weddill. (WM)

Er bod Ruth yng ngolwg y gyfraith yn estron, fe’i gwahoddir i fwyta bara a’i wlychu yn y finegr gyda lloffwyr Bethlehem, er yr addawsai pob Iddew uniongred i’r anuniongred ‘ni fwytâf gyda thi nac yfed gyda thi na gweddïo gyda thi.’

Dynodai cyd-fwyta a chydyfed teimladau da rhwng pobl (gweler 2 Samuel 9:7). Dynodai hefyd lawenydd (Nehemeia 8:10) a chyfamod (Josua 9:14). ‘Roedd hon yn weithred bositif gan yr Iddew i fynegi cymod. Mae’n wir na roddai Iesu lawer o bwy ar bethau allanol fel golchi cyn bwyta, ond y mae’n werth sylwi ar arwyddocâd ei barodrwydd i fwyta gyda phublicanod a phechaduriaid. Cymdeithasai mewn gwirionedd gyda hwy, a dangosai barodrwydd i ddod i gymod â hwy. Bu hynny’n ormod i’r rheini a’i gwrthwynebodd.

I’r Cristion y cyd-fwyta pwysicaf yw cyfranogi o Swper yr Arglwydd, ac mae hwnnw’n arwydd o gymod: wrth y Bwrdd mae ‘Cymundeb yn saint’ yn realiti. Mae’n symbol, er ein rhaniadau a’n gwahaniaethau i gyd, ein bod i gyd yn un ‘yng Nghrist’. Gan mai Bwrdd yr Arglwydd ydyw, mae’n lle i bawb o bobl yr Arglwydd a thristwch ein cyfnod yw ei weld o hyd yn Fwrdd sy’n gwahanu nid yn uno.

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

October 19, 2018 Owain Evans

Oedfa Foreol fel arfer am 10:30! Cynhelir Ysgol Sul. Byddwn yn parhau â’r gyfres ‘Anghymharol Brydferthwch Crist’. Daw’r darlleniad o’r Hen Destament Newydd: Gwisgoedd i’r Offeiriaid (Exodus 28:1-14). Mae prydferthwch yn gwbl anhepgor i’r ffydd Gristnogol gan mai hanfod ein ffydd yw Iesu. Yn y bregeth hon, bydd Owain yn mynd i’r afael ag arwyddocâd yr adnod hon: Gwna wisgoedd cysegredig ar gyfer dy frawd Aaron, er gogoniant a harddwch. (28:2) Pob Saboth, ‘roedd disgwyl i Aaron wisgo: dwyfronneg, effod, mantell, siaced wau, penwisg a gwregys. Mae awdur Exodus wrth ddisgrifio gwisg Aaron, yn sôn am aur, rhuddem, topas, emrallt, saffir a diemwnt; agat, amethyst, onyx a isabis; porffor ac ysgarlad, a lliain main wedi ei nyddu a’i wnïo’n gywrain. O amgylch godre’r wisg ‘roedd bomgranadau o sidan glas a chlychau aur yn tincial rhyngddynt. Rhaid bod addoliad Tabernacl yr Iddewon yn extravagansa i’r synhwyrau i gyd. A hynny’n unol ag ewyllys Duw. Mae lle i brydferthwch yn ein gwasanaeth a gwasanaethau. Addolwn Dduw prydferth; mae gennym Arglwydd byw a bendigedig, ac mae’r bywyd newydd hwnnw’n fendigedig o brydferth.

Diolch i Robin am ddarllen o’r Gair ac i Angharad ac Ieuan am arwain ein gweddi a gweddïau.

Rhwng y ddwy Oedfa (15:30-17:30) bydd cyfle i wylio’r ffilm ‘MADAGASCAR’. Cawn fwynhau yng nghwmni ein gilydd "o’r ieuengaf i’r hynaf" a chodi arian i Apêl Madagascar Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.

Liw nos (18:00) yn yr Oedfa Hwyrol, testun ein sylw fel cynulleidfa fydd testun y drafodaeth yn Llynyddwch bore Gwener: Dameg yr Efrau ymysg yr ŷd. (Mathew 13:24-30; 36-43). Ystyriwn y ddameg bob yn dipyn, adnod wrth adnod bron iawn. Pregeth tri phen sydd gan ein Gweinidog, ond yr un pen yw’r tri! Am wybod mwy? Dewch â chroeso. Boed bendith.

Diolch i Llŷr am ddarllen o’r Gair ac i Gill am ein harwain mewn gweddi.

Bydd y gymdeithas yn parhau yn Koinônia: swper blasus a sgwrs ddifyr mewn bwyty Eidalaidd cyfagos

PIMS nos Lun (22/10; 19:00-20:30 yn y Festri): Ych! Y Deg Pla!

Nos Fawrth (23/10; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Ruth ac Esther’. Parhawn i astudio a thrafod ail bennod Llyfr Ruth. Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun.

Bore Gwener (26/10; 10:00): ‘Llynyddwch’. Paned a thrafodaeth wrth ymyl llyn llonydd y Rhath. Cawn gyfle i drafod, fesul pennod, llyfr Elfed ap Nefydd Roberts: Dehongli’r Damhegion (Cyhoeddiadau’r Gair, 2008). Echel ein trafodaeth fore Gwener fydd ‘Yr Efrau Ymysg yr Ŷd’ (t.32-37).

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

October 12, 2018 Owain Evans

Edrychwn ymlaen at yr Oedfa Foreol Gynnar (14/10 am 9:30 yn y Festri). Ein Hoedfa Ddiolchgarwch fydd hon. Byddwn yn casglu nwyddau i Oasis a Banc Bwyd Caerdydd.

Gweinir brecwast bach a nwyddau Masnach Deg yn y Festri rhwng y ddwy Oedfa Foreol.

‘Newyddion’ (Luc 6:24-25) fydd echel yr Oedfa Foreol (10:30) - Newyddion y Dydd a Newyddion ein Dydd, y naill ymhlyg yn y llall. Am wybod mwy? Dewch â chroeso. Ni fydd Ysgol Sul.

Liw nos, byddwn yn ymuno yng Ngŵyl Bregethu Eglwys Ebeneser (yn Eglwys Ganol y Ddinas, Windsor Place): pregethir gan Arwel Ellis Jones (Caernarfon). Sylwer ar yr amser: 17:30. Ni fydd Oedfa Hwyrol ym Minny Street.

Nos Lun (15/10; 19:30): ‘Cywyddaid’. Awr fach hamddenol yn y festri: defosiwn syml yn arwain at gyfle i ymdawelu ac ymlonyddu.

Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street, (Nos Fawrth 16/10; 19:30 yn y Festri): "Benvenuti a Galles" yng nghwmni Robat Powell (yn y Festri).

Nos Fercher (17/10; 19:00-21:30) Panel Diogelwch Cydenwadol - sesiwn hyfforddiant i’n helpu i ddeall ein cyfrifoldebau tuag at blant ac oedolion bregus o fewn ein heglwysi. 

Babimini bore Gwener (19/10; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.

← Newer Posts Older Posts →

Eglwys Annibynnol Minny St.
Y Waun Ddyfal, Caerdydd
CF24 4ER

Lawrlwytho
Dogfennau

©minny St 2021