Deisyfwn fendith ar Oedfaon y Sul. Bydd ein Hoedfa Foreol (10:30; cynhelir Ysgol Sul.) dan arweiniad Owain: ‘Newyddion Da'r Pregethwr’. Mae’r Pregethwr yn ceisio amlygu’r gwahaniaeth rhwng beth sydd yn para byth, a beth sydd byth yn para. Ar sail hynny, awgryma Owain heddiw fod Iesu a’r Pregethwr yn gofyn, mewn ffyrdd gwahanol, yr un cwestiwn: ai byw ydym neu fodoli?
Mae’r Pregethwr yn credu (Pregethwr 3:11) fod Duw wedi gosod tragwyddoldeb yng nghalon pob un ohonom. Dod a bod yn ymwybodol o hyn sydd yn codi ein golygon yn uwch a thu hwnt i dan yr haul. Heb gydnabod fod tragwyddoldeb ynom, bodoli a wnawn, a’r fodolaeth honno megis ddim; Hefel, dim ond anadl.
Hanfod bwriad Iesu ar ein cyfer yw byw’n gyflawn, byw’n helaeth - ymhyfrydu mewn bod; gwneud llwyr ddefnydd o’r ymwybyddiaeth o Dduw ynom ac estyn Duw i bawb yn ddiwahân - byw’n gyflawn, byw’n helaeth yn Nuw. Yr wyf fi wedi dod er mwyn i bobl gael bywyd, a’i gael yn ei holl gyflawnder (Ioan 10:10). Am wybod rhagor? Dewch â chroeso mawr.
Yn ein Hoedfa Hwyrol (18:00), bydd Owain yn parhau â’r gyfres o bregethau: ‘Tirweddau Gweddi’. ‘Rydym eisoes wedi ystyried yr Ardd a’r Mynydd; Glan Môr a’r Goedwig, yr Anialwch, yr Afon a’r Ogof. Testun ein sylw nos Sul fydd yr Wybren liw nos: ymhyfrydu yn ein bychander. (Salm 8: 3-5 & 9; 19:1). Oedfa Gymundeb fydd hon. Cawn gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint.
Methu dod i’r Oedfaon? Ymunwch â ni trwy gyfrwng negeseuon trydar @MinnyStreet #AddolwnEf Dechrau toc wedi 10:30/18:00.
Bydd cyfle trwy gyfrwng Casgliad Rhydd y ddwy Oedfa heddiw i gyfrannu tuag at waith y Genhadaeth a bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi’r Oedfa Hwyrol.
Ein braint pnawn Sul (14:30), fel eglwys, fydd cael bod yn gyfrifol am baratoi te i’r digartref yn y Tabernacl, yr Âis.
Koinônia amser cinio dydd Mercher (10/7): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.