Deisyfwn fendith ar Oedfaon y Sul. Bydd ein Hoedfa Foreol (10:30; cynhelir Ysgol Sul.) dan arweiniad Owain: Enoch; ac fe ddaw’r testun o’r bumed bennod o Genesis (ad.22): Rhodiodd Enoch gyda Duw.
‘Roedd Enoch yn dduwiol ei gymeriad. Torrodd blisgyn allanol pethau a gweld Duw ar waith ym mhawb ac ym mhopeth.
‘Roedd Enoch yn ddethol ei gwmni. Dysgodd byw drwy ganfod ystyr i’w fodolaeth yn y byd, trwy feithrin perthynas agos a Duw, ac ymddiried ei hunan i’w arweiniad a’i ymgeledd ef.
‘Roedd Enoch yn ddiogel ei gam. Ymddiriedodd yn Nuw. Nid peth anghyffredin yw inni deimlo digalondid a methiant yn ein bywyd Cristnogol a hynny, yn amlach na pheidio, oherwydd i ni geisio cynnal ein tystiolaeth a’n bywyd ysbrydol gan ddibynnu’n llwyr ar ein hadnoddau a’n nerth ein hunain, ac anghofio addewid Duw o’i gymorth a’i gadernid ef.
Liw nos am 18:00, Stori Joseff! Dyma awdur Genesis ar ei orau! Mae gafael ar y stori hon. Ynddi, ceir popeth sydd angen ar stori dda: nwyd a chwant, cynnwrf mawr a chynllwynio tawel, casineb a chariad, dial a maddeuant.
Un peth sydd ar goll o stori Joseff. Un peth sydd i ti a minnau’n holl bwysig - Duw. Dysgodd Joseff - bu’n rhaid iddo mewn gwirionedd - y grefft o glustfeinio am lais Duw. Dysgodd grefft y buasai’n dda i ni ddysgu ganddo.
Dysgodd Joseff wrando ar fywyd, ei fywyd ei hun, bywyd eraill; fe ddysgodd wrando ar yr holl bethau a ddigwyddodd iddo, o’i gwmpas, ac o’i herwydd. Wrth wrando, fe glywodd Duw yn siarad, yn cyfarwyddo, cynnal, cadw. Ymhen amser, daeth Joseff i fedru clywed Duw ym mhob peth - da a drwg, ac ym mhawb - da a drwg.
Mae’r adnod hon yn crynhôi stori Joseff, ac yn crynhoi Genesis i gyd: ... yr oeddech chwi yn bwriadu drwg ..., ond trodd Duw y bwriad yn ddaioni. (Genesis 50: 19-21). Mae’n adnod syfrdanol o fawr - yn ddatganiad enfawr am ragluniaeth - rhagluniaeth fawr y nef.
Mae Duw wedi ymroi i weithio gyda ni a thrwom ni - a dyna, am wn i, beth yw rhagluniaeth fawr y nef. Mae rhagluniaeth fawr y nef yn debyg iawn i ddawns - dawns hyfryd, hudolus rhwng rhyddid Duw â’n rhyddid ninnau.
Bydd cyfle i gyfrannu nwyddau tuag at Oasis yn ystod y dydd.
Boed bendith.