Chwiliwch heddiw am yr angel hwn a'r adnod hon.
'ANGEL AG ADNOD' ADFENT I'R TEULU (2)
Chwiliwch heddiw am yr angel hwn a'r adnod hon.
GŴYL SANT ANDREAS
Sant Andreas (1610-14) gan El Greco (1541-1614)
Andreas...
Nawddsant yr Alban ers canol yr 8fed ganrif; y cyntaf o’r apostolion i gael ei gofio ym mlwyddyn yr Eglwys. Andreas oedd y disgybl cyntaf, a’r cenhadwr cyntaf. Yn ôl Ioan, bu’n ddisgybl i Ioan Fedyddiwr cyn dewis dilyn Iesu (Ioan 1:35-42). Y peth cyntaf a wnaeth yn sgil dewis dilyn Iesu oedd annog ei frawd, Simon Pedr i ddod at y Crist (1:41), ond gwnaeth fwy na dim ond annog, sylwch: daeth ag ef (Pedr) at Iesu. Gwelir cyfuniad o’r gair a’r weithred yn Andreas: cenhadwr. Er waethaf bob tueddiad i ddrysu ac ymddrysu am ystyr y geiriau: cenhadu, cenhadon, cenhadaeth, ystyr syml sydd iddynt: arwain eraill at Iesu. Hynny, yn syml yw cenhadu: arwain pobl, mewn gair a gweithred, at Iesu - hynny, dim ond hynny yw cenhadaeth y cenhadon. Y cenhadu hwn yw anadl-einioes y wir eglwys. Ein cenhadaeth, os caf aralleirio gweddi Sant Rhisiart o Chichester (c.1197-1253) yw galluogi eraill, ynom a thrwom, i weld Duw yn eglurach, ei garu’n anwylach, a’i ddilyn yn dynnach o ddydd i ddydd. (CFf.:988). Cenhadaeth pob Cristion yw cyflwyno Crist i bobl, a phobl i Grist, ac wrth wneud hynny fe ddown ein hunain i’w ddilyn Ef yn dynnach, ei garu’n anwylach a’i weld yn eglurach. Dyma baradocs oesol y ffydd: wrth ei rannu, ehanga. Wrth ei gadw, crebacha. Dyma, mi gredaf, yw neges a her Andreas Sant.
Cymer, Arglwydd, f’einioes i i’w chysegru oll i ti. Amen
(F.R.Havergall 1836-79; cyf. John Morris-Jones, 1864-1929. CFf.:767)
(OLlE)
NEWYDDION Y SUL
God’s Frozen People: llyfr, ac iddo ddau awdur, T. Ralph Morton a Mark Gibbs (Fontana 1964). Mae teitl y llyfr yn awgrymog. Aeth God’s Chosen People yn God’s Frozen People. Eglwys mewn cold storage yw Eglwys Iesu Grist ers blynyddoedd lawer; wedi ei dewis gan Dduw i achub y byd, ond yn analluog i gyflawni ei phriod genhadaeth am ei bod hi wedi ei fferru. Hanfod dadl yr awduron yw bod yn rhaid adfer y ‘lleygwr’ i’w briod le yng nghanol bywyd yr eglwys. Dyrchafwyd yr offeiriad a’r gweinidog yn ein heglwysi gan ddiraddio’r lleygwr. Yn y Testament Newydd ei hun y darganfyddai awduron God’s Frozen People pwy yw’r lleygwyr mewn gwirionedd, yn nysgeidiaeth y Testament Newydd am natur Eglwys. Nid yr adeilad ar gornel stryd yw’r eglwys yno, ac yn sicr nid enwad mohono, ond holl bobl Dduw. Yr eglwys leol yn y Testament Newydd yw pobl Dduw yn