Os oes gennych Feibl wrth eich penelin, trowch os gwelwch yn dda i Lyfr Ruth, i'r ail bennod i ddechrau. Awn drwyddi ac ymalen i bennod tri a phedwar gan ganolbwyntio ar ambell adnod yn benodol.
Ruth 2:20
A dywedodd Naomi wrth ei gwaudd, Bendigedig fyddo efe gan yr Arglwydd, yr hwn ni pheidiodd â’i garedigrwydd tua’r rhai byw a’r rhai meirw. Dywedodd Naomi hefyd wrthi hi, Agos i ni yw y gŵr hwnnw, o’n cyfathrach ni y mae efe. (WM)
"Bendith yr ARGLWYDD arno!" meddai Naomi, "Mae e wedi bod yn garedig aton ni sy'n fyw a'r rhai sydd wedi marw. Mae'r dyn yma yn perthyn i ni. Mae e'n un o'r rhai sy'n gyfrifol amdanon ni." (beibl.net)
Dug Naomi'r marw, yn ogystal â’r byw, i gylch caredigrwydd Duw, ond ni raid i ni gredu mai syniadau Cristnogol am y nefoedd oedd ganddi. Ni chredai Naomi fod gŵr marw Ruth mewn stad o wynfyd. Nid lle felly oedd y Nefoedd i’r Iddew.
Yr hyn a feddyliai Naomi oedd bod Duw yn dda gan fod gobaith yn awr i ‘enw’ y marw gael ei barhau os priodai Boas Ruth ac y ganesid bachgen iddynt. Yn ddiweddarach yn hanes Israel y daeth meddylwyr crefyddol dwfn i’r casgliad na allasai Duw garu Ei anwyliaid yn y byd hwn drwy eu bywyd ac yn eu gadael mewn anghofrwydd, cysgod-o-fywyd yn Sheol (gweler Salm 16:10 - Canys ni adewi fy enaid yn uffern; ac ni oddefi i’th Sanct weled llygredigaeth.)
Newidiodd Naomi ei chred er dyddiau 1:20 (yr Hollalluog a wnaeth yn chwerw iawn â mi). Troes ei chondemnio yn fendithio; troes ei chwyn yn gân: yr hwn ni pheidiodd â’i garedigrwydd.
Yn rhyfedd iawn, ni cheir yr ansoddair ‘caredig’ ond yn anfynych yn y Beibl. Ei gyfateb yn yr Hebraeg yw ‘chesed’ - trugaredd. Dyma sail holl ymwneud Duw â’i bobl.
Ruth 3:1-6
Dyma Naomi yn dweud wrth Ruth, "Fy merch, dylwn i fod wedi chwilio am gartref i ti, er dy les di. Nawr, mae Boas, y dyn buost ti'n gweithio gyda'i ferched e, yn berthynas agos i ni. Gwranda, heno mae'n mynd i nithio haidd ar y llawr dyrnu. Dos i ymolchi, rhoi colur, a gwisgo dy ddillad gorau, ac wedyn mynd i lawr i'r llawr dyrnu. Ond paid gadael iddo wybod dy fod ti yno nes bydd e wedi gorffen bwyta ac yfed. Yna, pan fydd e'n setlo i lawr i gysgu, sylwa ble mae e'n gorwedd. Dos ato a choda'r dillad wrth ei goesau, a gorwedd i lawr. Bydd e'n dweud wrthot ti beth i'w wneud." Cytunodd Ruth, ac aeth i lawr i'r llawr dyrnu a gwneud yn union fel roedd ei mam-yng-nghyfraith wedi dweud wrthi.
‘Roedd lle pwysig iawn i’r kinsman ym mywyd yr Hebrëwr; ef oedd y perthynas agosaf i deulu (next of kin). Gallasai’r tlawd bwyso ar un felly mewn adfyd a thrafferth.
Pwysigrwydd stori Boas yw iddo adfer Ruth, o Foab, nad oedd yn perthyn i deulu’r ffydd Iddewig. ‘Roedd Ruth, yn ddiwylliannol, yn grefyddol ac yn gyfreithiol y tu allan i’r gymuned ac eto cais Naomi i Boas ei derbyn fel ‘un ohonom ni’.
‘Roedd yn arferiad yn Israel, os byddai gŵr farw heb blant i’w kinsman briodi ei weddw. Ar gyngor Naomi, cais Ruth wybod dymuniad Boas. Rhydd Naomi gyfarwyddiadau i Ruth sut i ymddwyn tuag at Boas, i gael gwybod ei ewyllys. Y canlyniad fu i Boas briodi Ruth a gwaredwyd teulu Elimelech.
Ruth 4:10
Dw i hefyd yn derbyn y cyfrifoldeb i ofalu am Ruth y Foabes, gweddw Machlon. Dw i'n ei chymryd hi'n wraig i mi, er mwyn codi etifedd fydd yn cadw enw'r un fu farw ar ei etifeddiaeth, fel bod ei enw ddim yn diflannu o'r dref. Dych chi'n dystion i hyn i gyd, heddiw!
Er, yn gyfreithlon, nad oedd angen i Boas waredu Ruth, gwyddai na allasai wneud yn wahanol. Mae’n wir iddo deimlo’n ddwfn dros y ferch a adawyd un unig mewn gwlad estron, ond daw hi nawr i’r gymuned - daw yn aelod o’r teulu.
Ceir cyffelybiaeth o weithred Boas at Ruth yng ngweithred Iesu tuag at Sacheus. Trwy ddweud y geiriau: oherwydd ei fod yntau yn fab i Abraham (Luc 19:9), caiff Sacheus ei atgoffa gan Iesu fod ganddo hawl i ddod at Dduw fel pob Iddew arall - un o’r teulu ydyw.
Daw gweithred waredigol Boas â ni wyneb yn wyneb â rhai gwirioneddau am Dduw. Gall Duw deimlo mor dyner, o leiaf, tuag at bob Ruth o Foab a phob gwlad arall. Duw gwaredigol yw Duw, gyda’r dyhead a’r gallu i achub pob un colledig nad oes gymdeithas neu deulu ganddo.