Yn ei neges Sul yr Adfent, mae un o arweinwyr Cristnogol Cymru wedi galw ar Aelodau Seneddol i wrthod y cynnig yn Nhŷ’r Cyffredin i fomio Syria. "Heddiw, wrth i ni edrych tuag at y Nadolig a genedigaeth Tywysog Tangnefedd, rwyf yn apelio at wleidyddion i bleidleisio yn erbyn y bomio," meddai'r Parchedig Ddr R. Alun Evans, Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. "Byddai gweithredu dialgar o'r fath yn siŵr o arwain at fwy o drais a marwolaethau anochel nifer di-ri o bobl ddiniwed. Byddai bomio’n datrys dim byd, ond byddai ISIL yn pesgi arno," meddai Dr Evans. "Rydym yn dal i dalu'r pris am yr ymosodiadau ffôl ar Irac a Libya, a greodd y gwagle pŵer sy’n cael ei lenwi gan ISIL . Pryd y dysgwn ni’r wers?"