Dysg i mi dy ffordd, O Arglwydd (Salm 27:11a)
Taith yw’r Grawys. Taith anodd yw hi - dros dir diffaith, caled, cras.
Pererin wyf mewn anial dir,
yn crwydro yma a thraw ...
Tyrd, Ysbryd sanctaidd, ledia’r ffordd ...
Diolch i Williams Pantycelyn am y geiriau, ac am y cyfarwyddyd.
Beth sydd mewn anialwch? Dim. Dim ond llwch a llonyddwch llethol. Dim. Neb.
Beth sydd mewn anialwch? Cyfle. Cyfle yng nghanol drysni’r diffeithwch i ganfod Duw. Yng nghanol profiadau chwerw'r anialwch mae Duw gyda ni. Dyma neges y Beibl drwyddo draw.
A wyddoch tybed, am yr anialwch, a’i effaith ar berson?
A wyddoch efallai, am rywun sydd yn heddiw’n cerdded mewn anial dir?
Os felly, beth am gynnau cannwyll gweddi, a chyflwyno hwy, neu’ch hunain i ofal Duw?