ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (19)

Heddiw, Nehemeia - yr adeiladydd, yw testun ein sylw.

Awn ati i adeiladu. A bu iddynt ymroi i’r gwaith yn ewyllysgar ... (Nehemeia 2:18)

... trwy gymorth ein Duw y cafodd y gwaith hwn ei wneud ... (Nehemeia 6:16)

 ‘Roedd Jerwsalem mewn cyflwr truenus, y muriau yn adfail. Tynnodd Nehemeia ei bobl ynghyd trwy waith, i waith i godi Jerwsalem, eto, ar ei thraed. Oherwydd Nehemeia, ‘roedd gan ei bobl galon i weithio (4:6). Y rheswm pam mae crefydd cymaint ohonom mor dila, mor analluog roi gwir foddhad inni, yw mai crefydd ddi-waith ydyw - nid oes gennym galon i weithio - a hynny mewn dyddiau sy’n galw’n daerach nag erioed am grefydd yn ei dillad gwaith.

 Pan fyddo achos Iesu yn eiddil a diglod, cadw pawb ohonom yn dy waith. Amen.

Llun: Jacques Joseph Tissot

ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (18)

Llun: Irving Amen

Heddiw, Eseia Broffwyd yw testun ein sylw. 

O’r cyff a adewir i Jesse fe ddaw blaguryn, ac fe dyf cangen o’i wraidd ef ... (Eseia 11:1)

Fe drig y blaidd gyda’r oen, fe orwedd y llewpard gyda’r myn; bydd y llo a’r llew yn cyd-bori, a bachgen bach yn eu harwain. (Eseia 11:6)

Rhoddwyd iddo lyfr y proffwyd Eseia, ac agorodd y sgrôl ... (Luc 4:17)

Haedda Proffwydoliaeth Eseia ei le fel y cyntaf o lyfrau’r Proffwydi! Nid oes dim y gellir ei gymharu â’i weledigaeth anhygoel o Dduw, a’r fendith sydd yn stôr i’w bobl! Ymddangosodd proffwydi eraill o’i flaen yn nhrefn amser, ond ni welodd neb mwy o Dduw nag Eseia! Dyfynnodd Iesu Eseia yn ei bregeth yn Synagog Nasareth (Luc 4:16-23). Mae cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o bobl Dduw wedi derbyn cysur a chymorth i fyw yn drwch o’i weledigaeth fawr o Dduw hynod fawr (pennod 6); o eni gwaredwr (pennod 9), a’r gwaredwr hwnnw’n was dioddefus i’w bobl (pennod 53).

Annwyl Dduw, diolch mai bob-yn-damaid y mynegaist ti dy feddwl a’th ewyllys i bobl erioed. Amen.

ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (17)

Heddiw, Eliseus a’r weinidogaeth iachau (2 Brenhinoedd 5) yw testun ein sylw. 

... daeth cnawd Naaman yn lân eto fel cnawd bachgen bach ... Dywedodd Eliseus wrtho, "Heddwch iti." (2 Brenhinoedd 5:14b a 19)

O ARGLWYDD, oherwydd yr wyf yn llesg; iachâ fi, ARGLWYDD ... (Salm 6:2)

Ein Tad nefol, diolchwn mai ti yw awdur bywyd, a ffynhonnell iechyd a chyfanrwydd. Maddau i ni ein dibristod o werth bywyd ac iechyd. Molwn di am dy ofal tadol drosom a amlygir mewn amrywiol ffyrdd, ac yn arbennig trwy weinidogaeth y rhai sy’n gofalu am gleifion, yn cysuro’r gwangalon, yn cyfannu lle mae rhwygiadau. Ynot ti y mae dirgelwch a thynged ein bywyd; am hynny, rho inni’r gras i ymddiried ynot ac i ddyfalbarhau.

Grist, ein Brawd, a ddaethost yn un â ni trwy dy ddioddefiadau, yn un â ni ym mhob profiad, ac sy’n gadarn i iachau. Caniatâ i bawb sy’n dioddef afiechyd corff, meddwl neu ysbryd, yr iachâd a’r cyfanrwydd sydd o fewn ein cyrraedd yn dy enw di.

