Bydd ein Hoedfa Foreol 10:30 dan arweiniad ein Gweinidog. Testun ein sylw fydd y ddameg a fu’n echel i drafodaeth Llynyddwch y bore Gwener aeth heibio: Dameg y Mab Afradlon (Luc 15:11-32). Cynhelir Ysgol Sul.
Methu dod i’r Oedfa? Ymunwch â ni trwy gyfrwng negeseuon trydar @MinnyStreet #AddolwnEf Dechrau toc wedi 10:30.
Ym mis Mai 2013, cyhoeddwyd Adroddiad o Drafodaethau ac Argymhellion Gweithgor Gweinidogaeth Eglwys Minny Street. Y cyntaf o bum flaenoriaeth a nodwyd i waith a chenhadaeth yr eglwys hon oedd Addoliad. Wrth ymfalchïo yn arddull, naws ac ehangder ein haddoliad, teimlai’r Gweithgor bod yna gyfleoedd i gynyddu ymwneud aelodau yn ein hoedfaon. Hyn, nid yn unig er mwyn datblygu "gweinidogaeth yr holl saint", ond hefyd, fel modd i feithrin cynulleidfa a fydd, gobeithio, yn fwy parod i ymgymryd â threfnu ac arwain oedfaon pan fydd, efallai, mwy o alw (e.e. cyfnod di-weinidog). Cytunwyd bod angen meithrin, ymysg ein haelodau, barodrwydd i gynnig gwasanaeth yn hytrach na disgwyl i rywun ofyn. Gwelwyd hefyd gyfleoedd trwy’r fath ymwneud i ennyn ymdeimlad o gyd-weithio ymysg grwpiau o aelodau’r gynulleidfa.
Bellach, mae pob pumed Sul yn y mis yn gyfle i aelodau’r eglwys i drefnu a chynnal yr addoliad. Buddiol a bendithiol yw hyn. Bydd yr Oedfa Hwyrol (18:00) dan arweiniad aelodau Pontcanna a Threganna. Bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri yn dilyn yr Oedfa.
Dyfal bu’r paratoi, a dygn y trefnu i sicrhau fod gan bawb - o’r ieuengaf i’r hynaf - ei le, cyfle a chyfraniad. Pawb a’i waith, a gwaith i bawb wrth gynnal gwasanaeth ac offrymu mawl ac addoliad. Gweddïwn am wenau Duw ar yr Oedfa arbennig hon.
Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth iddynt edrych a threfnu i’r dyfodol.
Babimini bore Gwener (5/7; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.