Yn sydyn ymddangosodd gyda’r angel dyrfa o’r llu nefol, yn moli Duw gan ddweud:
"Gogoniant yn y goruchaf i Dduw,
ac ar y ddaear tangnefedd ymhlith
dynion sydd wrth ei fodd."
(Luc 2:13,14)
Angylion - y llu nefol - fydd yn ein tywys ar hyd llwybr yr Adfent eleni. Pan gyflwynir drama’r Geni, gorau po fwyaf o angylion a fydd yn y set fawr! A gorau i gyd os bydd digon o adenydd ar gael, a digon o le i’r angylion eu lledu.
Daw angylion i mewn i hanes geni Iesu ein harglwydd, yn hollol naturiol, a dywedant ddau beth wrthym am Dduw - ei fod yn agos, agos atom ond ei fod hefyd gyfan gwbl, gwbl gyfan ar wahân i ni! Rhaid inni ddal y naill wirionedd a'r llall mewn tensiwn deinamig. Daeth yr angel, ac wedyn y dyrfa o’r llu nefol at y bugeiliaid a rhoi neges iddynt am waredwr, Meseia, Arglwydd, a’u hannog at y preseb: Daeth Duw mor agos â hynny atom, ond...y ‘roedd y gân a glywsant am seinio clod a gogoniant Duw yn y goruchaf ac ar y ddaear tangnefedd. Ni ellid gwahanu’r ddeubeth, na thorri’r anthem yn ddwy. Oni bydd tangnefedd ar y ddaear nis adlewyrchir y gogoniant sydd fry. Ni cheir tangnefedd ar y ddaear nes inni gydnabod gogoniant Duw. Mae’r cyswllt yn anorfod, ac yn annatod.