NEWYDDION Y SUL

God’s Frozen People: llyfr, ac iddo ddau awdur, T. Ralph Morton a Mark Gibbs (Fontana 1964). Mae teitl y llyfr yn awgrymog. Aeth God’s Chosen People yn God’s Frozen People. Eglwys mewn cold storage yw Eglwys Iesu Grist ers blynyddoedd lawer; wedi ei dewis gan Dduw i achub y byd, ond yn analluog i gyflawni ei phriod genhadaeth am ei bod hi wedi ei fferru. Hanfod dadl yr awduron yw bod yn rhaid adfer y ‘lleygwr’ i’w briod le yng nghanol bywyd yr eglwys. Dyrchafwyd yr offeiriad a’r gweinidog yn ein heglwysi gan ddiraddio’r lleygwr. Yn y Testament Newydd ei hun y darganfyddai awduron God’s Frozen People pwy yw’r lleygwyr mewn gwirionedd, yn nysgeidiaeth y Testament Newydd am natur Eglwys. Nid yr adeilad ar gornel stryd yw’r eglwys yno, ac yn sicr nid enwad mohono, ond holl bobl Dduw. Yr eglwys leol yn y Testament Newydd yw pobl Dduw yn ymgynnull yn nhŷ hwn-a-hwn, ond yr Eglwys yw holl bobl Dduw drwy’r Ymerodraeth Rufeinig mewn cymdeithas â’i gilydd. Hwynt-hwy yw’r loas - a’r gair hwn a roes inni’r geiriau Cymraeg ‘lleygwyr’ a ‘lleyg. Y mae’r awduron yn dyfynnu geiriau Hans-Ruedi Weber yn ei lyfryn Salty Christians (1993; Seabury): Too often the clergy undertake to fulfil by themselves the ministry of the church. And too often the laity delegate their ministry to one man - the clergyman. This ‘one man show’ is deeply unbiblical. Beth yw hyn? Nid Newyddion y Sul mo hyn, ond darlith, neu adolygiad o hen hen lyfr! Na, Newyddion y Sul ydyw. Ym mis Mai 2013, cyhoeddwyd Adroddiad o Drafodaethau ac Argymhellion Gweithgor Gweinidogaeth Eglwys Minny Street. Y cyntaf o bum flaenoriaeth a nodwyd i waith a chenhadaeth yr eglwys hon oedd 'Addoliad': Wrth ymfalchïo yn arddull, naws ac ehangder ein haddoliad, teimlai’r Gweithgor bod yna gyfleoedd i gynyddu ymwneud aelodau yn ein hoedfaon. Hyn, nid yn unig er mwyn datblygu "gweinidogaeth yr holl saint", ond hefyd, fel modd i feithrin cynulleidfa a fydd, gobeithio, yn fwy parod i ymgymryd â threfnu ac arwain oedfaon pan fydd, efallai, mwy o alw (e.e. cyfnod di-weinidog). Cytunwyd bod angen meithrin, ymysg ein haelodau, barodrwydd i gynnig gwasanaeth yn hytrach na disgwyl i rywun ofyn. Gwelwyd hefyd gyfleoedd trwy’r fath ymwneud i ennyn ymdeimlad o gyd-weithio ymysg grwpiau o aelodau’r gynulleidfa.

Bellach, mae pob pumed Sul yn y mis yn gyfle i aelodau’r eglwys i drefnu a chynnal yr addoliad. Buddiol a bendithiol yw hyn. Aelodau Pwyllgor Cymdeithas Ddiwylliannol eglwys Minny Street fu’n gyfrifol am yr Oedfa Foreol. Dyfal bu’r paratoi, a dygn y trefnu i sicrhau fod gan bawb - o’r ieuengaf i’r hynaf - ei le, cyfle a chyfraniad: darlleniadau a gweddïau, unawd cerdd dant, parti plant yn canu ‘Gŵyl y Baban’ a llunio torch Adfent. Pawb a’i waith, a gwaith i bawb wrth gynnal gwasanaeth ac offrymu mawl ac addoliad. Rhiannon fu’n cyflwyno homili, a chawsom ganddi neges braff a phwrpasol.

Echel sylwadau Rhiannon oedd y torch Adfent. I ddechrau, cydiodd yn symbolaeth y dorch. Mae’r dorch yn grwn, ac mae cariad Duw yn grwn - yn cydio ym mhawb a phopeth. ‘Does unlle y medrwn fynd, ‘does undim y medrwn ei wneud, ‘does unpeth y medrwn fod sydd yn ein gosod y tu allan i gylch arglwyddiaeth gariadlawn Duw. Coflaid o gariad yw Duw cariad yw (1 Ioan 4:16) Crëir y torch o ddail bytholwyrdd. Nid oes gwywo ar gariad Duw:

Duw y cariad nad yw oeri

ydyw,

Tad y gras nad yw’r lleihau...

