• Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu
Menu

Eglwys Minny St.

Street Address
City, State, Zip
Phone Number

Your Custom Text Here

Eglwys Minny St.

  • Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu

'YMLAEN' I'R SUL

August 16, 2019 Owain Evans

Bu disgwyl eiddgar am fis Awst.

Hyfryd yw cael y cyfle hwn i gydaddoli a chyd-dystio fel eglwysi Cymraeg y ddinas. Duw a fo’n blaid i ni gyd yn ein gweinidogaeth.

Dros y Sul, yn Minny Street (10:30 a 18:00) ein braint yw cael cwmni'r Parchedig Carwyn Sidall (Llanuwchllyn).

Gweddïwn am wenau Duw ar y Sul arbennig hwn.

'YMLAEN' I'R SUL

August 9, 2019 Owain Evans

Bu disgwyl eiddgar am fis Awst.

Hyfryd yw cael y cyfle hwn i gydaddoli a chyd-dystio fel eglwysi Cymraeg y ddinas. Duw a fo’n blaid i ni gyd yn ein gweinidogaeth. 

Dros y Sul, yn y Tabernacl (Yr Ais. 10:30 a 18:00) ein braint yw cael cwmni'r Parchedig Rob Nicholls (Llundain).

Gweddïwn am wenau Duw ar y Sul arbennig hwn.

YMLAEN I'R SUL

August 2, 2019 Owain Evans

Bu disgwyl eiddgar am fis Awst.

Hyfryd yw cael y cyfle hwn i gydaddoli a chyd-dystio fel eglwysi Cymraeg y ddinas. Duw a fo’n blaid i ni gyd yn ein gweinidogaeth. 

Dros y Sul, yn y Crwys (Heol Richmond. 10:30; 18:00 a Chymundeb) ein braint yw cael cwmni'r Parchedig Evan Morgan (Caerdydd).

Gweddïwn am wenau Duw ar y Sul arbennig hwn.

'YMLAEN' I'R SUL

July 26, 2019 Owain Evans

Dros y Sul, ein braint fel eglwys fydd cael gwrando cenadwri a derbyn arweiniad gan y Parchedigion Hywel Davies, Aberdâr (yr Oedfa Foreol am 10:30) a Robin Wyn Samuel (Swyddog Cynnal ac Adnoddau De Cymru, Undeb yr Annibynwyr) yn yr Oedfa Hwyrol am 18:00. Gwyddom y cawn ganddynt bregethu meddylgar a phregethau buddiol a bendithlawn. Gweddïwn am wenau Duw ar Oedfaon y Sul.

Braint eto, pnawn Sul (14:30), fydd cael bod fel eglwys, yn gyfrifol am baratoi te i’r digartref yn y Tabernacl, yr Âis.

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

July 17, 2019 Owain Evans

Deisyfwn fendith ar Oedfaon y Sul. Bydd ein Hoedfa Foreol (10:30; cynhelir Ysgol Sul.) dan arweiniad Owain: Enoch; ac fe ddaw’r testun o’r bumed bennod o Genesis (ad.22): Rhodiodd Enoch gyda Duw.

‘Roedd Enoch yn dduwiol ei gymeriad. Torrodd blisgyn allanol pethau a gweld Duw ar waith ym mhawb ac ym mhopeth.

‘Roedd Enoch yn ddethol ei gwmni. Dysgodd byw drwy ganfod ystyr i’w fodolaeth yn y byd, trwy feithrin perthynas agos a Duw, ac ymddiried ei hunan i’w arweiniad a’i ymgeledd ef.

‘Roedd Enoch yn ddiogel ei gam. Ymddiriedodd yn Nuw. Nid peth anghyffredin yw inni deimlo digalondid a methiant yn ein bywyd Cristnogol a hynny, yn amlach na pheidio, oherwydd i ni geisio cynnal ein tystiolaeth a’n bywyd ysbrydol gan ddibynnu’n llwyr ar ein hadnoddau a’n nerth ein hunain, ac anghofio addewid Duw o’i gymorth a’i gadernid ef.

