Dros y Sul, ein braint fel eglwys fydd cael gwrando cenadwri a derbyn arweiniad gan y Parchedigion Eirian Rees, Efail Isaf (yr Oedfa Foreol am 10:30; Cynhelir Ysgol Sul) a Lona Roberts, Caerdydd (yr Oedfa Hwyrol am 18:00). Gwyddom y cawn ganddynt bregethu meddylgar a phregethau buddiol a bendithlawn. Gweddïwn am wenau Duw ar Oedfaon y Sul.
Bydd y gymdeithas yn parhau yn Koinônia: swper blasus a sgwrs ddifyr mewn bwyty Eidalaidd cyfagos.
Sul 16 – Mercher 19: Cynhadledd Ewropeaidd Cyngor y Genhadaeth Fyd-eang (CWM) yn Utrecht, Yr Iseldiroedd; bydd ein Gweinidog a Connor Evans yn cynrychioli Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn y gynhadledd.
Babimini bore Gwener (21/6; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.