Oedfa Foreol fel arfer am 10:30! Cynhelir Ysgol Sul. Byddwn yn parhau â’r gyfres ‘Anghymharol Brydferthwch Crist’. Daw’r darlleniad o’r Hen Destament Newydd: Gwisgoedd i’r Offeiriaid (Exodus 28:1-14). Mae prydferthwch yn gwbl anhepgor i’r ffydd Gristnogol gan mai hanfod ein ffydd yw Iesu. Yn y bregeth hon, bydd Owain yn mynd i’r afael ag arwyddocâd yr adnod hon: Gwna wisgoedd cysegredig ar gyfer dy frawd Aaron, er gogoniant a harddwch. (28:2) Pob Saboth, ‘roedd disgwyl i Aaron wisgo: dwyfronneg, effod, mantell, siaced wau, penwisg a gwregys. Mae awdur Exodus wrth ddisgrifio gwisg Aaron, yn sôn am aur, rhuddem, topas, emrallt, saffir a diemwnt; agat, amethyst, onyx a isabis; porffor ac ysgarlad, a lliain main wedi ei nyddu a’i wnïo’n gywrain. O amgylch godre’r wisg ‘roedd bomgranadau o sidan glas a chlychau aur yn tincial rhyngddynt. Rhaid bod addoliad Tabernacl yr Iddewon yn extravagansa i’r synhwyrau i gyd. A hynny’n unol ag ewyllys Duw. Mae lle i brydferthwch yn ein gwasanaeth a gwasanaethau. Addolwn Dduw prydferth; mae gennym Arglwydd byw a bendigedig, ac mae’r bywyd newydd hwnnw’n fendigedig o brydferth.
Diolch i Robin am ddarllen o’r Gair ac i Angharad ac Ieuan am arwain ein gweddi a gweddïau.
Rhwng y ddwy Oedfa (15:30-17:30) bydd cyfle i wylio’r ffilm ‘MADAGASCAR’. Cawn fwynhau yng nghwmni ein gilydd "o’r ieuengaf i’r hynaf" a chodi arian i Apêl Madagascar Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.
Liw nos (18:00) yn yr Oedfa Hwyrol, testun ein sylw fel cynulleidfa fydd testun y drafodaeth yn Llynyddwch bore Gwener: Dameg yr Efrau ymysg yr ŷd. (Mathew 13:24-30; 36-43). Ystyriwn y ddameg bob yn dipyn, adnod wrth adnod bron iawn. Pregeth tri phen sydd gan ein Gweinidog, ond yr un pen yw’r tri! Am wybod mwy? Dewch â chroeso. Boed bendith.
Diolch i Llŷr am ddarllen o’r Gair ac i Gill am ein harwain mewn gweddi.
Bydd y gymdeithas yn parhau yn Koinônia: swper blasus a sgwrs ddifyr mewn bwyty Eidalaidd cyfagos
PIMS nos Lun (22/10; 19:00-20:30 yn y Festri): Ych! Y Deg Pla!
Nos Fawrth (23/10; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Ruth ac Esther’. Parhawn i astudio a thrafod ail bennod Llyfr Ruth. Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun.
Bore Gwener (26/10; 10:00): ‘Llynyddwch’. Paned a thrafodaeth wrth ymyl llyn llonydd y Rhath. Cawn gyfle i drafod, fesul pennod, llyfr Elfed ap Nefydd Roberts: Dehongli’r Damhegion (Cyhoeddiadau’r Gair, 2008). Echel ein trafodaeth fore Gwener fydd ‘Yr Efrau Ymysg yr Ŷd’ (t.32-37).