Liw nos am 18:00, Stori Joseff! Dyma awdur Genesis ar ei orau! Mae gafael ar y stori hon. Ynddi, ceir popeth sydd angen ar stori dda: nwyd a chwant, cynnwrf mawr a chynllwynio tawel, casineb a chariad, dial a maddeuant.

Un peth sydd ar goll o stori Joseff. Un peth sydd i ti a minnau’n holl bwysig - Duw. Dysgodd Joseff - bu’n rhaid iddo mewn gwirionedd - y grefft o glustfeinio am lais Duw. Dysgodd grefft y buasai’n dda i ni ddysgu ganddo.

Dysgodd Joseff wrando ar fywyd, ei fywyd ei hun, bywyd eraill; fe ddysgodd wrando ar yr holl bethau a ddigwyddodd iddo, o’i gwmpas, ac o’i herwydd. Wrth wrando, fe glywodd Duw yn siarad, yn cyfarwyddo, cynnal, cadw. Ymhen amser, daeth Joseff i fedru clywed Duw ym mhob peth - da a drwg, ac ym mhawb - da a drwg.

Mae’r adnod hon yn crynhôi stori Joseff, ac yn crynhoi Genesis i gyd: ... yr oeddech chwi yn bwriadu drwg ..., ond trodd Duw y bwriad yn ddaioni. (Genesis 50: 19-21). Mae’n adnod syfrdanol o fawr - yn ddatganiad enfawr am ragluniaeth - rhagluniaeth fawr y nef.

Mae Duw wedi ymroi i weithio gyda ni a thrwom ni - a dyna, am wn i, beth yw rhagluniaeth fawr y nef. Mae rhagluniaeth fawr y nef yn debyg iawn i ddawns - dawns hyfryd, hudolus rhwng rhyddid Duw â’n rhyddid ninnau.

Bydd cyfle i gyfrannu nwyddau tuag at Oasis yn ystod y dydd.

Boed bendith.

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

July 10, 2019 Owain Evans

Edrychwn ymlaen at y Sul nesaf; Sul llawn, ac amrywiol ei fendithion. Bore Sul am 10:30 ein braint fydd cael ymuno yn Oedfa Eglwysi Cyfundeb Dwyrain Morgannwg ym Mynydd Seion, Casnewydd (NP20 1LZ): Y mae’r gair yn agos iawn atom. (Deuteronomium 30:14). Boed bendith.

Bydd ein Hoedfa Hwyrol (18:00) dan arweiniad ein Gweinidog: pregeth olaf y gyfres ‘Newyddion Da'r Pregethwr’. Bydd Owain yn ein harwain i ystyried pwysigrwydd peidio codi temlau dan yr haul. Am wybod rhagor? Dewch â chroeso mawr. (Bydd cyfle i gyfrannu nwyddau tuag at Fanc Bwyd Caerdydd.)

Babimini bore Gwener (19/7; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

July 5, 2019 Owain Evans

Deisyfwn fendith ar Oedfaon y Sul. Bydd ein Hoedfa Foreol (10:30; cynhelir Ysgol Sul.) dan arweiniad Owain: ‘Newyddion Da'r Pregethwr’. Mae’r Pregethwr yn ceisio amlygu’r gwahaniaeth rhwng beth sydd yn para byth, a beth sydd byth yn para. Ar sail hynny, awgryma Owain heddiw fod Iesu a’r Pregethwr yn gofyn, mewn ffyrdd gwahanol, yr un cwestiwn: ai byw ydym neu fodoli?

Mae’r Pregethwr yn credu (Pregethwr 3:11) fod Duw wedi gosod tragwyddoldeb yng nghalon pob un ohonom. Dod a bod yn ymwybodol o hyn sydd yn codi ein golygon yn uwch a thu hwnt i dan yr haul. Heb gydnabod fod tragwyddoldeb ynom, bodoli a wnawn, a’r fodolaeth honno megis ddim; Hefel, dim ond anadl.

Hanfod bwriad Iesu ar ein cyfer yw byw’n gyflawn, byw’n helaeth - ymhyfrydu mewn bod; gwneud llwyr ddefnydd o’r ymwybyddiaeth o Dduw ynom ac estyn Duw i bawb yn ddiwahân - byw’n gyflawn, byw’n helaeth yn Nuw. Yr wyf fi wedi dod er mwyn i bobl gael bywyd, a’i gael yn ei holl gyflawnder (Ioan 10:10). Am wybod rhagor? Dewch â chroeso mawr.

