Os oes gennych Feibl wrth eich penelin, trowch os gwelwch yn dda i Lyfr Ruth, i'r ail bennod. Awn drwyddi gan ganolbwyntio ar ambell adnod yn benodol.
Ruth 2:12
Bydded i’r ARGLWYDD dy wobrwyo am dy weithred, a bydded iti gael dy dalu’n llawn gan yr ARGLWYDD, Duw Israel, y daethost i geisio nodded dan ei adain.
‘Roedd gan yr Hebrëwr athrylith i ddarlunio Duw mewn iaith fyw, ddiriaethol. Ychydig iawn o dermau haniaethol sydd mewn Hebraeg Beiblaidd. Gwelwyd eisoes fel y gallai Naomi, wrth sôn am law yr ARGLWYDD yn f’erbyn i (1:13) ein harwain i weld Duw mewn gweithred yn ‘cosbi’. Gwelwn yn awr fel y rhydd Boas ddarlun ohono, mewn gweithred, yn gofalu. Mae hyn yn gyson â darluniadau tebyg y Salmydd, er enghraifft Salm 17:8; 61:4 a 91:4.
Mae diogelwch yng nghysgod Duw yn thema holl bwysig drwy’r Beibl. Mae’n ddiamau fod perygl o feddwl am ein crefydd fel cysur yn unig, ond ni ellir bod heb y cysur sydd ynddi! Dyma brofiad y rhai a gred yn Nuw ar hyd y canrifoedd - y mae diogelwch a chysgod ynddo sy’n galluogi person i oddef os nad herio’r amgylchiadau gwaethaf. Nid mewn noddfa bell y cân y Salmydd ac eraill am y diogelwch ond ar ganol llwybr bywyd a’i beryglon; yn eu canol profa dangnefedd cynhaliol ei ffydd.
Ruth 2:13
Dywedodd hi, "Yr wyt yn garedig iawn, f’arglwydd, oherwydd yr wyt wedi cysuro a chalonogi dy forwyn, er nad wyf yn un o’th forynion di."
Yna hi a ddywedodd, Caffwyf ffafr yn dy olwg di, fy arglwydd; gan i ti fy nghysuro i, a chan i ti lefaru wrth fodd calon dy wasanaeth-ferch, er nad ydwyf fel un o’th lawforynion di. (WM)
Dyma enghraifft eto o’r dull darluniadol effeithiol i fynegi teimlad Ruth. Sieryd Boas yn garedig wrthi er nad wyf yn un o’th forynion di. ‘Roedd Ruth yn ddieithryn mewn gwlad ddieithr, ac yr oedd mewn angen am gysur a chymorth i fyw. Efallai i Keats fynd mymryn yn rhy bell wrth gydymdeimlo â hi: the sad heart of Ruth when sick for hom she stood in tears amid the alien corn. Nid dyna’r union ddarlun a welir yma. ‘Roedd ei chartref lle ‘roedd Naomi, a’i noddfa dan adain Duw Israel. Er hynny, ‘roedd Ruth yn gwerthfawrogi gair i’w chalon.
Defnyddir yr ymadrodd wrth fodd calon gan Eseia: Dywedwch wrth fodd calon Jerwsalem, llefwch wrthi hi, gyflawni ei milwriaeth, ddileu ei hanwiredd: oherwydd derbyniodd o law yr Arglwydd yn ddauddyblyg am ei holl bechodau. (40:2). Ac meddai Adam Smith yn ei esboniad: It is the ordinary Hebrew expression for wooing. Iaith serch a chariad ydyw, iaith y galon.
Ruth 2:14
A dywedodd Boas wrthi hi, Yn amser bwyd tyred yma, a bwyta o’r bara, a gwlych dy damaid yn y finegr. A hi a eisteddodd wrth ystlys y medelwyr: ac efe a estynnodd iddi gras ŷd; a hi a fwytaodd, ac a ddigonwyd, ac a adawodd weddill. (WM)
Er bod Ruth yng ngolwg y gyfraith yn estron, fe’i gwahoddir i fwyta bara a’i wlychu yn y finegr gyda lloffwyr Bethlehem, er yr addawsai pob Iddew uniongred i’r anuniongred ‘ni fwytâf gyda thi nac yfed gyda thi na gweddïo gyda thi.’
Dynodai cyd-fwyta a chydyfed teimladau da rhwng pobl (gweler 2 Samuel 9:7). Dynodai hefyd lawenydd (Nehemeia 8:10) a chyfamod (Josua 9:14). ‘Roedd hon yn weithred bositif gan yr Iddew i fynegi cymod. Mae’n wir na roddai Iesu lawer o bwy ar bethau allanol fel golchi cyn bwyta, ond y mae’n werth sylwi ar arwyddocâd ei barodrwydd i fwyta gyda phublicanod a phechaduriaid. Cymdeithasai mewn gwirionedd gyda hwy, a dangosai barodrwydd i ddod i gymod â hwy. Bu hynny’n ormod i’r rheini a’i gwrthwynebodd.
I’r Cristion y cyd-fwyta pwysicaf yw cyfranogi o Swper yr Arglwydd, ac mae hwnnw’n arwydd o gymod: wrth y Bwrdd mae ‘Cymundeb yn saint’ yn realiti. Mae’n symbol, er ein rhaniadau a’n gwahaniaethau i gyd, ein bod i gyd yn un ‘yng Nghrist’. Gan mai Bwrdd yr Arglwydd ydyw, mae’n lle i bawb o bobl yr Arglwydd a thristwch ein cyfnod yw ei weld o hyd yn Fwrdd sy’n gwahanu nid yn uno.