(George Rees, 1873-1950; CFf.:586)

Ac wedyn y canhwyllau, un i bob Sul: Gobaith, Cariad; Llawenydd a Heddwch. Yng nghanol y pedwar, yr un gannwyll sydd yn cynnal a chadw’r gweddill: golau Iesu, y baban glân, yr oen difai. Heddiw, meddai Rhiannon, cyneuir cannwyll Gobaith. Beth yw Gobaith? Golau - tamaid bychan bach o olau ym mhendraw’r twnnel. Anelu ato sydd raid. Wrth anelu ato, cam, wrth betrus gam, daw’r golau’n gryfach, a’r daith tuag ato’n haws. Nodweddir ein cyfnod ag anobaith: ffoaduriaid, mewn gobaith, yn ffoi rhag anobaith. Rhown groeso iddynt, rhag iddynt obeithio’n ofer. Mae rhyfel a sôn am ryfel; casineb yn magu dial, a dial yn ei dro yn creu mwy o gasineb. A ellid lladd casineb â bom? Gweddïwn dros arweinwyr y cenhedloedd - ar i Dduw ei donio â delfrydau, dychymyg a doethineb, fel helaether terfynau cymod. Gall fflam ein ffydd losgi’n isel ar adegau, ond ni ellir ei ddiffodd. Yng nghanol diflastod bywyd a byw mae pobl ar waith yn cynnal a lledu gobaith.

Beth yw Gobaith? Y gwybod -

o dan y bai - fod da’n bod.

Cydiwn yn epigram T. Llew Jones (1915-2009): ei gredu a’i fyw. Er mor eiddil y fflam ni all holl dywyllwch byd ei ddiffodd. Cynhaliwn fflam ein gobaith, nid wrth ei warchod, ond wrth ddefnyddio ein fflam i oleuo canhwyllau'r bobl o’n cwmpas: Llewyrched felly ein goleuni gerbron dynion (Mathew 5:16 WM). Rhywbeth i’w mentro, ei harbrofi, ac yn bennaf oll, ei rannu yw Gobaith - po fwyaf a rhannwn, mwyaf i gyd fydd gennym.

Aelodau ardal yr Eglwys Newydd oedd yn gyfrifol am yr Oedfa Hwyrol. Thema’r Oedfa’n fras oedd Gair y nef yn iaith y llawr: y Beibl. Llyfr arbennig - llyfr Duw; llond silff o lyfrau o fewn un clawr: storïau a hanes, cyfraith a threfn, llythyrau, cân a cherdd, proffwydoliaeth a doethineb oesol gyfoes. Darllenwyd hyfryd eiriau Eseia broffwyd (55: 1-11) a siars anfarwol Paul i Timotheus (2 Timotheus 3:14-17), y naill a’r llall dwywaith. Do, dwywaith: cyfieithiad soniarus William Morgan ac addasiad ffres Beibl.net.

Yn ystod teyrnasiad y frenhines Elisabeth I (1559-1603) basiwyd deddf yn 1563 yn galw am gyfieithiad o'r Beibl i'r Gymraeg. Yn ôl y ddeddf roedd y pedwar Esgob Cymreig, ynghyd ag Esgob Henffordd i baratoi cyfieithiad cyflawn o'r Beibl ym mhen tair blynedd - erbyn dydd Gŵyl Dewi 1566 - neu wynebu ar ddirwy o £40 yr un. Er y weithred seneddol, ni chafwyd cyfieithiad cyflawn o'r Beibl am dros ugain mlynedd wedi hynny; a'r pryd hwnnw, nid gan y pum Esgob, ond gan ficer gwledig o'r enw William Morgan (1545-1604). Penodwyd ef yn Esgob Llandaf yn 1595, ac yn 1601, trosglwyddwyd ef i esgobaeth Llanelwy, ac aeth yntau a'i briod Catherine i fyw i dŷ'r archddiacon, tŷ o'r enw Plas Gwyn ym mhentref Dyserth. Yno y bu farw, Medi 10, 1604 ac yntau'n 59 mlwydd oed. Tua £110 oedd gwerth ei eiddo, swm bach iawn, - ond fe adawodd gyfraniad difesur: Beibl yn y Gymraeg.

