• Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu
Menu

Eglwys Minny St.

Street Address
City, State, Zip
Phone Number

Your Custom Text Here

Eglwys Minny St.

  • Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu

GŴYL SANT ANDREAS

November 30, 2015 Owain Evans
Sant Andreas (1610-14) gan El Greco (1541-1614)

Sant Andreas (1610-14) gan El Greco (1541-1614)

Andreas...

Nawddsant yr Alban ers canol yr 8fed ganrif; y cyntaf o’r apostolion i gael ei gofio ym mlwyddyn yr Eglwys. Andreas oedd y disgybl cyntaf, a’r cenhadwr cyntaf. Yn ôl Ioan, bu’n ddisgybl i Ioan Fedyddiwr cyn dewis dilyn Iesu (Ioan 1:35-42). Y peth cyntaf a wnaeth yn sgil dewis dilyn Iesu oedd annog ei frawd, Simon Pedr i ddod at y Crist (1:41), ond gwnaeth fwy na dim ond annog, sylwch: daeth ag ef (Pedr) at Iesu. Gwelir cyfuniad o’r gair a’r weithred yn Andreas: cenhadwr. Er waethaf bob tueddiad i ddrysu ac ymddrysu am ystyr y geiriau: cenhadu, cenhadon, cenhadaeth, ystyr syml sydd iddynt: arwain eraill at Iesu. Hynny, yn syml yw cenhadu: arwain pobl, mewn gair a gweithred, at Iesu - hynny, dim ond hynny yw cenhadaeth y cenhadon. Y cenhadu hwn yw anadl-einioes y wir eglwys. Ein cenhadaeth, os caf aralleirio gweddi Sant Rhisiart o Chichester (c.1197-1253) yw galluogi eraill, ynom a thrwom, i weld Duw yn eglurach, ei garu’n anwylach, a’i ddilyn yn dynnach o ddydd i ddydd. (CFf.:988). Cenhadaeth pob Cristion yw cyflwyno Crist i bobl, a phobl i Grist, ac wrth wneud hynny fe ddown ein hunain i’w ddilyn Ef yn dynnach, ei garu’n anwylach a’i weld yn eglurach. Dyma baradocs oesol y ffydd: wrth ei rannu, ehanga. Wrth ei gadw, crebacha. Dyma, mi gredaf, yw neges a her Andreas Sant.

Cymer, Arglwydd, f’einioes i i’w chysegru oll i ti. Amen

(F.R.Havergall 1836-79; cyf. John Morris-Jones, 1864-1929. CFf.:767)

(OLlE)

← 'ANGEL AG ADNOD' ADFENT I'R TEULU (2) NEWYDDION Y SUL →

Eglwys Annibynnol Minny St.
Y Waun Ddyfal, Caerdydd
CF24 4ER

Lawrlwytho
Dogfennau

©minny St 2021