ymgynnull yn nhŷ hwn-a-hwn, ond yr Eglwys yw holl bobl Dduw drwy’r Ymerodraeth Rufeinig mewn cymdeithas â’i gilydd. Hwynt-hwy yw’r loas - a’r gair hwn a roes inni’r geiriau Cymraeg ‘lleygwyr’ a ‘lleyg. Y mae’r awduron yn dyfynnu geiriau Hans-Ruedi Weber yn ei lyfryn Salty Christians (1993; Seabury): Too often the clergy undertake to fulfil by themselves the ministry of the church. And too often the laity delegate their ministry to one man - the clergyman. This ‘one man show’ is deeply unbiblical. Beth yw hyn? Nid Newyddion y Sul mo hyn, ond darlith, neu adolygiad o hen hen lyfr! Na, Newyddion y Sul ydyw. Ym mis Mai 2013, cyhoeddwyd Adroddiad o Drafodaethau ac Argymhellion Gweithgor Gweinidogaeth Eglwys Minny Street. Y cyntaf o bum flaenoriaeth a nodwyd i waith a chenhadaeth yr eglwys hon oedd 'Addoliad': Wrth ymfalchïo yn arddull, naws ac ehangder ein haddoliad, teimlai’r Gweithgor bod yna gyfleoedd i gynyddu ymwneud aelodau yn ein hoedfaon. Hyn, nid yn unig er mwyn datblygu "gweinidogaeth yr holl saint", ond hefyd, fel modd i feithrin cynulleidfa a fydd, gobeithio, yn fwy parod i ymgymryd â threfnu ac arwain oedfaon pan fydd, efallai, mwy o alw (e.e. cyfnod di-weinidog). Cytunwyd bod angen meithrin, ymysg ein haelodau, barodrwydd i gynnig gwasanaeth yn hytrach na disgwyl i rywun ofyn. Gwelwyd hefyd gyfleoedd trwy’r fath ymwneud i ennyn ymdeimlad o gyd-weithio ymysg grwpiau o aelodau’r gynulleidfa.
Bellach, mae pob pumed Sul yn y mis yn gyfle i aelodau’r eglwys i drefnu a chynnal yr addoliad. Buddiol a bendithiol yw hyn. Aelodau Pwyllgor Cymdeithas Ddiwylliannol eglwys Minny Street fu’n gyfrifol am yr Oedfa Foreol. Dyfal bu’r paratoi, a dygn y trefnu i sicrhau fod gan bawb - o’r ieuengaf i’r hynaf - ei le, cyfle a chyfraniad: darlleniadau a gweddïau, unawd cerdd dant, parti plant yn canu ‘Gŵyl y Baban’ a llunio torch Adfent. Pawb a’i waith, a gwaith i bawb wrth gynnal gwasanaeth ac offrymu mawl ac addoliad. Rhiannon fu’n cyflwyno homili, a chawsom ganddi neges braff a phwrpasol.
Echel sylwadau Rhiannon oedd y torch Adfent. I ddechrau, cydiodd yn symbolaeth y dorch. Mae’r dorch yn grwn, ac mae cariad Duw yn grwn - yn cydio ym mhawb a phopeth. ‘Does unlle y medrwn fynd, ‘does undim y medrwn ei wneud, ‘does unpeth y medrwn fod sydd yn ein gosod y tu allan i gylch arglwyddiaeth gariadlawn Duw. Coflaid o gariad yw Duw cariad yw (1 Ioan 4:16) Crëir y torch o ddail bytholwyrdd. Nid oes gwywo ar gariad Duw:
Duw y cariad nad yw oeri
ydyw,
Tad y gras nad yw’r lleihau...