Gwenallt (1899-1968) a ganodd amdano (darllenwyd y gerdd yn yr Oedfa heno):

Canmolwn ef am ei ddycnwch,

ei ddewrder a'i santeiddrwydd

Ac am ei gymorth i gadw'r genedl a'i

iaith lenyddol yn fyw,

Gan roddi arni yr urddas ac iddi'r

anrhydedd uchaf,

Wrth ei throi yn un o dafodieithoedd

Datguddiad Duw.

(Gwreiddiau 1959)

Cydnabu Marged pwysigrwydd a gwerth hyn oll yn ei homili, ond mynnai fod addasiad newydd o’r Beibl i’r Gymraeg o’r enw Beibl.net hefyd yn werthfawr a phwysig. Mae cyhoeddi’r fersiwn newydd hwn o’r Beibl yn y Gymraeg yn ddigwyddiad arwyddocaol oherwydd i nifer o bobl, dyma’r fersiwn sydd hawsaf i’w ddarllen. Cafodd ei baratoi ofalus, a’r Gymraeg yn fwriadol sgyrsiol ac anffurfiol. Er mor annwyl cyfieithiad William Morgan, gall Beibl.net helpu pobl i ddarllen Gair Duw o’r newydd. Yn sicr, bydd pobl yn yr eglwysi (a thu faes iddynt) yn cael budd o’i ddarllen. Fel meddai Islwyn Ffowc Ellis (1924-2004) yn ei ragair yntau i’w drosiad o Efengyl Mathew i Gymraeg diweddar (Lyfrfa’r Methodistiaid Calfinaidd; 1961): Mae’n Beibl Cymraeg ni yn mynd yn ôl i’r flwyddyn 1620...Nid oes neb heddiw yn siarad Cymraeg 1620, na neb yn ei sgrifennu chwaith. Ac eto, mae’n rhaid i Gymro a Chymraes ddarllen y llyfr pwysicaf i’w bywyd yng Nghymraeg tair canrif a hanner yn ôl, neu’i ddarllen yn Saesneg, neu beidio â’i ddarllen o gwbwl. Ac ysywaeth, fe wyddom mai dyna sy’n digwydd. Mae Beibl.net yn ymateb i’r angen cyfredol am addasiad sydd yn defnyddio Cymraeg mwy neu lai llafar.

Pwysig a gwerthfawr y neges a gawsom gan Marged: er bod y cyfieithiadau ac addasiadau - y geiriau - yn amrywio, diben pob addasu a chyfieithu yw amlygu gwir ddisgleirdeb Air disglair Duw. (Graham Kendrick. cyf. Casi Jones CFf.:228)

Ynghlwm â chyhoeddi Beibl.net mae ymgyrch o’r enw ‘Beibl Byw’, ac fe ddarperir awgrymiadau sut i ymwneud â’r ymgyrch i gael pobl i ddarllen y Beibl gan Undeb Annibynwyr Cymru maes o law.

Yn llyfr Eseia 55:10-11, dywedir: Ond fel y glaw a’r eira sy’n disgyn o’r awyr a ddim yn mynd yn ôl nes dyfrio’r ddaear gan wneud i blanhigion dyfu a rhoi hadau i’w hau a bwyd i’w fwyta, felly mae’r neges dw i’n ei chyhoeddi: dydy hi ddim yn dod yn ôl heb wneud ei gwaith - mae’n gwneud beth dw i eisiau, ac yn llwyddo i gyflawni ei phwrpas. (beibl.net)

Gweddïwn fendith Duw arnom a phobl Dduw ymhob man wrth iddynt gyhoeddi ei Air.

Air disglair Duw,

dyro d’olau i Gymru heddiw...

Bydd y Gweinidog yn ôl yn ein plith y Sul-pen-mis. Oedfa i’r Teulu bore Sul am 10:30. Y rhif '4' fydd echel yr oedfa a thema adnodau’r oedolion fydd: Y NEWYDDION DA. Liw nos: Oedfa Gymundeb, a dechrau ar gyfres yr Adfent. Gosodir pob cyfres gyfredol o bregethau o’r neilltu am y tro gan ganolbwyntio’n hytrach, fesul oedfa, ar ddarnau gwahanol o gelfyddyd. Nos Sul nesaf, y proffwyd Eseia, nenfwd Capel Sixtus, 1477-83 gan Michelangelo Buonarroti (1475-1564); a The Last Judgment, 1912 gan Wassily Kandinsky (1866-1944) fydd testun ein sylw. (Bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi’r ddwy Oedfa).