Dros y Sul, ein braint fel eglwys fydd cael gwrando cenadwri a derbyn arweiniad gan y Parchedig Dyfrig Rees (Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr). Gwyddom y cawn ganddo bregethu meddylgar a phregethau buddiol a bendithlawn. Yn ôl ein harfer, bydd yr Oedfa Foreol am 10:30 a’r Oedfa Hwyrol am 18:00. Gweddïwn am wenau Duw ar Oedfaon y Sul.
Dymunwn yn dda i Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Caerdydd a’r Fro (27/5-1/6). Cynhelir Oedfa’r Eisteddfod fore Sul (26/5) am 9:30 yn y Neuadd Gorawl, Parc Britannia, Bae Caerdydd. Trefnwyd yr Oedfa eleni gan ‘Digon’ Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr. Boed bendith.