• Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu
Menu

Eglwys Minny St.

Street Address
City, State, Zip
Phone Number

Your Custom Text Here

Eglwys Minny St.

  • Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu

'BETHANIA': POBL YR HEN DESTAMENT

March 5, 2018 Owain Evans

 ‘Hanna yn y Deml’ gan Rembrandt (1606-1669)

HANNA

1 Samuel 2: 1-10

Gwelsom y peth o’r blaen ... diflastod rhwng Sarai a Hagar. Y tro hwn, Peninna, mam Elcana’r Effraimiad sydd byth a hefyd yn gwawdio Hanna. ’Roedd Hanna heb blant. Eto, daeth dydd pan anwyd mab i Hanna. Chwerthin gwnaeth Sara, canu mae Hanna, nerth ei llais - cân o orfoledd a diolchgarwch, bwrlwm o fawl. Hanna’n canmol Duw am ei drugaredd, Duw sy’n troi’r byd â’i ben i waered, Duw'r chwyldroadau mawr.

Pa ots prun ai Hanna ei hun a gyfansoddodd y geiriau neu rywun arall, ymhen blynyddoedd, a osododd y geiriau yn ei genau. Mae’r gwirionedd sydd yn y gân wedi aros drwy’r oesau, hyd ein dydd ni.

Do, gwrandawyd ei chwyn, atebwyd ei gweddi, a chyflawnodd hithau ei haddewid. Gyda Samuel yn ddigon hen i fwydo a gwisgo’i hun, aeth Hanna â’r un bach i Seilo at Eli a’i fenthyg i Dduw.

Arferai Hanna o flwyddyn i flwyddyn fynd i weld Samuel. Byddai’n mynd â chot newydd hardd iddo bob tro, bob un fymryn yn fwy na’r olaf. Ychydig a wyddom amdani ar ôl hyn, dim byd mwy nag iddi ddychwelyd gyda Elcana i’w chartref a bod iddynt dri o feibion a dwy o ferched.

  • Briw a chur, gwobr ei chariad meddai J.H.Roberts am Mair, mam Iesu; trafoder hyn yng nghyd-destun bywyd a phrofiad Hanna.
  • Cymharer gân Hanna ag Emyn Mawl Mair (Luc 1: 46-55).

EIN HOEDFA HWYROL

March 4, 2018 Owain Evans

Diolch i bawb a ddaeth ynghyd i'r Oedfa Foreol.

Penderfynwyd CYNNAL ein Hoedfa Hwyrol (18:00).

Testun homili ein Gweinidog: Gwyn ei byd y genedl y mae yr Arglwydd yn Dduw iddi. (Salm 33:12a)

Glendid; gwaddol a gweinidogaeth fydd tri phen ein myfyrdod.

TRYDYDD SUL Y GRAWYS

March 4, 2018 Owain Evans

Dysg i mi dy ffordd, O Arglwydd (Salm 27:11a)

Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Safwch ar y ffyrdd; edrychwch, ac ymofyn am yr hen lwybrau. Ple bynnag y cewch ffordd dda, rhodiwch ynddi, ac fe gewch le i orffwys (6:16)

Diolch i Jeremeia am y geiriau, ac am y cyfarwyddyd.

Oedwn heddiw ac ymofyn am yr hen lwybrau. Gwneud cam â’r ymadrodd yr hen lwybrau yw rhoi’r argraff bod Jeremeia’n rhoi gwerth ar yr hen, dim ond am ei fod yn hen. Na, galw mae’r proffwyd am adfer symledd i grefydd fel yr unig ffordd ymlaen. Symledd yr hen berthynas agos â Duw yn nyddiau’r daith trwy’r anialwch sydd yn ei feddwl - Duw â’i bobl yn cydgerdded.

Nid cynnydd yw colli symlrwydd. Yng nghanol annibendod di-ben-draw ein cyfnod a’n profiad, cynnig symlrwydd bendigedig mae Efengyl Iesu Grist.

Os gwyddoch beth yw ymofyn am yr hen lwybrau. Os gwyddoch am rywun sydd yn heddiw’n sefyll wrth groesffordd mewn bywyd, beth am gynnau cannwyll gweddi, a chyflwyno hwy, neu’ch hunain i ofal Duw?

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

March 2, 2018 Owain Evans

Daeth yr eira’n drwch i Gaerdydd a’r cyffiniau! Bu’n rhaid gohirio ein cinio Gŵyl Ddewi a ‘Cyngerdd a Chacen’ gwaetha’r modd OND mae’n fwriad gennym i gynnal ein Hoedfa Foreol am 10:30. Gweinyddir y Cymundeb; bydd natur a threfn yr Oedfa yn dibynnu i raddau helaeth ar bwy all ddod ynghyd. Felly, os mae’n ddiogel i chi fentro allan bore Sul, estynnir croeso calon i chi i ymuno â ni yn ein haddoliad. Gwneir penderfyniad parthed yr Oedfa Hwyrol bore Sul.

Nos Lun (5/3; 19:00-20:30) PIMS.

Nos Fawrth (6/3; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Pobl yr Hen Destament’. Parhawn gyda HANNA (1 Samuel 2: 1-10). Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun.

Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd nos Iau (8/3: 19:30): Myfyrdod y Grawys 2 yng Nghanolfan y Conglfaen (Cornerstone), Heol Siarl dan arweiniad Carys Whelan. Gweddïwn am wenau Duw ar waith a chenhadaeth Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd.

MINNY’D (23): MEWNFUDWR O FLODYN!

February 28, 2018 Owain Evans

 ‘Minny'd’?

Myfyrdod sydyn syml yw 'Minny'd'.

Er mai dim ond munud sydd angen i'w ddarllen, mawr obeithiwn y bydd y neges yn aros gyda chi yn hirach o dipyn.

PYTHEFNOS MASNACH DEG (Chwefror 26 - Mawrth 11)

February 26, 2018 Owain Evans

... yna caiff barn yn trigo yn yr anialwch a chyfiawnder gartrefu yn y doldir; bydd cyfiawnder yn creu heddwch, a’i effeithiau yn llonyddwch a diogelwch hyd byth. Yna bydd fy mhobl yn trigo mewn bro heddychlon, mewn anheddau diogel a chartrefi tawel. (Eseia 32:16-18)

Mae’r weledigaeth hon yn bell o gael ei gwireddu. Heddiw, yr un peth, yn anad dim, sy’n tarfu ar y gwaith o adeiladu gwell byd yw parodrwydd yr ychydig i ymelwa ar draul y mwyafrif. Mae ein brodyr a chwiorydd, ledled byd yn llafurio o dan amodau gwaith echrydus, a’m dâl cwbl annigonol i sicrhau’r mesur lleiaf o’r diogelwch a moethusrwydd y cymerwn ni yn ganiataol. Mae Duw yn disgwyl i ni godi llais yn erbyn pob anghyfiawnder. Mae Duw yn galw arnom i ddefnyddio’r golud a rhoddwyd i ni i sicrhau gwell byd i bawb.

Gwna cynnyrch Masnach Deg hi’n hawdd i ni newid y byd. Wrth yfed te a choffi Masnach Deg, gallwn newid y byd, fesul paned. Wedi dewis siocled Masnach Deg, gallwn newid y byd trwy fwyta siocled! Mae sgidiau Masnach Deg ar gael. Gallwn newid y byd wrth gerdded; mae pêl-droed Masnach Deg i gael - beth am newid y byd fesul gôl?

Nid chwarae bach yw Masnach Deg. Model economaidd amgen yw Masnach Deg yn seiliedig ar yr argyhoeddiad fod masnach a thegwch yn medru cyd-gerdded a chyd-weithio.

AIL SUL Y GRAWYS

February 25, 2018 Owain Evans

Dysg i mi dy ffordd, O Arglwydd (Salm 27:11a)

Taith yw’r Grawys. Taith anodd yw hi - dros dir diffaith, caled, cras.

Pererin wyf mewn anial dir,

yn crwydro yma a thraw ...

Tyrd, Ysbryd sanctaidd, ledia’r ffordd ...

Diolch i Williams Pantycelyn am y geiriau, ac am y cyfarwyddyd.

Beth sydd mewn anialwch? Dim. Dim ond llwch a llonyddwch llethol. Dim. Neb.

Beth sydd mewn anialwch? Cyfle. Cyfle yng nghanol drysni’r diffeithwch i ganfod Duw. Yng nghanol profiadau chwerw'r anialwch mae Duw gyda ni. Dyma neges y Beibl drwyddo draw.

A wyddoch tybed, am yr anialwch, a’i effaith ar berson?

A wyddoch efallai, am rywun sydd yn heddiw’n cerdded mewn anial dir?

Os felly, beth am gynnau cannwyll gweddi, a chyflwyno hwy, neu’ch hunain i ofal Duw?

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

February 23, 2018 Owain Evans

Dros y Sul, un adnod, dwy bregeth: Os myn neb ddod ar fy ôl i, rhaid iddo ymwadu ag ef ei hun a chodi ei groes a'm canlyn i (Mathew 16:24). Yn yr Oedfa Foreol (10:30; cynhelir Ysgol Sul), bydd Owain yn bwrw golwg lled gyffredinol dros neges yr adnod gan ymdrin â 'Dewis', 'Disgyblaeth' a 'Dalifyndrwydd' (gellid darllen Mathew 16:13-28 a Luc 14:25-33 rhag blaen). Liw nos (18:00), ceisiwn fynd i’r afael ag arwyddocâd codi croes - ein croes. Boed bendith.

Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street, (27/2; 19:30 yn y Festri): "Yr Eglwys yng Nghymru a fy ngwaith fel Archesgob" yng nghwmni Y Gwir Barchedig Ddr Barry Morgan.

Babimini bore Gwener (2/3; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.

Dydd Gweddi Fyd-eang y Chwiorydd (2/3; 14:00): gwasanaeth Cylch Caerdydd, a baratowyd eleni gan Chwiorydd Cristnogol Swrinam ar y thema "Mae cread Duw yn dda iawn i gyd!", yn Eglwys y Crwys.

← Newer Posts Older Posts →

Eglwys Annibynnol Minny St.
Y Waun Ddyfal, Caerdydd
CF24 4ER

Lawrlwytho
Dogfennau

©minny St 2021