(George Rees, 1873-1950; CFf.:586)
Ac wedyn y canhwyllau, un i bob Sul: Gobaith, Cariad; Llawenydd a Heddwch. Yng nghanol y pedwar, yr un gannwyll sydd yn cynnal a chadw’r gweddill: golau Iesu, y baban glân, yr oen difai. Heddiw, meddai Rhiannon, cyneuir cannwyll Gobaith. Beth yw Gobaith? Golau - tamaid bychan bach o olau ym mhendraw’r twnnel. Anelu ato sydd raid. Wrth anelu ato, cam, wrth betrus gam, daw’r golau’n gryfach, a’r daith tuag ato’n haws. Nodweddir ein cyfnod ag anobaith: ffoaduriaid, mewn gobaith, yn ffoi rhag anobaith. Rhown groeso iddynt, rhag iddynt obeithio’n ofer. Mae rhyfel a sôn am ryfel; casineb yn magu dial, a dial yn ei dro yn creu mwy o gasineb. A ellid lladd casineb â bom? Gweddïwn dros arweinwyr y cenhedloedd - ar i Dduw ei donio â delfrydau, dychymyg a doethineb, fel helaether terfynau cymod. Gall fflam ein ffydd losgi’n isel ar adegau, ond ni ellir ei ddiffodd. Yng nghanol diflastod bywyd a byw mae pobl ar waith yn cynnal a lledu gobaith.
Beth yw Gobaith? Y gwybod -
o dan y bai - fod da’n bod.
Cydiwn yn epigram T. Llew Jones (1915-2009): ei gredu a’i fyw. Er mor eiddil y fflam ni all holl dywyllwch byd ei ddiffodd. Cynhaliwn fflam ein gobaith, nid wrth ei warchod, ond wrth ddefnyddio ein fflam i oleuo canhwyllau'r bobl o’n cwmpas: Llewyrched felly ein goleuni gerbron dynion (Mathew 5:16 WM). Rhywbeth i’w mentro, ei harbrofi, ac yn bennaf oll, ei rannu yw Gobaith - po fwyaf a rhannwn, mwyaf i gyd fydd gennym.
Aelodau ardal yr Eglwys Newydd oedd yn gyfrifol am yr Oedfa Hwyrol. Thema’r Oedfa’n fras oedd Gair y nef yn iaith y llawr: y Beibl. Llyfr arbennig - llyfr Duw; llond silff o lyfrau o fewn un clawr: storïau a hanes, cyfraith a threfn, llythyrau, cân a cherdd, proffwydoliaeth a doethineb oesol gyfoes. Darllenwyd hyfryd eiriau Eseia broffwyd (55: 1-11) a siars anfarwol Paul i Timotheus (2 Timotheus 3:14-17), y naill a’r llall dwywaith. Do, dwywaith: cyfieithiad soniarus William Morgan ac addasiad ffres Beibl.net.
Yn ystod teyrnasiad y frenhines Elisabeth I (1559-1603) basiwyd deddf yn 1563 yn galw am gyfieithiad o'r Beibl i'r Gymraeg. Yn ôl y ddeddf roedd y pedwar Esgob Cymreig, ynghyd ag Esgob Henffordd i baratoi cyfieithiad cyflawn o'r Beibl ym mhen tair blynedd - erbyn dydd Gŵyl Dewi 1566 - neu wynebu ar ddirwy o £40 yr un. Er y weithred seneddol, ni chafwyd cyfieithiad cyflawn o'r Beibl am dros ugain mlynedd wedi hynny; a'r pryd hwnnw, nid gan y pum Esgob, ond gan ficer gwledig o'r enw William Morgan (1545-1604). Penodwyd ef yn Esgob Llandaf yn 1595, ac yn 1601, trosglwyddwyd ef i esgobaeth Llanelwy, ac aeth yntau a'i briod Catherine i fyw i dŷ'r archddiacon, tŷ o'r enw Plas Gwyn ym mhentref Dyserth. Yno y bu farw, Medi 10, 1604 ac yntau'n 59 mlwydd oed. Tua £110 oedd gwerth ei eiddo, swm bach iawn, - ond fe adawodd gyfraniad difesur: Beibl yn y Gymraeg.
Gwenallt (1899-1968) a ganodd amdano (darllenwyd y gerdd yn yr Oedfa heno):
Canmolwn ef am ei ddycnwch,
ei ddewrder a'i santeiddrwydd
Ac am ei gymorth i gadw'r genedl a'i
iaith lenyddol yn fyw,
Gan roddi arni yr urddas ac iddi'r
anrhydedd uchaf,
Wrth ei throi yn un o dafodieithoedd
Datguddiad Duw.