Ysbryd Sanctaidd, clyw ein gweddi. Gwna ni’n un teulu, yn un â’n gilydd wrth rannu yn nioddefiadau Crist. Gweddïwn am inni brofi dy dangnefedd, ac am i inni wybod a derbyn dy ewyllys tuag atom ni a thuag at bawb. Gweddïwn dros y rhai sydd wrth y gwaith o weini ar gleifion - meddygon, gweinyddesau, a phawb arall sydd yn gofalu amdanynt. Caniatâ inni dy gwmni a’th gariad, a chadw ni yn wastad yn dy dangnefedd. Clyw ein gweddi yn enw’r Meddyg Da, Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

(O Lyfr Gwasanaethau Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Gwasg Pantycelyn 1991)

ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (16)

Heddiw, Elias a’r cigfrain (1 Brenhinoedd 17; Salm 147) yw testun ein sylw.

Bore a hwyr dôi cigfrain â bara a chig iddo ... (1 Brenhinoedd 17:6a)

Y mae’n rhoi eu porthiant i’r anifeiliaid, a’r hyn a ofynnant i gywion y gigfran. (Salm 147: 9)

Oni wyddost, oni chlywais? Duw tragwyddol yw’r ARGLWYDD a greodd gyrrau’r ddaear; ni ddiffygia ac ni flina, ac y mae ei ddeall yn anchwiliadwy. (Eseia 40:28)

​Yn ei Canticum Solis, mae Ffransis o Assisi (1181-1226) yn gweddïo fel hyn: Mawl i ti, Arglwydd, ynghyd â’th holl greaduriaid, ac yn enwedig ein brawd yr haul, sy’n peri i’r dydd wawrio; trwyddo ef y daw goleuni i ni. Mae’r stori hon o lyfr cyntaf y Brenhinoedd yn ein hatgoffa o ddau wirionedd holl bwysig: Mae gan Dduw ofal am ei greadigaeth, yn ei holl ffurfiau a’i wahanol rywogaethau. Mae ein ffydd yn galw arnom - a ninnau wedi ein creu ar ei lun a’i ddelw - i amlygu gofal Duw, wrth fod yn stiwardiaid cyfrifol o’i greadigaeth.

Yn dawel ac ystyriol sylwch ar eiriau Robert Browning (1812-1889) a Rabindranath Tagore (1861-1941):

Llun: Albert Herbert

God made all the creatures and gave them our love and our fear,

To give sign, we and they are his children, one family here.

(R.B - Saul)

Man is worse than an animal when he is an animal.

(R.T - Stray Birds)

​Pob perchen anadl ymhob man

dan gwmpas haul y nen,

ar fôr a thir, mewn gwlad a thref,

coronwch ef yn ben. Amen

(Edward Perronet 1726?-92; efel. Ieuan Glan Geirionydd, 1795-1855)

ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (15)

Doethineb Solomon yw testun ein sylw heddiw. 

A rhoes yr ARGLWYDD ddoethineb i Solomon, yn ôl ei addewid iddo ... (1 Brenhinoedd 5:2)

Y mae genau’r cyfiawn yn llefaru doethineb ... (Salm 37:30).

Trwy ddoethineb y sylfaenodd yr ARGLWYDD y ddaear ... (Diarhebion 3:19)

Trwy ei waith ef yr ydych chwi yng Nghrist Iesu, yr hwn a wnaed yn ddoethineb i ni oddi wrth Dduw. (1 Corinthiaid 1:30)

Llun: Salvadore Dali

I fod yn ddoeth, nid yw’n ofynnol, o angenrheidrwydd, ddatguddio pethau newydd. Y mae person yn ddoeth os ydyw'n egluro i gylch ehangach, wirionedd na wybyddid mohono o’r blaen ond gan gylch bychan; neu, os adfer i ymwybyddiaeth pobl, wirionedd coll, neu os dwg i amlygrwydd wirionedd a anghofiwyd, neu, os amlygir cymhwysiad newydd i wirionedd cyfarwydd.

Na foed gennym Arglwydd, ond dy ogoniant di yn uchaf nod ein bywyd. Amen