Yn ein Hoedfa Foreol bore Sul, bydd Owain yn parhau â’r gyfres newydd o bregethau: ‘Newyddion Da y Pregethwr’. Gellid darllen rhag blaen Pregethwr 2:2-11. Reit, meddai’r Pregethwr, dw i'n mynd i weld beth sydd gan bleser i'w gynnig! Pendraw’r arbrawf hwn mewn pleser oedd y sylweddoliad fod gan bleser lot fawr a fawr o ddim i gynnig! Dyma neges y Pregethwr: Ni all digonedd ein digoni ... heb Dduw. Dim ond yn Nuw mae gwir ddigonedd. Dim ond yn Nuw cawn yr hyn sydd angen arnom i weld a deall hyd a lled, uchder a dyfnder yr hyn oll sydd gennym, a’r hyn nad sydd gennym; yr hyn oll sydd gan eraill, yr hyn oll nad sydd ganddynt. Dim ond yn Nuw y gellid gweld a deall na ellir fy nigoni heb hefyd dy ddigoni di.
Cynhelir Ysgol Sul.
Testun ein sylw nos Sul (18:00) fydd testun y drafodaeth yn Llynyddwch bore Gwener: Dameg y Gweithwyr yn y Winllan. (Mathew 20:1-16). Mae gan y gweithwyr yn y winllan dealltwriaeth reddfol o’r hyn sy’n deg ac annheg. Mae’r ddameg hon yn lletchwith ac yn y bigog i ni, dim ond oherwydd ein bod ni’n meddwl mai nyni yw gweithwyr y bore bach (Mathew 20:1). Go iawn, nyni yw’r rhai a gyflogwyd tua phump o’r gloch (Mathew 20:6/9). O weld a deall hynny, nid dim ond annhegwch a welir felly, ond haelioni mawr. Duw annheg sydd gennym - annheg iawn. Mae’r annhegwch hwnnw’n destun diolch!
Bydd y gymdeithas yn parhau yn Koinônia: swper blasus a sgwrs ddifyr mewn bwyty Eidalaidd cyfagos.
Methu dod i’r Oedfaon? Ymunwch â ni trwy gyfrwng negesuon trydar @MinnyStreet #AddolwnEf Dechrau toc wedi 10:30/18:00.
PIMS nos Lun (20/5; 19:00-20:30 yn y Festri).
Bore Gwener (24/4; 10:00): ‘Llynyddwch’. Paned a thrafodaeth wrth ymyl llyn llonydd y Rhath. Cawn gyfle i drafod, fesul pennod, llyfr Elfed ap Nefydd Roberts: Dehongli’r Damhegion (Cyhoeddiadau’r Gair, 2008). Echel ein trafodaeth fore Gwener fydd Dameg y Gweithwyr yn y Winllan. (t.92-97).