(Gwreiddiau 1959)
Cydnabu Marged pwysigrwydd a gwerth hyn oll yn ei homili, ond mynnai fod addasiad newydd o’r Beibl i’r Gymraeg o’r enw Beibl.net hefyd yn werthfawr a phwysig. Mae cyhoeddi’r fersiwn newydd hwn o’r Beibl yn y Gymraeg yn ddigwyddiad arwyddocaol oherwydd i nifer o bobl, dyma’r fersiwn sydd hawsaf i’w ddarllen. Cafodd ei baratoi ofalus, a’r Gymraeg yn fwriadol sgyrsiol ac anffurfiol. Er mor annwyl cyfieithiad William Morgan, gall Beibl.net helpu pobl i ddarllen Gair Duw o’r newydd. Yn sicr, bydd pobl yn yr eglwysi (a thu faes iddynt) yn cael budd o’i ddarllen. Fel meddai Islwyn Ffowc Ellis (1924-2004) yn ei ragair yntau i’w drosiad o Efengyl Mathew i Gymraeg diweddar (Lyfrfa’r Methodistiaid Calfinaidd; 1961): Mae’n Beibl Cymraeg ni yn mynd yn ôl i’r flwyddyn 1620...Nid oes neb heddiw yn siarad Cymraeg 1620, na neb yn ei sgrifennu chwaith. Ac eto, mae’n rhaid i Gymro a Chymraes ddarllen y llyfr pwysicaf i’w bywyd yng Nghymraeg tair canrif a hanner yn ôl, neu’i ddarllen yn Saesneg, neu beidio â’i ddarllen o gwbwl. Ac ysywaeth, fe wyddom mai dyna sy’n digwydd. Mae Beibl.net yn ymateb i’r angen cyfredol am addasiad sydd yn defnyddio Cymraeg mwy neu lai llafar.
Pwysig a gwerthfawr y neges a gawsom gan Marged: er bod y cyfieithiadau ac addasiadau - y geiriau - yn amrywio, diben pob addasu a chyfieithu yw amlygu gwir ddisgleirdeb Air disglair Duw. (Graham Kendrick. cyf. Casi Jones CFf.:228)
Ynghlwm â chyhoeddi Beibl.net mae ymgyrch o’r enw ‘Beibl Byw’, ac fe ddarperir awgrymiadau sut i ymwneud â’r ymgyrch i gael pobl i ddarllen y Beibl gan Undeb Annibynwyr Cymru maes o law.
Yn llyfr Eseia 55:10-11, dywedir: Ond fel y glaw a’r eira sy’n disgyn o’r awyr a ddim yn mynd yn ôl nes dyfrio’r ddaear gan wneud i blanhigion dyfu a rhoi hadau i’w hau a bwyd i’w fwyta, felly mae’r neges dw i’n ei chyhoeddi: dydy hi ddim yn dod yn ôl heb wneud ei gwaith - mae’n gwneud beth dw i eisiau, ac yn llwyddo i gyflawni ei phwrpas. (beibl.net)
Gweddïwn fendith Duw arnom a phobl Dduw ymhob man wrth iddynt gyhoeddi ei Air.
Air disglair Duw,
dyro d’olau i Gymru heddiw...
Bydd y Gweinidog yn ôl yn ein plith y Sul-pen-mis. Oedfa i’r Teulu bore Sul am 10:30. Y rhif '4' fydd echel yr oedfa a thema adnodau’r oedolion fydd: Y NEWYDDION DA. Liw nos: Oedfa Gymundeb, a dechrau ar gyfres yr Adfent. Gosodir pob cyfres gyfredol o bregethau o’r neilltu am y tro gan ganolbwyntio’n hytrach, fesul oedfa, ar ddarnau gwahanol o gelfyddyd. Nos Sul nesaf, y proffwyd Eseia, nenfwd Capel Sixtus, 1477-83 gan Michelangelo Buonarroti (1475-1564); a The Last Judgment, 1912 gan Wassily Kandinsky (1866-1944) fydd testun ein sylw. (Bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi’r ddwy Oedfa).
