... yna caiff barn yn trigo yn yr anialwch a chyfiawnder gartrefu yn y doldir; bydd cyfiawnder yn creu heddwch, a’i effeithiau yn llonyddwch a diogelwch hyd byth. Yna bydd fy mhobl yn trigo mewn bro heddychlon, mewn anheddau diogel a chartrefi tawel. (Eseia 32:16-18)
Mae’r weledigaeth hon yn bell o gael ei gwireddu. Heddiw, yr un peth, yn anad dim, sy’n tarfu ar y gwaith o adeiladu gwell byd yw parodrwydd yr ychydig i ymelwa ar draul y mwyafrif. Mae ein brodyr a chwiorydd, ledled byd yn llafurio o dan amodau gwaith echrydus, a’m dâl cwbl annigonol i sicrhau’r mesur lleiaf o’r diogelwch a moethusrwydd y cymerwn ni yn ganiataol. Mae Duw yn disgwyl i ni godi llais yn erbyn pob anghyfiawnder. Mae Duw yn galw arnom i ddefnyddio’r golud a rhoddwyd i ni i sicrhau gwell byd i bawb.
Gwna cynnyrch Masnach Deg hi’n hawdd i ni newid y byd. Wrth yfed te a choffi Masnach Deg, gallwn newid y byd, fesul paned. Wedi dewis siocled Masnach Deg, gallwn newid y byd trwy fwyta siocled! Mae sgidiau Masnach Deg ar gael. Gallwn newid y byd wrth gerdded; mae pêl-droed Masnach Deg i gael - beth am newid y byd fesul gôl?
Nid chwarae bach yw Masnach Deg. Model economaidd amgen yw Masnach Deg yn seiliedig ar yr argyhoeddiad fod masnach a thegwch yn medru cyd-gerdded a chyd-weithio.