Yn ein Hoedfa Hwyrol (18:00), bydd Owain yn parhau â’r gyfres o bregethau: ‘Tirweddau Gweddi’. ‘Rydym eisoes wedi ystyried yr Ardd a’r Mynydd; Glan Môr a’r Goedwig, yr Anialwch, yr Afon a’r Ogof. Testun ein sylw nos Sul fydd yr Wybren liw nos: ymhyfrydu yn ein bychander. (Salm 8: 3-5 & 9; 19:1). Oedfa Gymundeb fydd hon. Cawn gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint.

Methu dod i’r Oedfaon? Ymunwch â ni trwy gyfrwng negeseuon trydar @MinnyStreet #AddolwnEf Dechrau toc wedi 10:30/18:00.

Bydd cyfle trwy gyfrwng Casgliad Rhydd y ddwy Oedfa heddiw i gyfrannu tuag at waith y Genhadaeth a bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi’r Oedfa Hwyrol.

Ein braint pnawn Sul (14:30), fel eglwys, fydd cael bod yn gyfrifol am baratoi te i’r digartref yn y Tabernacl, yr Âis.

Koinônia amser cinio dydd Mercher (10/7): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

June 28, 2019 Owain Evans

Bydd ein Hoedfa Foreol 10:30 dan arweiniad ein Gweinidog. Testun ein sylw fydd y ddameg a fu’n echel i drafodaeth Llynyddwch y bore Gwener aeth heibio: Dameg y Mab Afradlon (Luc 15:11-32). Cynhelir Ysgol Sul.

Methu dod i’r Oedfa? Ymunwch â ni trwy gyfrwng negeseuon trydar @MinnyStreet #AddolwnEf Dechrau toc wedi 10:30.

Ym mis Mai 2013, cyhoeddwyd Adroddiad o Drafodaethau ac Argymhellion Gweithgor Gweinidogaeth Eglwys Minny Street. Y cyntaf o bum flaenoriaeth a nodwyd i waith a chenhadaeth yr eglwys hon oedd Addoliad. Wrth ymfalchïo yn arddull, naws ac ehangder ein haddoliad, teimlai’r Gweithgor bod yna gyfleoedd i gynyddu ymwneud aelodau yn ein hoedfaon. Hyn, nid yn unig er mwyn datblygu "gweinidogaeth yr holl saint", ond hefyd, fel modd i feithrin cynulleidfa a fydd, gobeithio, yn fwy parod i ymgymryd â threfnu ac arwain oedfaon pan fydd, efallai, mwy o alw (e.e. cyfnod di-weinidog). Cytunwyd bod angen meithrin, ymysg ein haelodau, barodrwydd i gynnig gwasanaeth yn hytrach na disgwyl i rywun ofyn. Gwelwyd hefyd gyfleoedd trwy’r fath ymwneud i ennyn ymdeimlad o gyd-weithio ymysg grwpiau o aelodau’r gynulleidfa.

Bellach, mae pob pumed Sul yn y mis yn gyfle i aelodau’r eglwys i drefnu a chynnal yr addoliad. Buddiol a bendithiol yw hyn. Bydd yr Oedfa Hwyrol (18:00) dan arweiniad aelodau Pontcanna a Threganna. Bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri yn dilyn yr Oedfa.

Dyfal bu’r paratoi, a dygn y trefnu i sicrhau fod gan bawb - o’r ieuengaf i’r hynaf - ei le, cyfle a chyfraniad. Pawb a’i waith, a gwaith i bawb wrth gynnal gwasanaeth ac offrymu mawl ac addoliad. Gweddïwn am wenau Duw ar yr Oedfa arbennig hon.

Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth iddynt edrych a threfnu i’r dyfodol.

Babimini bore Gwener (5/7; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.

← Newer Posts Older Posts →

Eglwys Annibynnol Minny St.
Y Waun Ddyfal, Caerdydd
CF24 4ER

Lawrlwytho
Dogfennau

©minny St 2021