DATGANIAD I'R WASG GAN UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMRAEG
Yn ei neges Sul yr Adfent, mae un o arweinwyr Cristnogol Cymru wedi galw ar Aelodau Seneddol i wrthod y cynnig yn Nhŷ’r Cyffredin i fomio Syria. "Heddiw, wrth i ni edrych tuag at y Nadolig a genedigaeth Tywysog Tangnefedd, rwyf yn apelio at wleidyddion i bleidleisio yn erbyn y bomio," meddai'r Parchedig Ddr R. Alun Evans, Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. "Byddai gweithredu dialgar o'r fath yn siŵr o arwain at fwy o drais a marwolaethau anochel nifer di-ri o bobl ddiniwed. Byddai bomio’n datrys dim byd, ond byddai ISIL yn pesgi arno," meddai Dr Evans. "Rydym yn dal i dalu'r pris am yr ymosodiadau ffôl ar Irac a Libya, a greodd y gwagle pŵer sy’n cael ei lenwi gan ISIL . Pryd y dysgwn ni’r wers?"
'ANGEL AG ADNOD' ADFENT I'R TEULU (1)
Chwiliwch heddiw am yr angel hwn a'r adnod hon.
ADFENT 2015
Yn sydyn ymddangosodd gyda’r angel dyrfa o’r llu nefol, yn moli Duw gan ddweud:
"Gogoniant yn y goruchaf i Dduw,
ac ar y ddaear tangnefedd ymhlith
dynion sydd wrth ei fodd."
(Luc 2:13,14)
Angylion - y llu nefol - fydd yn ein tywys ar hyd llwybr yr Adfent eleni. Pan gyflwynir drama’r Geni, gorau po fwyaf o angylion a fydd yn y set fawr! A gorau i gyd os bydd digon o adenydd ar gael, a digon o le i’r angylion eu lledu.
Daw angylion i mewn i hanes geni Iesu ein harglwydd, yn hollol naturiol, a dywedant ddau beth wrthym am Dduw - ei fod yn agos, agos atom ond ei fod hefyd gyfan gwbl, gwbl gyfan ar wahân i ni! Rhaid inni ddal y naill wirionedd a'r llall mewn tensiwn deinamig. Daeth yr angel, ac wedyn y dyrfa o’r llu nefol at y bugeiliaid a rhoi neges iddynt am waredwr, Meseia, Arglwydd, a’u hannog at y preseb: Daeth Duw mor agos â hynny atom, ond...y ‘roedd y gân a glywsant am seinio clod a gogoniant Duw yn y goruchaf ac ar y ddaear tangnefedd. Ni ellid gwahanu’r ddeubeth, na thorri’r anthem yn ddwy. Oni bydd tangnefedd ar y ddaear nis adlewyrchir y gogoniant sydd fry. Ni cheir tangnefedd ar y ddaear nes inni gydnabod gogoniant Duw. Mae’r cyswllt yn anorfod, ac yn annatod.
