'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

Dros y Sul, ein braint fel eglwys fydd cael gwrando cenadwri a derbyn arweiniad gan y Parchedig Glyn Tudwal Jones (Caerdydd). Gwyddom y cawn ganddo bregethu meddylgar a phregethau buddiol a bendithlawn. Gweddïwn am wenau Duw ar Oedfaon y Sul. Yn ôl ein harfer, bydd yr Oedfa Foreol am 10:30. Cynhelir yr Ysgol Sul. Bydd yr Oedfa Hwyrol am 18:00.  

PIMS nos Lun (24/6; 19:00-20:30 yn y Festri). Cyfarfod olaf y tymor. Bwrw golwg yn ôl dros flwyddyn o ‘Ych!’.

Bore Gwener (28/6; 10:00): ‘Llynyddwch’. Paned a thrafodaeth wrth ymyl llyn llonydd y Rhath. Cawn gyfle i drafod, fesul pennod, llyfr Elfed ap Nefydd Roberts: Dehongli’r Damhegion (Cyhoeddiadau’r Gair, 2008). Echel ein trafodaeth fore Gwener fydd Dameg y Mab Colledig. (t.82-86). Cyfarfod olaf y tymor.