Edrychwn ymlaen at yr Oedfa Foreol Gynnar (9/6 am 9:30 yn y Festri). Down ynghyd, o’r ieuengaf i’r hynaf i ddathlu’r Pentecost. Gweinir brecwast bach a nwyddau Masnach Deg yn y Festri rhwng y ddwy Oedfa Foreol.
Testun ein sylw yn yr Oedfa Foreol (10:30) fydd Yr wyf fi wedi dod i fwrw tân ar y ddaear ... (Luc 12:49a). Fe all y Sulgwyn, heb ofal mawr, droi’n Sul niwlog iawn! Fe berthyn i’r Sul arbennig hwn ogwydd naturiol tuag at sylwadau annelwig, diwinyddiaeth drom, syniadau gwlanog, meddyliau plu, pentyrru trosiadau - a'r cyfan oll yn creu dryswch mawr!
O bob ymadrodd ar wefus pregethwr yn ei bulpud, ‘Ysbryd Glân’ yw’r mwyaf diystyr i fwyafrif ei wrandawyr! O bob un o’r drindod, yr Ysbryd Glân yw’r mwyaf astrus - anodd cael gafael ar yr Ysbryd. Mae ceisio diffinio’r Ysbryd Glân yn brofiad tebyg i sgrifennu â dŵr!
Mae ‘na ddelwedd o’r Ysbryd Glân sydd heb fod mor annelwig, sef yr Ysbryd fel tân. I ddechrau, mae tân yn difa. Y Sulgwyn hwn, boed i dân yr Ysbryd Glân ddifa'r cyfryngau a drodd yn ddibenion yn ein plith, fel y gallwn drin yr eglwys leol hon mor gelfydd â’r gof y fflam.
Pan nad yw tân yn difa, mae tân yn tymheru, yn cryfhau. Y Sulgwyn hwn, boed i dân yr Ysbryd Glân dymheru ein ffydd fel y daw yn fwy hyderus, fwy mentrus, fwy gobeithiol, gloyw a glân.
Yn olaf, mae tân yn asio pethau at ei gilydd. Y Sulgwyn hwn, boed i dân yr Ysbryd Glân ein hasio ynghyd yn gymdeithas ystwyth gref.
Liw nos (18:00) awn i’r afael â’r adnod hon: ... ac wrth glywed y sŵn hwn fe ymgasglodd tyrfa ohonynt ... (Actau 2:6) ... ymgasglodd tyrfa ohonynt ... Pwy yw’r bobl hyn?
Mae’r ateb yn yr adnod flaenorol: Yr oedd yn preswylio yn Jerwsalem ... pobl dduwiol o bob cenedl dan y nef.
Nid pobl hawdd i Dduw eu cyffwrdd yw pobl dduwiol. Beth a ddywedir amdanynt felly? Nodir tri pheth am y bobl dduwiol hyn. Maen nhw’n rhyfeddu; yn amau; yn gwatwar.
Dylai’r eglwys fod i gymdogaeth, gwlad a byd yn destun syndod a rhyfeddod, gan mae eglwys hyderus yw eglwys y Pentecost.
Eglwys hyderus yw eglwys y Pentecost, felly dylai’r eglwys fod i gymdogaeth, gwlad a byd yn labordy’r ffydd. Mynnwn, yn hytrach na syllu i lawr ar ein bogail ein hun, edrych yn ôl wrth edrych ymlaen, ac edrych ymlaen wrth edrych yn ôl.
Dylai’r eglwys fod i gymdogaeth, gwlad a byd yn gydblethiad o bendantrwydd a gwyleidd-dra. Pam? Eglwys hyderus yw eglwys y Pentecost. Cenhadaeth yr eglwys yw dweud bod hyder ffydd ar gael i bawb.
Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth edrych a threfnu i’r dyfodol.
Koinônia amser cinio dydd Mercher (12/6): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.
Nos Fercher (12/6): Gwasanaeth Cymdeithas y Beibl gyda ffair a noson goffi i ddilyn yn Salem, Treganna. Anerchiad gan y Parchedig Dafydd Andrew Jones.
Iau 13 - Sadwrn 15/6: Cyfarfodydd Blynyddol Undeb yr Annibynwyr yn Rhyd-y-main, Meirionydd. Gweddïwn am fendith yr Arglwydd Dduw at y Cyfarfodydd Blynyddol hyn fel y cawn ein harwain i gariad teyrngar, ymddiriedaeth rydd, ac ufudd-dod daionus.