UWD
Ar y cyfan nid hoff gennyf y gaeaf. Mae’r gaeaf yn llawer rhy dywyll, oer a gwlyb i mi, ond... fe berthyn i’r gaeaf un o’m hoff bethau: uwd. Tardd y cyfan, mae’n siŵr gen i, o aeafau fy mhlentyndod: Ready Brec â gormod o siwgr, bob bore; a phob bore bron iawn fy nhad yn twt-twtian y fath uwd esgus, gan sôn am rinweddau uwd go iawn: ei uwd yntau - a dim ond dad oedd yn medru bwyta’r stwff soeglyd, lwmpiog! Bu yna gyfnod, meddai mam, pan wrthodais fwyta Ready Brec rhagor, gan fy mod i’n ystyried fy hun yn aeddfed ddigon bellach i fwyta uwd dad...pan euthum yn ŵr, mi a rois heibio bethau bachgennaidd (1 Corinthiaid 13:11b). Ildiodd fy nhad, a thrannoeth, o’m mlaen i ‘roedd llond powlen o uwd go iawn. Gyda’r llwyaid gyntaf, daeth fy nghamgymeriad yn amlwg i mi a phawb. ‘Roedd dad yn hoffi halen yn ei uwd. Yn rhyfedd iawn, erbyn hyn, fi sydd yn twt-twtian uwd esgus y plant wrth fwynhau uwd go iawn gyda mwy halen nad sydd yn dda i mi. Mi gredaf fod y ffaith ein bod ymdebygu i’n rhieni yn brawf fod gan y Bod Mawr sense of humour!
Digwyddodd rywbeth dechrau’r wythnos. Dydd Mawrth oedd hi. Yng nghanol anhrefn hyfryd amser brecwast, braf oedd cael eistedd wrth y bwrdd a gweld gwraig a phlant o’r diwedd yn llonydd ac yn bwyta'n dawel. ‘Roedd gen i gwpaned o foddion-goffi-cryf, a llond powlen o uwd. Gyda’r llwyaid gyntaf, daeth fy nghamgymeriad y bore hwnnw’n amlwg. Dim halen. Mi es i ôl yr halen, ac allan o barch i’r doctor taenu ychydig bach ohono ar yr uwd - a chan fod yfory bob amser yn ddiwrnod da i ddechrau torri lawr ar bethau - taenu ychydig bach rhagor o halen, a’i gymysgu i’r uwd. Wn i ddim pam, rhaid bod rheswm gwyddonol, ond nid yw ychwanegu halen i’r uwd ar ôl ei baratoi yn creu cystal blas a halen yn gymysg â’r uwd wrth ei baratoi.
Mae yna gysylltiad pwysig rhwng uwd a’r Adfent.
Nid yw ffydd yn gweithio, ni all weithio o gwbl, os mai rhywbeth yr ychwanegwn at fywyd ydyw. Os yw ffydd i weithio, mae’n rhaid iddo fod yn rhan annatod o’r hyn oll ydym, yr hyn oll a wnawn. Mae taenu halen ffydd dros wyneb ein bywyd yn ychwanegu ychydig o flas, Da hynny wrth gwrs, ond mil gwaith gwell y blas o gymysgu halen ffydd i’n bywyd, i’w sylwedd a’i berfedd. Mae’r Adfent, yn union fel y Grawys, yn ein hatgoffa mai annigonol yw taenu ychydig o Dduw dros wyneb pob peth arall sydd yn bwysig i ni. Nid ychwanegiad i’n byw, nid atodiad i’n bywyd mo Duw: ein byw a’n bywyd ydyw: Oherwydd ynddo ef yr ydym yn byw ac yn symud ac yn bod (Actau 17:28). Amod cael gorau Duw yng Nghrist yw cymysgu ei gariad i gymysgedd ein bywyd. Yr unig fyw a ddymuna Iesu o hyd yw byw ynom ni. Nid digon Crist yn haenen dros bopeth arall, rhaid cael Crist yn a thrwy bob peth ein bywyd: y gwaith a’r gweddi, y llonyddwch a’r llafur, yr ymdawelu a’r ymdrechu.
‘Roedd Christina ac Ann wedi deall hyn. Gofyn Christina Rosetti (1830-94):
Beth a roddaf iddo,
llwm a thlawd fy myd?
ac yn ateb...
Fy mywyd oll.
(CFf.:466 cyf. Simon B. Jones, 1894-1964)
Dyma ddyhead Ann Griffiths - yr Adfent mewn cwpled:
O! am fywyd o sancteiddio
sanctaidd enw pur fy Nuw...
(Ann Griffiths, 1776-1805)
(OLlE)
