Ar y cyfan nid hoff gennyf y gaeaf. Mae’r gaeaf yn llawer rhy dywyll, oer a gwlyb i mi, ond... fe berthyn i’r gaeaf un o’m hoff bethau: uwd. Tardd y cyfan, mae’n siŵr gen i, o aeafau fy mhlentyndod: Ready Brec â gormod o siwgr, bob bore; a phob bore bron iawn fy nhad yn twt-twtian y fath uwd esgus, gan sôn am rinweddau uwd go iawn: ei uwd yntau - a dim ond dad oedd yn medru bwyta’r stwff soeglyd, lwmpiog! Bu yna gyfnod, meddai mam, pan wrthodais fwyta Ready Brec rhagor, gan fy mod i’n ystyried fy hun yn aeddfed ddigon bellach i fwyta uwd dad...pan euthum yn ŵr, mi a rois heibio bethau bachgennaidd (1 Corinthiaid 13:11b). Ildiodd fy nhad, a thrannoeth, o’m mlaen i ‘roedd llond powlen o uwd go iawn. Gyda’r llwyaid gyntaf, daeth fy nghamgymeriad yn amlwg i mi a phawb. ‘Roedd dad yn hoffi halen yn ei uwd. Yn rhyfedd iawn, erbyn hyn, fi sydd yn twt-twtian uwd esgus y plant wrth fwynhau uwd go iawn gyda mwy halen nad sydd yn dda i mi. Mi gredaf fod y ffaith ein bod ymdebygu i’n rhieni yn brawf fod gan y Bod Mawr sense of humour!
Digwyddodd rywbeth dechrau’r wythnos. Dydd Mawrth oedd hi. Yng nghanol anhrefn hyfryd amser brecwast, braf oedd cael eistedd wrth y bwrdd a gweld gwraig a phlant o’r diwedd yn llonydd ac yn bwyta'n dawel. ‘Roedd gen i gwpaned o foddion-goffi-cryf, a llond powlen o uwd. Gyda’r llwyaid gyntaf, daeth fy nghamgymeriad y bore hwnnw’n amlwg. Dim halen. Mi es i ôl yr halen, ac allan o barch i’r doctor taenu ychydig bach ohono ar yr uwd - a chan fod yfory bob amser yn ddiwrnod da i ddechrau torri lawr ar bethau - taenu ychydig bach rhagor o halen, a’i gymysgu i’r uwd. Wn i ddim pam, rhaid bod rheswm gwyddonol, ond nid yw ychwanegu halen i’r uwd ar ôl ei baratoi yn creu cystal blas a halen yn gymysg â’r uwd wrth ei baratoi.
Mae yna gysylltiad pwysig rhwng uwd a’r Adfent.
Nid yw ffydd yn gweithio, ni all weithio o gwbl, os mai rhywbeth yr ychwanegwn at fywyd ydyw. Os yw ffydd i weithio, mae’n rhaid iddo fod yn rhan annatod o’r hyn oll ydym, yr hyn oll a wnawn. Mae taenu halen ffydd dros wyneb ein bywyd yn ychwanegu ychydig o flas, Da hynny wrth gwrs, ond mil gwaith gwell y blas o gymysgu halen ffydd i’n bywyd, i’w sylwedd a’i berfedd. Mae’r Adfent, yn union fel y Grawys, yn ein hatgoffa mai annigonol yw taenu ychydig o Dduw dros wyneb pob peth arall sydd yn bwysig i ni. Nid ychwanegiad i’n byw, nid atodiad i’n bywyd mo Duw: ein byw a’n bywyd ydyw: Oherwydd ynddo ef yr ydym yn byw ac yn symud ac yn bod (Actau 17:28). Amod cael gorau Duw yng Nghrist yw cymysgu ei gariad i gymysgedd ein bywyd. Yr unig fyw a ddymuna Iesu o hyd yw byw ynom ni. Nid digon Crist yn haenen dros bopeth arall, rhaid cael Crist yn a thrwy bob peth ein bywyd: y gwaith a’r gweddi, y llonyddwch a’r llafur, yr ymdawelu a’r ymdrechu.
‘Roedd Christina ac Ann wedi deall hyn. Gofyn Christina Rosetti (1830-94):
Beth a roddaf iddo,
llwm a thlawd fy myd?
ac yn ateb...
Fy mywyd oll.
(CFf.:466 cyf. Simon B. Jones, 1894-1964)
Dyma ddyhead Ann Griffiths - yr Adfent mewn cwpled:
O! am fywyd o sancteiddio
sanctaidd enw pur fy Nuw...
(Ann Griffiths, 1776-1805)
(OLlE)